xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
10 Mai 2005
Yn dod i rym
13 Mai 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddir iddo gan adrannau 47(4), 48(1) a (2), 49(2), 51(2) a (3), 52(2), 54(4) a (5), 55(1) a (2), 56(1), 58(2) a 123(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yw Rheoliadau Ardaloedd Gwella Busnes (Cymru) 2005 ac maent yn dod i rym ar 13 Mai 2005.
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “AGB” (“BID”) yw ardal gwella busnes (“business improvement district”);
ystyr “ail bleidlais” (“re-ballot”) yw pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu neu bleidlais ddiwygio, yn ôl y digwydd, sy'n ofynnol i'w threfnu yn unol â rheoliad 9(10);
ystyr “ar ffurf data” (“data form”) yw gwybodaeth sydd ar ffurf y gellir ei phrosesu gyda chyfarpar awtomatig mewn ymateb i gyfarwyddiadau a roddwyd i'r pwrpas hwnnw;
ystyr “awdurdod bilio perthnasol” (“relevant billing authority”) yw yr awdurdod bilio ar gyfer ardal ddaearyddol yr AGB;
ystyr “cod bar” (“barcode”) yw marciau —
sy'n ymddangos ar y papur pleidleisio ac sy'n cynnwys gwybodaeth ar ffurf cod am y pleidleisiwr hwnnw a'r bleidlais honno;
y mae modd eu sganio'n electronig mewn modd sy'n galluogi i'r wybodaeth ar ffurf cod a ddynodir gan y marciau i gael eu darllen; a
lle nad oes modd darllen gyda'r llygad dynol yn unig, y wybodaeth ar ffurf cod a gynhwysir yn y marciau;
ystyr “corff AGB” (“BID body”) yw, lle nad yw corff AGB awdurdod lleol yn gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, y corff (boed yn gorfforaethol neu beidio) sy'n gyfrifol am weithredu'r trefniadau;
ystyr “corff AGB awdurdod lleol” (“local authority BID body”) yw, lle mai'r awdurdod bilio perthnasol neu gwmni o dan reolaeth yr awdurdod (o fewn yr ystyr a roddir yn adran 68 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(2)) sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, y person hwnnw;
ystyr “cyflwyno…yn electronig” (“electronic communication”) yw gwybodaeth a drosglwyddir (boed o un person i'r llall, o un ddyfais i'r llall neu o berson i ddyfais neu i'r gwrthwyneb) —
drwy system delathrebu (o fewn ystyr Deddf Telathrebu 1984 (3)); neu
mewn ffordd arall, ond ar ffurf electronig;
ystyr “cynigion adnewyddu” (“renewal proposals”) yw cynigion o ran adnewyddu trefniadau'r AGB o dan adran 54(2) y Ddeddf;
ystyr “cynigion diwygio” (“alteration proposals”) yw cynigion yng nghyswllt diwygio trefniadau'r AGB yn unol â rheoliad 17;
ystyr “cynigydd yr AGB” (“BID proposer”) yw person sy'n llunio cynigion yr AGB;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(4);
ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(5);
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ar wahân i ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu unrhyw ddiwrnod sy'n ŵyl y banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(6);
ystyr “diwrnod y bleidlais” (“the day of the ballot”) yw'r diwrnod a bennir gan drefnydd y bleidlais, yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 2;
ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw, yn ddarostyngedig i reoliad 9(12), y diwrnod y daw trefniadau'r AGB i rym, yn unol ag adran 53 y Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2003;
ystyr “feto” (“veto”) yw sefyllfa lle mae'r awdurdod bilio perthnasol yn atal drwy feto yn unol ag adran 51(2) y Ddeddf;
ystyr “gorchymyn atebolrwydd” (“liability order”) yw'r ystyr a roddir yn rheoliad 10 o Reoliadau 1989;
ystyr “hereditament” (“hereditament”) yw unrhyw beth sydd, neu sy'n cael ei drin fel hereditament yn rhinwedd y darpariaethau a wneir yn, neu unrhyw ddarpariaethau a wneir o dan, adran 64 o Ddeddf 1988 gan gynnwys unrhyw hereditament y mae rheoliad 6 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol)1989(7) yn gymwys iddo ac eithrio unrhyw hereditament y mae rheoliadau a wneir o dan adran 64(3)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;
ystyr “hysbysiad feto” (“veto notice”) yw hysbysiad gan awdurdod bilio yn unol ag adran 51(4) y Ddeddf;
ystyr “hysbysiad galw am dalu” (“demand notice”) yw hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff 2(1) o Atodlen 4;
ystyr “person sydd â hawl i bleidleisio” (“person entitled to vote”) yw'r ystyr a roddir yn rheoliad 8;
ystyr “pleidlais adnewyddu” (“renewal ballot”) yw pleidlais o dan adran 54(2) y Ddeddf;
ystyr “pleidlais AGB” (“BID ballot”) yw pleidlais o dan adran 49(1) y Ddeddf;
ystyr “pleidlais ddiwygio” (“alteration ballot”) yw'r ystyr a roddir yn rheoliad 17;
ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989(8);
ystyr “swm sy'n daladwy” (“the amount payable”) yw'r swm sy'n daladwy am gyfnod trethadwy neu ran o gyfnod trethadwy o ran person penodol, awdurdod bilio perthnasol a hereditament gan gynnwys —
y swm y mae'r person hwnnw yn atebol i'w dalu i'r awdurdod mewn perthynas â'r hereditament am y cyfnod neu ran o'r cyfnod o dan adran 46 y Ddeddf yn rhinwedd y ffaith fod y person hwnnw yn dod o dan y disgrifiad o bersonau sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn nhrefniadau'r AGB; neu
lle mae'r awdurdod yn gyfrifol am gredydu'r swm yn erbyn atebolrwydd y person hwnnw am y cyfnod neu ran ohono, y swm (os oes un) y mae'r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn fwy na'r swm sydd i'w gredydu yn y modd hwnnw;
ystyr “trefnydd y bleidlais” (“ballot holder”) yw'r ystyr a roddir yn rheoliad 6;
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at —
(a)rif rheoliad neu Atodlen, yn gyfeiriad at y rheoliad yn, neu'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn sydd â'r Rhif hwnnw;
(b)at rif paragraff, mewn rheoliad neu Atodlen, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sydd â'r Rhif hwnnw;
(c)rif neu lythyren is-baragraff, mewn paragraff, yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sydd â'r Rhif hwnnw neu'r llythyren honno.
2.—(1) Pan fydd yr awdurdod bilio perthnasol yn derbyn cais (wedi'i wneud yn unol â pharagraff (2)) gan unrhyw berson sy'n datblygu cynigion AGB, rhaid i'r awdurdod —
(a)paratoi dogfen yn dangos (cyn belled ag y gall yr awdurdod bilio perthnasol ganfod o'i gofnodion bilio ardrethi annomestig ar y pryd) enw pob trethdalwr annomestig a chyfeiriad a gwerth ardrethol pob hereditament a feddiannir, neu (os na feddiannir) a berchenogir ganddo yn ardal ddaearyddol yr AGB arfaethedig; a
(b)darparu copi o'r wybodaeth yn y ddogfen i'r person perthnasol ar ffurf data.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) —
(a)bod ar ffurf cais ysgrifenedig i'r awdurdod bilio perthnasol;
(b)cadarnhau bod y person sy'n gwneud y cais yn bwriadu defnyddio'r wybodaeth ond i bwrpas datblygu cynnig yr AGB fel a ddisgrifir yn y cais;
(c)darparu crynodeb o natur cynigion yr AGB sydd i'w datblygu;
(ch)darparu disgrifiad o'r ardal ddaearyddol ar gyfer yr AGB arfaethedig; a
(d)cynnwys y ffi (os oes un) a godir gan yr awdurdod bilio perthnasol o dan baragraff (4).
(3) Ni chaiff unrhyw berson —
(a)ddatgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (1);
(b)gwneud defnydd o wybodaeth o'r fath,
heblaw at ddiben datblygu cynigion yr AGB fel a ddisgrifir yn y cais a wneir o dan baragraff (1).
(4) Caiff yr awdurdod bilio perthnasol godi tâl ar y person sy'n gwneud y cais am wybodaeth am ddelio gyda'r cais ac am ddarparu'r wybodaeth o dan y rheoliad hwn.
(5) Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol sicrhau bod swm y tâl a godir ganddo o dan baragraff (4) yn rhesymol o ystyried y costau a achosir neu sy'n debygol o gael eu hachosi gan yr awdurdod wrth ddelio gyda cheisiadau a darparu gwybodaeth o dan y rheoliad hwn.
3.—(1) Caiff y personau canlynol lunio cynigion AGB —
(a)unrhyw berson sydd, ar yr adeg yr anfonir eu cynigion AGB at yr awdurdod bilio perthnasol o dan reoliad 4(2)(a) —
(i)yn drethdalwr annomestig mewn perthynas â hereditament a leolir yn yr AGB arfaethedig;
(ii)â buddiant mewn tir (a leolir yn yr ardal sydd i'w chynnwys mewn cynigion o'r fath) boed hynny fel rhydd-ddeiliad, person morgeisiedig neu ddeiliad prydles, neu sydd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn derbyn rhent am y tir (p'un ai yw'n drethdalwr annomestig o ran y tir hwnnw neu beidio); neu
(iii)yn gorff (boed yn gorfforaethol neu beidio) lle mai un o'i bwrpasau yw, neu lle mae'n cynnwys, datblygu cynigion AGB; a
(b)yr awdurdod bilio perthnasol.
