Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (O.S. Rhif 1995/3187) fel y'i newidiwyd eisoes, ac yn gweithredu Cyfarwyddeb 2003/114 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/2/EC ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L24, 29.1.2004, t. 58).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 o ran Cymru drwy —

(a)mewnosod diffiniad o gyflasyn, gan fod y Rheoliadau'n gymwys bellach i reoli'r defnydd o ychwanegion amrywiol mewn cyflasynnau (rheoliad 3(a) ac (c));

(b)diweddaru'r diffiniad o “Directive 95/2/EC” er mwyn iddo ymwneud â diwygio'r Gyfarwyddeb honno gan Gyfarwyddeb 2003/114/EC (rheoliad 3(b));

(c)rhoi ar gyfer y term “stabiliser” ddiffiniad newydd sy'n cynnwys sylweddau sy'n ychwanegu at allu bwyd i rwymo (rheoliad 3(ch));

(ch)diwygio rheoliad 4 i sicrhau y gellir defnyddio'n gynhwysyn mewn bwyd cyfansawdd gyflasyn y mae'n gyfreithlon bod ynddo neu arno ychwanegyn amrywiol a ganiateir (rheoliad 4));

(d)darparu bod yn rhaid ystyried bod ychwanegyn amrywiol a ganiateir ac a ddefnyddir mewn cyflasyn yn ychwanegyn yn y bwyd terfynol os yw'n cyflawni swyddogaeth dechnolegol yn y bwyd terfynol y mae'r cyflasyn hwnnw'n gynhwysyn ynddo (rheoliad 5);

(dd)gwahardd defnyddio ychwanegion mewn meintiau mwy na'r lleiafswm angenrheidiol, neu mewn amgylchiadau pan fyddent yn berygl i iechyd pobl neu'n gamarweiniol i'r defnyddiwr (rheoliad 5);

(e)gwneud darpariaeth drosiannol i ganiatáu marchnata ychwanegion a gafodd eu marchnata neu eu labelu cyn 27 Ionawr 2006 ac sy'n gyfreithlon o dan y rheolau presennol (rheoliad 6);

(f)caniatáu safoni E407a, yn ychwanegol at E407 ac E440 gyda siwgrau, ar yr amod bod hyn yn cael ei ddatgan yn ychwanegol at rif a dynodiad yr ychwanegyn (rheoliad 7(a));

(ff)cynnwys “calcium carbonate” yn enw ar E170 (rheoliadau 7(b), 13(b) a 14(b);

(g)ychwanegu at yr enwau derbyniol ar E466, E468 ac E469 (rheoliadau 7(c) a (ch) a 12(a);

(ng)caniatáu defnyddio ychwanegyn newydd, E907, yn asiant sgleinio ar gyffaith siwgr a ffrwythau sych (rheoliad 11(g));

(h)cynnwys diffiniadau newydd o gategorïau bwyd y caniateir defnyddio ynddynt ychwanegion amrywiol a ganiateir (rheoliadau 8(a) a 10(b));

(i)gwahardd defnyddio E230 fel cadwolyn a ganiateir ar gyfer trin arwyneb ffrwythau sitrws (rheoliad 9(a));

(j)estyn categorïau bwydydd y gellir defnyddio ynddynt ychwanegion amrywiol a ganiateir (rheoliadau 8(b)(i), 9(b), 11(ch), 13(a) ac (c)-(dd), 14(ch));

(l)gwahardd defnyddio ffosffadau mewn seidr a pherai (rheoliad 11(a)(ii));

(ll)darparu terfynau Rhif yddol i gyfyngu ar y defnydd o E903 (rheoliad 11(f) — (ff));

(m)gwneud darpariaeth ar gyfer y defnydd cyfyngedig o ychwanegion mewn cyflasynnau (rheoliad 8(b)(ii), 10(a), 11(a)(i), (b) — (c), (d)— (e) ac (ng));

(n)mewnosod diffiniad o oleoresinau sbeisys yn Atodlen 3 (rheoliad 11(1));

(o)caniatáu defnyddio toddyddion carwyr newydd, sef E555, mewn rhai lliwiau penodedig (rheoliad 12(b));

(p)ei gwneud yn glir i ba raddau y caniateir cario E1450 drosodd i fformiwla a bwydydd diddyfnu i fabanod (rheoliad 14(a));

(ph)diweddaru pennawd Rhan 4 o Atodlen 8 i roi sylw i Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd dietegol at ddibenion meddygol arbennig (OJ Rhif L91, 7.4.1999, t.29) (rheoliad 14 (c)).

3.  Mae arfarniad rheoliadol ar effaith y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir prif elfennau Cyfarwyddebau 2003/95/EC a 2003/45/EC yn gyfraith ddomestig. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.