Diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau Apelau
9.—(1) Yn rheoliad 6(1)(a) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu'r cyhoedd), ar ôl “30(3)”, mewnosoder—
“neu 38(1)”.
(2) Ar ddiwedd rheoliad 6(1)(ch), dileer yr atalnod llawn a rhodder—
“;
(d)yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, hysbysu—
(i)y fforwm mynediad lleol perthnasol,
(ii)unrhyw berson y rhoddwyd iddo gopi o hysbysiad o dan adran 37(3) o'r Ddeddf neu reoliad 4(3)(b),
(iii)unrhyw berson a wnaeth sylwadau i'r atebydd mewn cysylltiad â'r mater sy'n destun yr apêl, a
(iv)unrhyw berson arall y mae'n briodol rhoi hysbysiad iddo ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.”.
(3) Yn rheoliad 6(2),—
(a)yn y frawddeg gyntaf, dileer “paragraff (1)(c) neu (1)(ch)” a rhodder “paragraff (1)(c), (ch) neu (d)” yn eu lle;
(b)yn is-baragraff (a), ar ôl “apelydd”, ychwaneger “ ac, yn achos cyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf, neu apêl o dan adran 30(3) neu 38(1) o'r Ddeddf, enw'r atebydd;”;
(c)yn is-baragraff (e), ar ôl “paragraff (1)(a) neu (b)”, ychwaneger “(pa un bynnag sydd gynharaf) neu, yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad yn unol â pharagraff (1)(c), (ch) neu (d)”; ac
(ch)ar ddiwedd is-baragraff (g), dileer “ac” ac, ar ddiwedd is-baragraff (ng), dileer yr atalnod llawn a rhodder—
“; ac
(h)yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf—
(i)p'un a yw'r apêl yn ymwneud â hysbysiad a roddwyd o dan adran 36(3) neu 37(1) o'r Ddeddf, yn ôl y digwydd, a
(ii)ar ffurf disgrifiad beth yw'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad hwnnw”.
(4) Yn rheoliad 6(3), dileer “paragraff (1)(c)” a rhodder “paragraff (1)(c), (ch) neu (d)” yn ei le.
(5) Yn rheoliad 6(4), yn lle “neu a anfonir yn unol â pharagraff (1)(a), (b), (c) neu (ch)” rhodder “o dan baragraff (a) neu (b) neu a anfonir o dan baragraff (1)(c), (ch) neu (d)”.