(2) Rhaid i gynigydd yr AGB, o leiaf 84 diwrnod cyn cyflwyno'r hysbysiad sy'n ofynnol o dan reoliad 4(2)(a)(ii), hysbysu'r awdurdod bilio perthnasol a'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ynghylch bwriad y cynigydd i ofyn i'r awdurdod bilio perthnasol roi cynigion yr AGB i bleidlais.
4.—(1) Rhaid i gynigion yr AGB, cynigion adnewyddu neu gynigion diwygio, yn ôl y digwydd, gynnwys y materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1, 2 a 3 o Atodlen 1.
(2) Pan fydd cynigydd yr AGB yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion yr AGB drwy bleidlais AGB, neu lle mae'r corff AGB yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion diwygio drwy bleidlais ddiwygio neu ar gyfer cynigion adnewyddu drwy bleidlais adnewyddu, rhaid iddo —
(a)anfon at yr awdurdod bilio perthnasol —
(i)copi o gynigion yr AGB, y cynigion diwygio neu'r cynigion adnewyddu, yn ôl y digwydd, ynghyd â chrynodeb o —
(aa)y broses ymgynghori y mae wedi'i chynnal gyda'r personau hynny fydd yn atebol i dalu lefi'r AGB arfaethedig;
(bb)cynllun busnes arfaethedig (gan gynnwys amcangyfrif o'r llif arian, amcangyfrif o'r refeniw y disgwylir ei gynhyrchu a'r gwariant disgwyliedig o dan drefniadau'r AGB, y gyllideb ddisgwyliedig dros gyfnod trefniadau'r AGB a'r ddarpariaeth wrth gefn yn y gyllideb);
(cc)cytundeb arfaethedig sydd i'w ffurfio gyda'r awdurdod bilio perthnasol; a'r
(chch)trefniadau rheolaeth ariannol ar gyfer y corff AGB, a'r trefniadau ar gyfer darparu'r awdurdod bilio perthnasol, o bryd i'w gilydd, gyda gwybodaeth am sefyllfa ariannol y corff AGB; a
(ii)hysbysiad yn gofyn i'r awdurdod bilio perthnasol gyfarwyddo trefnydd y bleidlais i gynnal pleidlais AGB, pleidlais ddiwygio neu bleidlais adnewyddu, yn ôl y digwydd; a
(b)darparu'r awdurdod bilio perthnasol gydag unrhyw wybodaeth y bydd yn rhesymol ei angen i'w fodloni ei hun bod gan gynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, gyllid digonol i dalu costau'r bleidlais AGB neu'r bleidlais adnewyddu, neu'r ail bleidlais o ran y bleidlais AGB neu'r bleidlais adnewyddu, yn ôl y digwydd, os bydd yn ofynnol iddo wneud hynny o dan reoliad 10.
(3) Os —
(a)yw cynigydd yr AGB yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion yr AGB drwy bleidlais AGB;
(b)yw corff AGB neu gorff AGB awdurdod lleol, yn ôl y digwydd, yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion diwygio drwy bleidlais ddiwygio neu ar gyfer cynigion adnewyddu drwy bleidlais adnewyddu,
rhaid iddo anfon copi o gynigion yr AGB, y cynigion diwygio neu'r cynigion adnewyddu, yn ôl y digwydd, a'r cynllun busnes arfaethedig, at unrhyw berson fydd yn atebol i dalu lefi'r AGB arfaethedig ac sy'n gofyn am gopi.
(4) Os mae'r awdurdod bilio perthnasol yn ystyried bod cynigion yr AGB, y cynigion adnewyddu neu'r cynigion diwygio yn gwrthdaro gyda pholisi sydd wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol gan yr awdurdod ac sydd wedi ei gynnwys mewn dogfen a gyhoeddwyd gan yr awdurdod (p'un ai oes gan yr awdurdod ddyletswydd statudol i baratoi dogfen o'r fath neu beidio) rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol rhesymol ar ôl derbyn y cynigion, hysbysu cynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, yn ysgrifenedig i egluro natur y gwrthdaro.
5.—(1) Pan fydd awdurdod bilio perthnasol —
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2), yn derbyn hysbysiad o dan reoliad 4(2)(a)(ii);
(b)mewn achos lle mae corff AGB awdurdod lleol yn gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion diwygio neu gynigion adnewyddu, yn ôl y digwydd; neu
(c)yn derbyn hysbysiad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 9(10) yn gofyn iddo drefnu ail bleidlais;
rhaid iddo gyfarwyddo trefnydd y bleidlais i gynnal pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd.
(2) Pan fydd awdurdod bilio perthnasol yn derbyn hysbysiad o dan reoliad 4(2)(a)(ii), nid yw'n ofynnol iddo gyfarwyddo trefnydd y bleidlais o dan baragraff (1) hyd nes bydd cynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, yn cydymffurfio gyda gofynion rheoliad 4(1) a (2).
6.—(1) Y person sy'n cynnal pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais (“trefnydd y bleidlais”) yw'r person a benodwyd gan yr awdurdod bilio perthnasol o dan adran 35 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(9) i fod yn swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau i'r awdurdod hwnnw.
(2) Caiff trefnydd y bleidlais, ar ffurf ysgrifenedig drwy ei law ef neu hi, benodi un neu fwy o bersonau i gyflawni'r cyfan neu unrhyw un o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.
7. Pan fydd yn derbyn cyfarwyddyd o dan reoliad 5, rhaid i drefnydd y bleidlais wneud trefniadau i gynnal pleidlais AGB, pleidlais ddiwygio, pleidlais adnewyddu neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, yn unol ag Atodlen 2.
8.—(1) Bydd gan berson hawl i bleidleisio mewn pleidlais AGB, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais o ran pleidlais AGB, neu mewn pleidlais ddiwygio os, ar y dyddiad y bydd trefnydd y bleidlais yn cyflwyno'r hysbysiad o dan baragraff 3(a) o Atodlen 2, bydd y person hwnnw yn dod o dan y categori o drethdalwyr annomestig sy'n atebol i dalu lefi'r AGB fel a ddisgrifir yng nghynigion yr AGB neu'r cynigion diwygio, yn ôl y digwydd.
(2) Bydd gan berson hawl i bleidleisio mewn pleidlais adnewyddu neu ail bleidlais o ran pleidlais adnewyddu os, ar y dyddiad y bydd trefnydd y bleidlais yn cyhoeddi'r hysbysiad o dan baragraff 3(a) o Atodlen 2, yw'n dod o dan y categori o drethdalwyr annomestig sydd yn atebol i dalu lefi'r AGB ar y dyddiad hwnnw.
(3) Pan fydd mwy nag un person yn atebol i dalu lefi'r AGB fel partneriaid neu ymddiriedolwyr o ran hereditament, y person sydd â hawl i bleidleisio o ran yr hereditament hwnnw fydd y partneriaid neu'r ymddiriedolwyr ar y cyd.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddatgan bod pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais yn annilys os yw'n ymddangos iddo fod unrhyw anghysondeb sylweddol wedi digwydd.
(2) Yn y rheoliad hwn, y mae “anghysondeb sylweddol” yn golygu —
(a)tramgwyddo yn erbyn unrhyw un o ofynion y Rheoliadau hyn sydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, yn golygu ei bod yn debygol fod pleidleisio yn y bleidlais AGB, y bleidlais adnewyddu, y bleidlais ddiwygio neu'r ail bleidlais yn ôl y digwydd wedi'i effeithio i raddau helaeth gan y tramgwydd hwn;
(b)bod personau ar wahân i bersonau sydd â hawl i bleidleisio wedi honni pleidleisio yn y bleidlais AGB ac, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, y mae'n debygol bod canlyniad y bleidlais AGB, y bleidlais adnewyddu, y bleidlais ddiwygio neu'r ail bleidlais, yn ôl y digwydd, wedi ei effeithio i raddau helaeth; neu
(c)bod personau sydd â hawl i bleidleisio wedi eu hatal rhag pleidleisio neu eu rhwystro rhag gwneud hynny yn rhydd yn unol â'u barn ac, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, y mae'n debygol bod canlyniad y bleidlais AGB, y bleidlais adnewyddu, y bleidlais ddiwygio neu'r ail bleidlais, yn ôl y digwydd, wedi ei effeithio i raddau helaeth.
(3) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys oni bai fod person (“yr achwynydd”), sef person neu grŵp o bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4), erbyn y dyddiad sydd 28 diwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad ynghylch y canlyniad o dan baragraff 17 o Atodlen 2, wedi gwneud cais (drwy hysbysiad ysgrifenedig) i'r Cynulliad Cenedlaethol i arfer ei bwerau o dan y rheoliad hwn, gan nodi'r rheswm dros y cais hwnnw.
(4) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw —
(a)cynigydd yr AGB neu'r corff AGB;
(b)o leiaf 5 y cant o'r personau sydd â hawl i bleidleisio yn y bleidlais AGB, y bleidlais adnewyddu, y bleidlais ddiwygio neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd; neu
(c)yr awdurdod bilio perthnasol.
(5) Pan fydd yn derbyn cais o dan baragraff (3), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r achwynydd, yr awdurdod bilio perthnasol a chynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, yn ysgrifenedig ei fod wedi derbyn y cais ac anfon copi at bob un ohonynt.
(6) Pan fydd dau neu fwy o geisiadau yn ymwneud â'r un bleidlais, caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu y ceisiadau hynny gyda'i gilydd.
(7) O fewn 28 diwrnod i ddyddiad derbyn yr hysbysiad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (5), caiff yr achwynydd, yr awdurdod bilio perthnasol a chynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y cais.
(8) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r sylwadau a wnaed gan un parti at y partïon eraill ynghyd â datganiad yn egluro effaith paragraff (9).
(9) Caiff unrhyw barti yr anfonir copi o'r sylwadau ato o dan baragraff (8), o fewn 14 diwrnod i fod wedi ei dderbyn, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig pellach mewn ymateb i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o unrhyw sylwadau pellach o'r fath at y partïon eraill.
(10) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r achwynydd, yr awdurdod bilio perthnasol a chynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, ynghylch ei benderfyniad a, pan fydd yn datgan bod pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais yn annilys, rhaid iddo hysbysu'r awdurdod bilio perthnasol yn ysgrifenedig i ofyn iddo drefnu cynnal ail bleidlais neu ail bleidlais arall, yn ôl y digwydd.
(11) Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol yn datgan bod pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais o ran pleidlais o'r fath yn annilys ac y mae o'r farn bod yr anghysondeb sylweddol wedi'i achosi gan weithredoedd neu hepgoriad cynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad i'r perwyl hwnnw ynghyd â'i hysbysiad penderfynu ac, yn yr hysbysiad hwnnw rhaid iddo egluro effaith rheoliad 10.
(12) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan bod pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais yng nghyswllt pleidlais o'r fath yn annilys—
(a)ni fydd trefniadau'r AGB, y trefniadau AGB adnewyddedig neu'r diwygiadau i'r trefniadau AGB, o ran pleidlais a gafodd ei datgan yn annilys, yn dod i rym ar y diwrnod cychwyn; ac
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (13), bydd trefniadau'r AGB, y trefniadau AGB adnewyddedig neu'r diwygiadau i'r trefniadau AGB, os cymeradwyir hwynt drwy ail bleidlais yn dilyn hynny, yn dod i rym ar y diwrnod y bydd yr awdurdod bilio perthnasol yn pennu.
(13) Rhaid i'r diwrnod a bennir o dan baragraff (12) beidio â bod ddim hwyrach na blwyddyn ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad ynghylch y canlyniad o dan baragraff 17 o Atodlen 2.
10.—(1) Y mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd nifer y personau a bleidleisiodd o blaid yn y bleidlais yn llai na 20 y cant o'r nifer o bersonau sydd â hawl i bleidleisio yn y bleidlais, ac —
(a)ni chymeradwywyd y cynigion drwy'r bleidlais; neu
(b)y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi hysbysiad o dan reoliad 9(11) ynghylch y bleidlais.
(2) Pan fo paragraff (1) yn berthnasol, caiff yr awdurdod bilio perthnasol ei gwneud yn ofynnol i gynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, i dalu costau trefnu a chynnal y bleidlais a gall yr awdurdod bilio perthnasol adennill y swm hwn fel dyled sifil sydd yn ddyledus iddo.
(3) Y mae'r costau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yn cynnwys unrhyw dreuliau a achoswyd yn gywir gan drefnydd y bleidlais ac a godwyd ar yr awdurdod bilio perthnasol o dan reoliad 20.
11.—(1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyfarwyddo trefnydd y bleidlais i gynnal pleidlais (o dan reoliad 5(1)), rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol —
(a)paratoi dogfen yn dangos (cyn belled ag y gall yr awdurdod bilio perthnasol ganfod o'i gofnodion ardrethi annomestig ar y pryd) enw pob trethdalwr annomestig a chyfeiriad a gwerth ardrethol pob hereditament a feddiannir, neu (os na feddiannir) a berchenogir ganddo yn yr ardal ddaearyddol y mae unrhyw gynigion AGB, cynigion diwygio neu gynigion adnewyddu, yn ôl y digwydd, yn berthnasol iddo;
(b)darparu copi o'r ddogfen honno i drefnydd y bleidlais; a
(c)darparu copi o'r wybodaeth yn y ddogfen honno yn ei brif swyddfa yn ystod oriau gwaith arferol i'w archwilio gan unrhyw berson.
(2) Pan fydd yn derbyn cais (a wnaed yn unol â pharagraff (3)) gan —
(a)gynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd; neu gan
(b)unrhyw berson sydd, neu unrhyw grŵp o bersonau sydd yn cynrychioli 5 y cant neu fwy o'r personau sy'n atebol i dalu unrhyw lefi AGB arfaethedig,
rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol ddarparu, ar ffurf data, copi o'r wybodaeth yn y ddogfen y mae'n ofynnol iddo'i pharatoi o dan baragraff (1) i'r person neu'r grŵp o bersonau hynny.
(3) Rhaid i gais a wneir o dan baragraff (2) —
(a)bod ar ffurf ysgrifenedig i'r awdurdod bilio perthnasol;
(b)nodi pa bleidlais AGB, pleidlais ddiwygio, pleidlais adnewyddu neu ail bleidlais y gwneir y cais mewn perthynas ag ef;
(c)cadarnhau bod y person neu'r grŵp o bersonau sy'n gwneud y cais yn bwriadu defnyddio'r wybodaeth y gofynnir amdani ond i bwrpas canfasio personau sydd â hawl i bleidleisio yn y bleidlais AGB, y bleidlais ddiwygio, y bleidlais adnewyddu neu'r ail bleidlais a nodir yn y cais a wneir o dan baragraff (2); a
(ch)cynnwys y ffi (os oes un) a godir gan yr awdurdod bilio perthnasol o dan baragraff (5).
(4) Ni chaiff unrhyw berson —
(a)datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a ddarperir iddo o dan baragraff (2);
(b)defnyddio unrhyw wybodaeth o'r fath,
ac eithrio at ddiben canfasio personau sydd â hawl i bleidleisio yn y bleidlais AGB, y bleidlais ddiwygio, y bleidlais adnewyddu neu'r ail bleidlais a nodir yn y cais a wneir o dan baragraff (2).
(5) Caiff yr awdurdod bilio perthnasol godi tâl am ddelio â chais ac am ddarparu'r wybodaeth o dan y rheoliad hwn ar y person y darperir yr wybodaeth iddo.
(6) Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol sicrhau bod swm y tâl a godir o dan baragraff (5) yn rhesymol ar ôl ystyried y costau a achoswyd neu sy'n debygol o gael eu hachosi gan yr awdurdod wrth ddelio gyda cheisiadau ac am gyflenwi gwybodaeth o dan y rheoliad hwn.
12.—(1) At ddibenion adran 51(2) y Ddeddf, yr amgylchiadau rhagnodedig yw bod awdurdod bilio perthnasol o'r farn bod trefniadau'r AGB yn debygol—
(a)o wrthdaro yn sylweddol gydag unrhyw bolisi sydd wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol ac a gynhwysir mewn dogfen a gyhoeddwyd gan yr awdurdod (p'un ai yw'r awdurdod o dan ddyletswydd statudol i baratoi dogfen o'r fath neu beidio); neu
(b)o fod yn faich ariannol anghymesur ar unrhyw berson neu gategori o bersonau (o'u cymharu â threthdalwyr annomestig eraill yn ardal ddaearyddol yr AGB) a—
(i)bod y baich yn cael ei achosi gan gamlunio ardal ddaearyddol yr AGB neu gan strwythur lefi'r AGB; a
(ii)bod y baich yn annheg.
(2) At ddiben adran 51(2) y Ddeddf, y cyfnod rhagnodedig yw 15 o ddiwrnodau gwaith o ddiwrnod y bleidlais.
(3) At ddiben adran 51(3) y Ddeddf, y materion rhagnodedig y mae'n rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol eu hystyried wrth benderfynu a fydd yn defnyddio ei hawl i atal drwy feto yw—
(a)lefel y gefnogaeth (fel a ddangosir gan ganlyniad y bleidlais AGB neu'r ail bleidlais AGB, yn ôl y digwydd) ar gyfer cynigion yr AGB;
(b)natur a maint y gwrthdaro y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a);
(c)o ran paragraff (1)(b), strwythur lefi'r AGB arfaethedig a sut y bydd baich ariannol yr AGB yn cael ei rannu ymhlith trethdalwyr yn ardal ddaearyddol yr AGB;
(ch)i ba raddau y mae cynigydd yr AGB wedi trafod cynigion yr AGB gyda'r awdurdod cyn cyflwyno cynigion yr AGB i'r awdurdod o dan reoliad 4; ac
(d)y gost a achoswyd gan unrhyw berson hyd at ddiwedd y cyfnod a ragnodir ym mharagraff (2) o ganlyniad i ddatblygu cynigion yr AGB a chanfasio yng nghyswllt cynigion yr AGB.
13.—(1) Rhaid i berson (“yr apelydd”) sydd am apelio yn erbyn feto o dan adran 52(1) y Ddeddf, gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol, o fewn 28 o ddiwrnodau i gyhoeddiad yr hysbysiad feto gan yr awdurdod bilio perthnasol o dan adran 51(4) y Ddeddf, hysbysiad ysgrifenedig (“yr hysbysiad apêl”) ynghyd â datganiad yn nodi'r rhesymau dros wneud yr apêl.
(2) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn yr hysbysiad apêl, rhaid iddo —
(a)rhoi gwybod i'r apelydd ac i'r awdurdod bilio perthnasol drwy lythyr ei fod wedi derbyn yr hysbysiad apêl; a
(b)anfon copi o'r hysbysiad apêl at yr awdurdod bilio perthnasol.
(3) Pan fydd dau neu fwy o hysbysiadau apêl yn ymwneud â'r un feto, caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yr apelau gyda'i gilydd.
(4) Penderfynir yr apêl drwy sylwadau ysgrifenedig a wneir i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(5) O fewn 28 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (2), caiff yr apelydd a'r awdurdod bilio perthnasol gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch yr apêl.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r sylwadau a wneir gan un parti yn yr apêl at y partïon eraill yn yr apêl ynghyd â datganiad yn egluro effaith paragraff (7).
(7) Caiff unrhyw barti mewn apêl yr anfonir copi o'r sylwadau ato o dan baragraff (6) gyflwyno fel ymateb, o fewn 14 diwrnod i fod wedi eu derbyn, sylwadau ysgrifenedig pellach i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o unrhyw sylwadau pellach a wneir at y partïon eraill yn yr apêl.
(8) Wrth benderfynu a fydd yn caniatáu apêl ai peidio, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried y materion canlynol—
(a)lefel y gefnogaeth (fel a ddangosir gan ganlyniad y bleidlais AGB neu'r ail bleidlais AGB, yn ôl y digwydd) ar gyfer cynigion yr AGB;
(b)natur a maint y gwrthdaro y cyfeirir ato yn rheoliad 12(1)(a);
(c)o ran rheoliad 12(1)(b), strwythur lefi'r AGB arfaethedig a sut y bydd baich ariannol yr AGB yn cael ei rannu ymhlith trethdalwyr yn ardal ddaearyddol yr AGB;
(ch)i ba raddau y mae cynigydd yr AGB wedi trafod cynigion yr AGB gyda'r awdurdod cyn cyflwyno'r cynigion hynny i'r awdurdod o dan reoliad 4;
(d)a ydyw'r awdurdod bilio perthnasol, ar ôl y dyddiad y derbynnir yr hysbysiad o dan reoliad 4(2)(a)(ii), wedi newid unrhyw bolisi a fabwysiadwyd yn ffurfiol gan yr awdurdod ac a gynhwysir mewn dogfen a gyhoeddwyd gan yr awdurdod fel bo'r polisi yna'n gwrthdaro gyda chynigion yr AGB; ac
(dd)y gost a achoswyd gan unrhyw berson hyd at ddiwedd y cyfnod a ragnodir yn rheoliad 12(2) o ganlyniad i ddatblygu cynigion yr AGB a chanfasio yngylch cynigion yr AGB.
(9) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i benderfyniad gael ei wneud, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu ei benderfyniad at yr apelydd a'r awdurdod bilio perthnasol.
14.—(1) Bydd Atodlen 3 yn cael effaith ynghylch cadw Cyfrif Refeniw AGB.
(2) Pan fydd gan yr awdurdod bilio perthnasol fwy nag un hysbysiad o dan reoliad 4(2)(a)(ii), rhaid iddo sicrhau bod Cyfrif Refeniw AGB ar wahân yn cael ei gadw ar gyfer pob un o'r ardaloedd gwella busnes.
(3) Y mae'r paragraff hwn yn gymwys pan ddaw trefniadau'r AGB i ben (drwy eu terfynu o dan reoliad 18, neu fel arall) a cheir credyd yng Nghyfrif Refeniw yr AGB a fyddai, ar ôl tynnu swm rhesymol am weinyddu'r trefniadau i gredydu neu ad-dalu'r swm, yn rhoi credyd neu ad-daliad o £5 o leiaf i bob person oedd yn atebol i dalu lefi'r AGB yn yr union gyfnod cyn i drefniadau'r AGB ddod i ben (“talwr lefi blaenorol”).
(4) Pan fydd paragraff (3) yn berthnasol, rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol —
(a)cyfrifo faint o gredyd yng Nghyfrif Refeniw yr AGB (ar ôl tynnu'r swm y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (3)) sydd i'w gredydu neu ei ad-dalu i bob talwr lefi blaenorol (a rhaid cyfrifo faint sydd i'w gredydu neu ei ad-dalu i bob talwr lefi blaenorol yn ôl faint o lefi'r AGB yr oedd pob talwr lefi blaenorol yn atebol i'w dalu dros gyfnod trethadwy diwethaf trefniadau'r AGB); ac yn
(b)gwneud trefniadau i'r swm hwnnw gael ei gredydu yn erbyn unrhyw atebolrwydd yn nhermau ardrethi annomestig gan bob talwr lefi blaenorol, neu, lle nad oes gan y person hwnnw atebolrwydd yn nhermau ardrethi annomestig, yn trefnu i'r swm gael ei ad-dalu i'r person hwnnw.
(5) Pan na fydd paragraff (3) yn berthnasol, rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol drosglwyddo'r balans credyd yng Nghyfrif Refeniw yr AGB i gredyd ei gronfa gyffredinol.
15. Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol, erbyn y dyddiad cychwyn, wneud trefniadau i godi, gweinyddu, casglu, adennill a gweithredu lefi'r AGB a bydd Atodlen 4 yn berthnasol i'r materion hyn.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), caniateir diwygio trefniadau'r AGB heb bleidlais ddiwygio pan fydd y trefniadau yn cynnwys darpariaeth i alluogi gwneud hynny.
(2) Ni chaiff unrhyw ddarpariaeth ym mharagraff (1) ddiwygio —
(a)ardal ddaearyddol yr AGB; na
(b)lefi'r AGB mewn ffordd a fyddai yn —
(i)achosi unrhyw berson i fod yn atebol i dalu lefi'r AGB lle nad oedd yn atebol i'w thalu'n flaenorol; na
(ii)chynyddu lefi'r AGB i unrhyw berson.
(3) Pan fydd paragraff (1) yn berthnasol, rhaid i drefniadau'r AGB gynnwys darpariaeth yn disgrifio'r weithdrefn sydd i'w dilyn ar gyfer gwneud y diwygiad.
(4) Rhaid i'r weithdrefn y cyfeirir ati ym mharagraff (3) gynnwys —
(a)lle ceir corff AGB, ymgynghoriad rhwng y corff AGB a'r awdurdod bilio perthnasol; a
(b)lle mai'r corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, rhaid cynnal ymgynghoriad rhwng yr awdurdod bilio perthnasol ac unrhyw gynrychiolwyr o'r gymuned fusnes yn ardal ddaearyddol yr AGB y gwêl yr awdurdod yn briodol.
(5) Pan fydd trefniadau'r AGB yn cael eu diwygio o dan y rheoliad hwn —
(a)rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol sicrhau bod trefniadau'r AGB (wedi eu diwygio) wedi eu gwneud erbyn yr amser y mae'n rhaid i'r trefniadau AGB hynny (wedi eu diwygio) ddod i rym a rhaid iddo anfon hysbysiad yn egluro'r rheswm dros y diwygiad a'i effaith at bob person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB; a
(b)bydd adrannau 44 hyd at 47 y Ddeddf, rheoliadau 14 i 18 ac Atodlenni 3 a 4 yn effeithiol o'r dyddiad y daw trefniadau'r AGB (wedi eu diwygio) i rym fel pe bai cyfeiriad ym mhob un o'r darpariaethau hyn at “drefniadau'r AGB” yn gyfeiriad at drefniadau'r AGB (wedi eu diwygio).
17.—(1) Pan fydd cynnig i newid neu ddiwygio —
(a)trefniadau'r AGB nad ydynt yn cynnwys darpariaeth i alluogi diwygio'r trefniadau heb bleidlais;
(b)ardal ddaearyddol yr AGB; neu
(c)lefi'r AGB mewn ffordd a fyddai yn —
(i)achosi unrhyw berson i fod yn atebol i dalu lefi'r AGB lle nad oedd yn atebol i'w thalu'n flaenorol; neu yn
(ii)cynyddu lefi'r AGB i unrhyw berson,
caiff y corff AGB, neu, os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, caiff yr awdurdod bilio perthnasol ddiwygio trefniadau'r AGB yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Ni ddaw diwygiadau i drefniadau'r AGB o dan y rheoliad hwn i rym oni bai y cymeradwyir y cynigion diwygio drwy bleidlais o'r trethdalwyr annomestig sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o dan drefniadau'r AGB (wedi eu diwygio) (“pleidlais ddiwygio”) ac nid ystyrir hwynt i fod wedi eu cymeradwyo gan bleidlais ddiwygio oni bai —
(a)bod y mwyafrif o'r personau sy'n pleidleisio yn y bleidlais ddiwygio wedi pleidleisio o blaid y cynigion diwygio; a
(b)bod gwerth ardrethol cyfunol pob hereditament y pleidleisiodd person yn y bleidlais ddiwygio mewn perthynas ag ef o blaid y cynigion diwygio, yn fwy na gwerth ardrethol cyfunol pob hereditament y pleidleisiodd person yn y bleidlais ddiwygio mewn perthynas ag ef yn erbyn y cynigion diwygio.
(3) Pan fydd trefniadau'r AGB yn cael eu diwygio o dan y rheoliad hwn —
(a)rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol sicrhau bod trefniadau'r AGB (wedi eu diwygio) wedi eu gwneud erbyn yr amser y mae'n rhaid i'r trefniadau AGB hynny (wedi eu diwygio) ddod i rym; a
(b)bydd adrannau 44 hyd at 47 y Ddeddf, rheoliadau 14 i 18 ac Atodlenni 3 a 4 yn effeithiol o'r dyddiad y daw trefniadau'r AGB (wedi eu diwygio) i rym fel pe bai cyfeiriad ym mhob un o'r darpariaethau hynny at “drefniadau'r AGB” yn gyfeiriad at drefniadau AGB (wedi eu diwygio).
18.—(1) Caiff yr awdurdod bilio perthnasol derfynu trefniadau'r AGB os —
(a)ym marn yr awdurdod, ni fydd gan y corff AGB gyllid digonol i gwrdd â'i atebolrwydd ariannol dros y cyfnod trethadwy presennol, ac y mae'r awdurdod wedi —
(i)rhoi cyfle rhesymol i'r corff AGB wneud trefniadau i gyllido'r diffyg ariannol neu i leihau'r gwaith neu'r gwasanaethau a ddarperir o dan drefniadau'r AGB fel bod y diffyg ariannol yn cael ei wrthbwyso'n ddigonol; ac wedi
(ii)rhoi cyfle, mewn cyfarfod cyhoeddus, i'r personau sy'n atebol i dalu lefi'r AGB wneud sylwadau yng nghyswllt terfynu trefniadau'r AGB;
(b)ym marn yr awdurdod, y mae'r corff AGB wedi methu â darparu, neu wedi methu â gwneud cynnydd rhesymol gyda darparu'r gwaith neu'r gwasanaethau sydd i'w darparu o dan drefniadau'r AGB; neu
(c)os nad yw'r awdurdod yn gallu, am resymau sydd y tu hwnt i'w reolaeth, darparu gwaith neu wasanaethau sy'n angenrheidiol i'r AGB allu parhau, ac y mae'r awdurdod—
(i)os ceir corff AGB, wedi ymgynghori gyda'r corff AGB a gydag unrhyw gynrychiolwyr o'r gymuned fusnes yn ardal ddaearyddol yr AGB y gwêl yr awdurdod yn briodol; ac
(ii)os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, wedi ymgynghori gydag unrhyw gynrychiolwyr o'r gymuned fusnes yn ardal ddaearyddol yr AGB y gwêl yr awdurdod yn briodol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y corff AGB neu, os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, caiff yr awdurdod bilio perthnasol derfynu trefniadau'r AGB os —
(a)nad oes galw mwyach am y gwaith neu'r gwasanaethau a ddarperir o dan drefniadau'r AGB; neu
(b)os nad yw'r corff AGB neu'r corff AGB awdurdod lleol, yn ôl y digwydd, ac am resymau sydd y tu hwnt i'w reolaeth, yn gallu darparu gwaith neu wasanaethau sy'n angenrheidiol i'r AGB allu parhau.
(3) Ni chaiff y corff AGB neu, os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, ni chaiff yr awdurdod bilio perthnasol gymryd unrhyw gamau i derfynu trefniadau'r AGB hyd nes —
(a)os ceir corff AGB, y bydd wedi ymgynghori gyda'r awdurdod bilio perthnasol a gydag unrhyw gynrychiolwyr o'r gymuned fusnes yn ardal ddaearyddol yr AGB y gwêl yr awdurdod yn briodol; a
(b)os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, y bydd yr awdurdod bilio perthnasol wedi ymgynghori gydag unrhyw gynrychiolwyr o'r gymuned fusnes yn ardal ddaearyddol yr AGB y gwêl yr awdurdod yn briodol.
(4) Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol hysbysu'r corff AGB yn ysgrifenedig ynghylch ei fwriad i derfynu trefniadau'r AGB o dan baragraff (1) neu (2) o leiaf 28 diwrnod cyn dyddiad eu terfynu.
(5) Rhaid i'r corff AGB hysbysu'r awdurdod bilio perthnasol yn ysgrifenedig ynghylch ei fwriad i derfynu trefniadau'r AGB o dan baragraff (2) o leiaf 28 diwrnod cyn dyddiad eu terfynu.
(6) Os terfynir trefniadau'r AGB o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol, cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i derfynu at bob person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB a rhaid i'r hysbysiad hwnnw egluro a fydd ad-daliad o dan reoliad 14(4) yn cael ei wneud.
19. Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol gyflenwi unrhyw wybodaeth i drefnydd y bleidlais y mae ei angen at ddiben cyflawni ei swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.
20. Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol dalu'r holl wariant a achosir yn briodol gan drefnydd y bleidlais o ran cynnal pleidlais o dan y Rheoliadau hyn.
21.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r gofyniad yn y Rheoliadau hyn bod unrhyw hysbysiad neu gais, yn ysgrifenedig (ar wahân i ystyr arferol yr ymadrodd hwnnw) wedi ei ddiwallu os bydd y testun—
(a)wedi ei drosglwyddo ar ffurf electronig;
(b)wedi ei dderbyn ar ffurf ddarllenadwy; a
(c)bod modd ei ddefnyddio at ddiben cyfeirio ato yn ddiweddarach.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw hysbysiad sy'n rhaid neu yr awdurdodir ei gyflwyno i awdurdod bilio neu gan awdurdod bilio i unrhyw berson o dan Atodlen 4, neu unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol iddo ei ddarparu o dan baragraff 3(2) yr Atodlen honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mai 2005
Rheoliad 4
1.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), y materion sydd i'w cynnwys yng nghynigion yr AGB yw —
(a)datganiad ynghylch pa waith neu wasanaethau sydd i'w darparu, enw'r sawl fydd yn eu darparu (enw'r corff AGB neu'r corff AGB awdurdod lleol) a sut fath o gorff yw'r darparwr (boed yn awdurdod lleol, yn gwmni o dan reolaeth yr awdurdod, yn gwmni cyfyngedig, yn bartneriaeth neu'n gorff arall);
(b)datganiad ynghylch y gwasanaethau sylfaenol presennol (os oes rhai) a ddarperir gan yr awdurdod bilio perthnasol neu awdurdod cyhoeddus arall;
(c)disgrifiad o'r ardal ddaearyddol (gan gynnwys map yn dangos yr ardal honno) lle bydd trefniadau'r AGB arfaethedig yn cael effaith;
(ch)datganiad ynghylch a fydd yr holl drethdalwyr annomestig yn yr ardal ddaearyddol, neu grŵp penodol ohonynt, yn atebol i dalu lefi'r AGB; eglurhad ynghylch sut y cyfrifir lefi'r AGB sydd i'w godi ac eglurhad ynghylch a fydd unrhyw gostau a achosir wrth ddatblygu cynigion yr AGB, yng nghyswllt cynnal pleidlais neu wrth weithredu'r AGB yn cael eu hadennill drwy lefi'r AGB;
(d)datganiad ynghylch y grŵp penodol o drethdalwyr annomestig (os oes un) y bydd unrhyw ryddhad rhag talu lefi'r AGB yn berthnasol iddo, ac ar ba lefel;
(dd)datganiad ynghylch a ganiateir diwygio trefniadau'r AGB heb bleidlais ddiwygio ac, os ie, pa agweddau ar drefniadau'r AGB y caniateir eu diwygio fel hyn;
(e)datganiad ynghylch parhad trefniadau'r AGB; a
(f)datganiad ynghylch dyddiad cychwyn trefniadau'r AGB.
(2) O ran is-baragraff (1)(c), ni chaiff yr ardal ddaearyddol lle bydd trefniadau'r AGB yn cael effaith gynnwys rhan yn unig o hereditament cyfan.
(3) O ran is-baragraff (1)(f), rhaid i gynigydd yr AGB nodi faint o ddyddiau ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad ynghylch y canlyniad o dan baragraff 17 o Atodlen 2 y bydd yn bwriadu i drefniadau'r AGB gychwyn, ac ni chaiff y dyddiad cychwyn hwn fod ddim hwyrach na blwyddyn ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw.
2. Y materion sydd i'w cynnwys mewn cynigion adnewyddu yw —
(a)datganiad ynghylch cyfnod arfaethedig (heb fod yn fwy na 5 mlynedd) y trefniadau AGB adnewyddedig; a
(b)crynodeb o drefniadau'r AGB (gan gynnwys ardal ddaearyddol yr AGB, y gwaith neu'r gwasanaeth a ddarperir, esboniad ynghylch pwy sy'n atebol i dalu lefi'r AGB, lefel lefi'r AGB a sut y caiff ei gyfrifo).
3.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), y materion sydd i'w cynnwys yn y cynigion diwygio yw disgrifiad o sut y bwriedir diwygio trefniadau'r AGB o ran y canlynol —
(a)y gwaith neu'r gwasanaethau a ddarperir neu'r person a fydd yn gyfrifol am weithredu trefniadau yr AGB;
(b)crynodeb o'r gwasanaethau sylfaenol presennol (os oes rhai) a ddarperir gan yr awdurdod bilio perthnasol;
(c)yr ardal ddaearyddol (gan gynnwys map yn dangos yr ardal honno) lle bydd trefniadau'r AGB arfaethedig yn cael effaith;
(ch)pa drethdalwyr annomestig yn yr ardal ddaearyddol fydd yn atebol i dalu lefi'r AGB; esboniad o sut y cyfrifir lefi'r AGB ac esboniad ynghylch a fydd unrhyw gostau a achosir wrth ddatblygu cynigion yr AGB, wrth gynnal pleidlais neu weithredu'r AGB yn cael eu hadennill drwy lefi'r AGB;
(d)y categori o drethdalwyr annomestig (os oes un) y bydd unrhyw ryddhad rhag talu lefi'r AGB yn berthnasol iddo, ac ar ba lefel;
(dd)a fydd trefniadau'r AGB yn cael eu diwygio heb bleidlais ddiwygio ac, os byddant, pa agweddau ar drefniadau'r AGB fydd yn cael eu diwygio yn y modd hwn; a
(e)datganiad ynghylch dyddiad cychwyn y diwygiadau i drefniadau'r AGB.
(2) O ran is-baragraff (1)(c), ni chaiff yr ardal ddaearyddol lle bydd trefniadau'r AGB yn cael effaith gynnwys rhan yn unig o hereditament cyfan.
(3) O ran is-baragraff (1)(e), rhaid i'r corff AGB neu'r corff AGB awdurdod lleol, yn ôl y digwydd, bennu faint o ddyddiau ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad ynghylch y canlyniad o dan baragraff 17 o Atodlen 2 y bydd yn bwriadu i drefniadau'r AGB ddod i rym, ac ni chaiff y dyddiad cychwyn hwn fod ddim hwyrach na blwyddyn ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw.
Rheoliad 7
1. Rhaid gweithredu'r bleidlais yn unol â'r Amserlen ganlynol.
Gweithred | Amser |
---|---|
Yr awdurdod bilio yn cyfarwyddo trefnydd y bleidlais | Yn unol â rheoliad 5 |
Cyhoeddi hysbysiad ynghylch y bleidlais | O leiaf 42 diwrnod cyn diwrnod y bleidlais (paragraff 3) |
Diwrnod y bleidlais | Y diwrnod a bennir yn unol â pharagraff 2 |
Cyhoeddi'r canlyniad | Yn unol â pharagraff 17 |
2.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i drefnydd y bleidlais sicrhau bod diwrnod y bleidlais —
(a)yn ddiwrnod gwaith;
(b)o leiaf 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y papurau pleidleisio at y pleidleiswyr (neu, lle anfonwyd y papurau pleidleisio ar fwy nag un dyddiad, ar ôl y dyddiad diwethaf); a
(c)dim hwyrach na 90 diwrnod yn cychwyn ar y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad fel sy'n ofynnol o dan baragraff 3(a).
(2) Ddim hwyrach na 42 o ddiwrnodau cyn diwrnod y bleidlais, gall trefnydd y bleidlais ohirio diwrnod y bleidlais o hyd at 15 o ddiwrnodau gwaith.
(3) Pan fydd trefnydd y bleidlais yn gohirio'r bleidlais o dan is-baragraff (2), rhaid iddo hysbysu'r awdurdod bilio perthnasol a chynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, yn ysgrifenedig ynghylch diwrnod newydd y bleidlais a'r rhesymau dros ohirio a rhaid iddo gymeryd camau rhesymol i gyhoeddi dyddiad newydd y bleidlais.
3. Rhaid i drefnydd y bleidlais, o leiaf 42 o ddiwrnodau cyn diwrnod y bleidlais —
(a)cyhoeddi hysbysiad ynghylch y bleidlais gan nodi —
(i)diwrnod y bleidlais; a
(ii)y bydd y bleidlais yn cael ei chynnal drwy'r post yn llwyr, gyda'r pleidleisiau i'w dychwelyd erbyn 5p.m. ar ddiwrnod y bleidlais;
(b)paratoi rhestr o'r personau sydd â hawl i bleidleisio ac unrhyw bleidleisiau procsi (os oes rhai);
(c)anfon at bob person sydd â hawl i bleidleisio neu, os yw'n berthnasol, at ei berson procsi, ddatganiad —
(i)yn egluro'r trefniadau ar gyfer y bleidlais;
(ii)yn egluro bod rheoliad 4(3) yn caniatáu i'r person hwnnw ofyn am gopi o gynigion yr AGB gan gynigydd yr AGB; ac yn
(iii)darparu enw a chyfeiriad cynigydd yr AGB; ac
(ch)anfon copi o'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) i'r Cynulliad Cenedlaethol.
4.—(1) Rhaid i bob pleidlais fod yn bleidlais bost.
(2) Bydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio mewn pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, un bleidlais am bob hereditament a feddiannir neu (os na feddiannir) a berchenogir ganddo yn ardal ddaearyddol yr AGB.
(3) Wrth gadarnhau gwerth ardrethol hereditament i bwrpas pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, ni ddylid ystyried unrhyw ddiwygiad i'r gwerth ardrethol na ddangosir yn y rhestr a gedwir o dan adran 42(4) o Ddeddf 1988 yn union cyn diwedd diwrnod y bleidlais.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r paragraff hwn, caiff unrhyw berson gael ei benodi yn berson procsi i bleidleisio dros rywun arall mewn pleidlais, a chaiff bleidleisio yn rhinwedd y penodiad hwnnw.
(2) Ni chaiff person sydd â hawl i bleidleisio benodi mwy nag un person procsi ar y tro i bleidleisio drosto mewn pleidlais.
(3) Pan fydd person sydd â hawl i bleidleisio yn gwneud cais i drefnydd y bleidlais i benodi person procsi i bleidleisio drosto mewn pleidlais arbennig, rhaid i drefnydd y bleidlais wneud y penodiad os bydd y cais yn cwrdd â gofynion y paragraff hwn ac os yw'r person procsi yn gallu ac yn fodlon cael ei benodi.
(4) Rhaid i gais i benodi person procsi gynnwys —
(a)enw a chyfeiriad llawn y person y mae'r person sydd â hawl i bleidleisio (yr ymgeisydd) eisiau ei benodi yn brocsi drosto;
(b)cyfeiriad hereditament yr ymgeisydd;
(c)llofnod yr ymgeisydd; a
(ch)datganiad ei fod wedi cysylltu gyda'r person procsi a enwir a bod y person procsi hwnnw yn gallu ac yn fodlon cael ei benodi.
(5) Rhaid i gais i benodi procsi gael ei wrthod i bwrpas pleidlais arbennig os yw'n cael ei dderbyn gan drefnydd y bleidlais ar ôl 5p.m. ar y degfed diwrnod cyn diwrnod y bleidlais.
(6) Os yw trefnydd y bleidlais yn caniatáu cais i benodi procsi, rhaid i drefnydd y bleidlais —
(a)gadarnhau, drwy anfon rhybudd ysgrifenedig at y person sydd â hawl i bleidleisio, bod y procsi wedi ei benodi, a'i enw a'i gyfeiriad; a
(b)cynnwys manylion y person procsi ar y rhestr y cyfeirir ato ym mharagraff 3(b).
(7) Os yw trefnydd y bleidlais yn gwrthod cais i benodi procsi, rhaid i drefnydd y bleidlais hysbysu'r ymgeisydd yn ysgrifenedig ynghylch ei benderfyniad a'r rheswm drosto.
(8) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), bydd y penodiad yn aros mewn grym ar gyfer y bleidlais honno yn unig.
(9) Caiff y person sydd â hawl i bleidleisio ganslo'r penodiad drwy hysbysu trefnydd y bleidlais neu drwy fod y person procsi yn hysbysu trefnydd y bleidlais nad yw mwyach yn dymuno gweithredu fel procsi.
(10) Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (9) a gyflwynir gan berson sydd â hawl i bleidleisio yn canslo penodiad procsi gael ei ddiystyru i bwrpas pleidlais os yw'n cael ei dderbyn gan drefnydd y bleidlais ar ôl 5p.m. ar y pumed diwrnod cyn dyddiad y bleidlais.
(11) Os yw penodiad procsi yn cael ei ganslo o dan is-baragraff (9), rhaid i drefnydd y bleidlais —
(a)hysbysu'r person sydd â hawl i bleidleisio yn ysgrifenedig bod y penodiad wedi'i ganslo;
(b)hysbysu'r person y canslwyd ei benodiad fel procsi yn ysgrifenedig, oni bai fod trefnydd y bleidlais eisoes wedi'i hysbysu gan y person hwnnw nad yw mwyach yn dymuno gweithredu fel person procsi; a
(c)tynnu enw'r person procsi oddi ar y rhestr a gedwir o dan baragraff 3(b).
6.—(1) Rhaid i bob person sy'n cymryd rhan yn y trefniadau i anfon neu dderbyn papurau pleidleisio gadw at a chynorthwyo i gadw at ofynion cyfrinachedd y bleidlais ac ni chaiff geisio canfod wrth dderbyn y papurau pleidleisio sut y pleidleisiwyd ar unrhyw bapur pleidleisio nac ychwaith gyfleu unrhyw wybodaeth amdanynt a gafwyd drwy'r trefniadau hynny.
(2) Rhaid i bob person sy'n cymryd rhan yn y gwaith o gyfri'r pleidleisiau gadw at a chynorthwyo i gadw at gyfrinachedd y pleidleisio ac ni chaiff gyfleu unrhyw wybodaeth a gafwyd wrth gyfri'r pleidleisiau ynghylch sut y pleidleisiwyd ar unrhyw bapur pleidleisio penodol.
(3) Nid oes unrhyw beth yn y paragraff hwn yn atal trefnydd y bleidlais a'i glercod rhag canfod cyfeiriad a gwerth ardrethol pob hereditament y pleidleisiwyd mewn perthynas ag ef.
7. Rhaid i drefnydd y bleidlais wneud trefniadau fel y gwêl yn briodol i sicrhau bod pob person sy'n cymryd rhan yn y gwaith o anfon neu dderbyn neu gyfri'r papurau pleidleisio wedi derbyn copi ysgrifenedig o'r darpariaethau ym mharagraff 6.
8.—(1) Nid oes unrhyw beth i'w argraffu ar y papur pleidleisio ac eithrio yn unol â'r paragraff hwn.
(2) Caiff pob papur pleidleisio fod â Rhif neu god bar ar ei gefn.
(3) Ni chaiff y blwch ar gyfer dodi pleidlais ar y papur pleidleisio fod yn llai na 1.5 centimedr sgwâr.
(4) Rhaid i'r holl eiriau ar y papur pleidleisio fod yn deip o'r un maint.
(5) Rhaid i'r papur pleidleisio ar gyfer pleidlais AGB, neu ail bleidlais AGB, gynnwys y geiriau canlynol yn Gymraeg ac yn Saesneg —
(6) Rhaid i bob papur pleidleisio ar gyfer pleidlais adnewyddu, neu ail bleidlais yng nghyswllt pleidlais adnewyddu, gynnwys y geiriau canlynol yn Gymraeg ac yn Saesneg —
(7) Rhaid i bob papur pleidleisio ar gyfer pleidlais ddiwygio, neu ail bleidlais yng nghyswllt pleidlais ddiwygio, gynnwys y geiriau canlynol yn Gymraeg ac yn Saesneg —
9. Ni fydd yn rhaid i unrhyw berson a bleidleisiodd, mewn unrhyw achos cyfreithiol yn cwestiynu'r bleidlais AGB, y bleidlais adnewyddu, y bleidlais ddiwygio neu'r ail bleidlais, ddweud sut y pleidleisiodd.
10.—(1) Rhaid anfon un papur pleidleisio at bob person sydd â hawl i bleidleisio yn y bleidlais AGB, y bleidlais adnewyddu, y bleidlais ddiwygio neu yn yr ail bleidlais, yn ôl y digwydd, am bob hereditament y mae ganddo hawl i bleidleisio mewn perthynas ag ef.
(2) Y cyfeiriad yr anfonir y papur pleidleisio iddo yw —
(a)cyfeiriad yr hereditament neu brif leoliad busnes y person sydd â hawl i bleidleisio ar y rhestr a baratowyd o dan baragraff 3(b);
(b)mewn achos procsi, y cyfeiriad a roddir ar gyfer y procsi ar y rhestr a baratowyd o dan baragraff 3(b).
(3) Ar yr un pryd, rhaid anfon at bob person sydd â hawl i bleidleisio neu, os yw'n berthnasol, at ei brocsi —
(a)datganiad wedi'i baratoi gan drefnydd y bleidlais yn egluro trefniadau'r AGB a'r trefniadau ar gyfer y bleidlais; a
(b)amlen ar gyfer dychwelyd y papur pleidleisio (“yr amlen ddychwelyd”).
(4) At ddiben anfon y papurau pleidleisio, caiff trefnydd y bleidlais ddefnyddio —
(a)darparwr gwasanaeth cyffredinol (fel a ddiffinnir yn Neddf Gwasanaethau Post 2000(11));
(b)unrhyw ddaliwr trwydded arall o dan Ran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000 os yw ei drwydded yn ei ganiatáu i ddanfon papurau o'r fath o un lle i'r llall; neu
(c)unrhyw ddull danfon a dosbarthu arall lle nad oes angen trwydded, o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000.
(5) Rhaid i gost y postio fod wedi'i thalu'n barod ar yr amlenni yr anfonir y papurau pleidleisio ynddynt a rhaid i gost y postio fod wedi'i thalu'n barod ar yr holl amlenni sydd i'w dychwelyd.
(6) Ni chaiff unrhyw berson ar wahân i drefnydd y bleidlais a'i glercod fod yn bresennol wrth anfon y papurau pleidleisio, oni bai fod gweithredwr y bleidlais yn caniatáu i'r person hwnnw fod yn bresennol.
11.—(1) Os yw pleidleisiwr wedi trin ei bapur pleidleisio, drwy amryfusedd, fel na ellir ei ddefnyddio'n hwylus fel papur pleidleisio (cyfeirir ato fel “papur pleidleisio a ddifethwyd”) caiff ddychwelyd y papur pleidleisio a ddifethwyd (naill ai drwy law neu yn y post) at drefnydd y bleidlais.
(2) Pan fydd trefnydd y bleidlais yn derbyn y papur pleidleisio a ddifethwyd, rhaid iddo anfon papur pleidleisio arall, ac eithrio os bydd yn ei dderbyn yn ddiweddarach na 3 diwrnod gwaith cyn diwrnod y bleidlais.
(3) Rhaid i drefnydd y bleidlais ganslo'r papur pleidleisio a ddifethwyd ar unwaith.
(4) Pan fydd pleidleisiwr yn gwneud cais yn bersonol, caiff trefnydd y bleidlais roi papur pleidleisio arall iddo yn lle ei anfon yn unol â pharagraff 10.
12.—(1) Os nad yw pleidleisiwr wedi derbyn ei bapur pleidleisio erbyn y pedwerydd diwrnod gwaith cyn diwrnod y bleidlais, caiff wneud cais (yn bersonol neu beidio) i drefnydd y bleidlais am bapur pleidleisio arall.
(2) Rhaid i gais o'r fath gynnwys tystiolaeth o bwy yw'r pleidleisiwr.
(3) Os yw gweithredwr y bleidlais —
(a)yn fodlon ynghylch pwy yw'r pleidleisiwr; a
(b)nid oes ganddo unrhyw reswm i amau na dderbyniodd y pleidleisiwr ei bapur pleidleisio gwreiddiol;
rhaid iddo roi papur pleidleisio arall i'r pleidleisiwr.
(4) Os yw'r pleidleisiwr yn gwneud cais yn bersonol, caiff trefnydd y bleidlais roi papur pleidleisio arall iddo yn lle ei anfon yn unol â pharagraff 10.
13.—(1) Ni chymerir y bydd papur pleidleisio drwy'r post wedi'i ddychwelyd yn briodol oni bydd wedi'i dderbyn gan drefnydd y bleidlais (naill ai drwy ei law neu yn y post) neu mewn lle wedi'i ddynodi'n benodol yn yr hysbysiad ynghylch y bleidlais fel man derbyn cyn 5p.m. ar ddiwrnod y bleidlais.
(2) Pan fydd papur pleidleisio a ddychwelir yn cael ei dderbyn, rhaid i drefnydd y bleidlais drefnu i'w gadw mewn cynhwysydd diogel hyd nes y bo'r pleidleisiau yn cael eu cyfrif.
(3) Ni chaiff unrhyw berson ar wahân i drefnydd y bleidlais a'i glercod fod yn bresennol i dderbyn y papurau pleidleisio, oni chaniateir iddynt fod yn bresennol gan drefnydd y bleidlais.
14.—(1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwrnod y bleidlais, rhaid i drefnydd y bleidlais drefnu i gyfri'r papurau pleidleisio sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (yn unol â pharagraff 13(1)) a chofnodi'r nifer a gyfrifwyd.
(2) Ni chaiff unrhyw berson ar wahân i drefnydd y bleidlais a'i glercod fod yn bresennol i gyfri'r papurau pleidleisio, oni chaniateir iddynt fod yn bresennol gan drefnydd y bleidlais.
15.—(1) Os bydd papur pleidleisio yn cael ei dderbyn sydd â'r un cod bar â phapur pleidleisio a dderbyniwyd eisoes, bydd y papur pleidleisio hwnnw a'r papur pleidleisio arall gyda'r un Rhif neu god bar (yn ôl y digwydd) yn annilys ac ni chânt eu cyfrif.
(2) Bydd unrhyw bapur pleidleisio sydd heb ei lofnodi, heb ei farcio neu sydd yn annilys oherwydd ansicrwydd yn ei gylch, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), yn annilys ac ni chaiff ei gyfrif.
(3) Ni fydd papur pleidleisio lle mae'r bleidlais wedi'i marcio—
(a)mewn man ar wahân i'r lle priodol; neu
(b)ar wahân i gyda chroes; neu
(c)gan fwy nag un marc,
yn cael ei ystyried i fod yn annilys o'r herwydd os yw'r bwriad pleidleisio yn ymddangos yn glir.
16. Bydd penderfyniad trefnydd y bleidlais ynghylch unrhyw gwestiwn sy'n codi ynghylch papur pleidleisio yn derfynol.
17.—(1) Rhaid i drefnydd y bleidlais ardystio —
(a)cyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd yn y bleidlais ar wahân i unrhyw bleidleisiau a wnaed ar bapurau pleidleisio a wrthodwyd o dan y rheol ym mharagraff 15;
(b)gwerth ardrethol cyfunol pob hereditament y pleidleisiodd person mewn perthynas ag ef yn y bleidlais;
(c)cyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd o blaid y cwestiwn a ofynnwyd yn y bleidlais; a
(ch)gwerth ardrethol cyfunol pob hereditament y pleidleisiodd person mewn perthynas ag ef o blaid y cwestiwn a ofynnwyd yn y bleidlais.
(2) Rhaid i drefnydd y bleidlais, ar ôl ardystio o dan is-baragraff (1), —
(a)gwneud datganiad ynghylch y materion a ardystiwyd; a
(b)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r cyhoedd ynghylch y materion a ardystiwyd.
18.—(1) Ni chaiff unrhyw bleidlais AGB, pleidlais ddiwygio, pleidlais adnewyddu neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, gael ei datgan yn annilys oherwydd unrhyw weithred neu hepgoriad gan drefnydd y bleidlais neu unrhyw berson arall o ganlyniad i fynd yn groes i ddarpariaethau'r Atodlen hon, os ymddengys i lys yn ystyried y cwestiwn bod —
(a)y bleidlais AGB, pleidlais ddiwygio, pleidlais adnewyddu neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, wedi'i chynnal a'i bod i raddau helaeth yn unol â darpariaethau'r Atodlen hon; a
(b)ni wnaeth y weithred neu'r hepgoriad effeithio ar ei chanlyniad.
(2) Yn achos pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, oni bai fod achos wedi'i ddwyn yn ei gylch cyn dyddiad cychwyn y trefniadau AGB, y trefniadau AGB adnewyddedig neu'r trefniadau AGB diwygiedig (yn ôl y digwydd), cymerir iddi fod i bob pwrpas yn bleidlais dda a dilys.
19. Rhaid i drefnydd y bleidlais gadw'r papurau pleidleisio am chwe mis ar ôl dyddiad y bleidlais ac yna, oni chyfarwyddir ef yn wahanol gan orchymyn yr Uchel Lys, eu dinistrio.
Rheoliad 14
1. Am bob blwyddyn, rhaid i awdurdod bilio, y mae'n ofynnol iddo gadw Cyfrif Refeniw ar gyfer yr AGB (“y cyfrif”), gredydu i'r cyfrif hwnnw symiau sy'n cyfateb i'r eitemau a restrir yn y Rhan hon o'r Atodlen hon.
Symiau a dalwyd am y flwyddyn o dan adrannau 43 a 45 y Ddeddf.
Symiau a dderbyniwyd gan yr awdurdod am y flwyddyn o ran gwasanaethau neu gyfleusterau a ddarparwyd ganddo (ac eithrio cyfraniadau a wnaed ganddo i'r AGB o dan adran 43(2)(a) y Ddeddf) o dan drefniadau'r AGB.
Y canlynol sef —
unrhyw symiau a gafodd eu debydu i'r cyfrif am flwyddyn flaenorol o dan is-baragraff (a) eitem 3 Rhan 2 o'r Atodlen hon sydd wedi eu hadennill gan yr awdurdod yn ystod y flwyddyn; a
unrhyw swm o faint y dylid ym marn yr awdurdod, lleihau unrhyw ddarpariaeth a gafodd ei debydu i'r cyfrif am flwyddyn flaenorol o dan is-baragraff (b) yr eitem honno.
Unrhyw falans credyd a ddangosir yn y cyfrif am y flwyddyn flaenorol.
2. Am bob blwyddyn, rhaid i awdurdod bilio, y mae'n ofynnol iddo gadw Cyfrif Refeniw ar gyfer yr AGB (“y cyfrif”), ddebydu i'r cyfrif hwnnw symiau sy'n cyfateb i'r eitemau a restrir yn y Rhan hon o'r Atodlen hon.
Y gost i'r awdurdod o gasglu lefi'r AGB am y flwyddyn.
Gwariant yr awdurdod am y flwyddyn o ganlyniad i drefniadau'r AGB (gan gynnwys symiau a dalwyd i drydydd parti am gyflawni'r gwaith neu'r gwasanaethau a ddarperir o dan drefniadau'r AGB).
Y canlynol sef —
(a)unrhyw symiau a gredydwyd i'r cyfrif am y flwyddyn neu am unrhyw flwyddyn flaenorol o dan eitem 1 neu 2 Rhan 1 o'r Atodlen hon sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddyledion drwg y dylid eu diddymu; ac
(b)unrhyw ddarpariaeth ar gyfer dyledion amheus y dylid, ym marn yr awdurdod, ei gwneud o ran symiau o'r fath a gredydwyd.
Unrhyw falans debyd a ddangosir yn y cyfrif am y flwyddyn flaenorol.
Rheoliad 15
1.—(1) Yn yr Atodlen hon, y mae “cyfnod perthnasol” yng nghyswllt hysbysiad yn golygu'r cyfnod trethadwy y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo.
(2) Pan gyfeirir yn yr Atodlen hon at y diwrnod y cyflwynir hysbysiad, cymerir iddynt fod yn gyfeiriadau —
(a)os cyflwynir yr hysbysiad yn y dull a ddisgrifir yn is-baragraff (3) isod neu yn adran 233(2) o Ddeddf 1972 drwy ei adael yn, neu ei anfon yn y post at leoliad busnes person neu ei gyfeiriad priodol, at y diwrnod y gadawyd neu y postiwyd ef; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, at y diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad.
(3) Heb ragfarnu adran 233 o Ddeddf 1972, lle mae unrhyw hysbysiad sy'n rhaid neu yr awdurdodir ei roi neu ei gyflwyno i berson o dan yr Atodlen hon yn berthnasol i hereditament sydd (neu, lle mae hysbysiad o'r fath yn berthnasol i fwy nag un hereditament, lle mae un neu fwy ohonynt) yn lleoliad busnes y person hwnnw, gellir ei roi neu ei gyflwyno drwy ei adael yn, neu ei anfon yn y post ato yn y lleoliad busnes (neu, yn ôl y digwydd, yn un o'r lleoliadau busnes hynny).
(4) Heb ragfarnu adran 233 o Ddeddf 1972 ac is-baragraff (3) uchod ac yn ddarostyngedig i is-baragraffau (5) i (8) isod, o ran unrhyw hysbysiad sy'n rhaid neu yr awdurdodir ei roi neu ei gyflwyno gan awdurdod bilio i unrhyw berson o dan yr Atodlen hon, neu o ran unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff 3(2) yr Atodlen hon (i gael ei darparu) i unrhyw berson pan gyflwynir hysbysiad galw am dalu o fewn ystyr yr Atodlen hon —
(a)gellir eu rhoi, cyflwyno neu ddarparu'r uchod drwy anfon yr hysbysiad neu'r wybodaeth at y person hwnnw ar ffurf electronig i'r cyfeiriad hwnnw a roddir gan y person hwnnw at y diben hwnnw; neu
(b)byddant yn cael eu hystyried i fod wedi eu rhoi, cyflwyno neu eu darparu i'r person hwnnw —
(i)lle bo'r awdurdod bilio a'r person hwnnw wedi cytuno at y diben hwnnw y gall y person hwnnw gael gafael ar unrhyw ddogfennau yn cynnwys yr hysbysiad neu'r wybodaeth ar wefan;
(ii)lle bo'r ddogfen yn ddogfen y mae'r cytundeb hwnnw yn berthnasol iddo;
(iii)lle mae'r awdurdod bilio wedi cyhoeddi'r ddogfen ar wefan; a
(iv)lle bo'r person hwnnw yn cael ei hysbysu, mewn dull y cytunwyd arno at y diben hwnnw am y tro rhyngddo ef a'r awdurdod bilio, ynghylch —
(aa)cyhoeddi'r ddogfen ar wefan;
(bb)cyfeiriad y wefan honno; ac
(cc)ymhle ar y wefan y gall gael gafael ar y ddogfen.
(5) At ddiben unrhyw achos cyfreithiol, bydd hysbysiad a gyflwynwyd drwy'r dull a ddisgrifir ym mharagraff (4), oni phrofir yn wahanol, yn cael ei drin i fod wedi'i gyflwyno ar yr ail ddiwrnod busnes ar ôl —
(a)ei anfon yn unol ag is-baragraff (4)(a); neu
(b)cyflwyno hysbysiad ynghylch ei gyhoeddi yn unol ag is-baragraff (4)(b)(iv).
(6) Rhaid i berson sydd wedi rhoi cyfeiriad at ddiben is-baragraff (4)(a), drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod bilio, roi gwybod i'r awdurdod bilio am unrhyw newid i'r cyfeiriad hwnnw; a bydd y newid yn cael effaith ar y trydydd diwrnod busnes ar ôl y dyddiad pan dderbynnir yr hysbysiad gan yr awdurdod bilio.
(7) Caiff person sydd wedi rhoi cyfeiriad at ddiben is-baragraff (4)(a) dynnu'r hysbysiad hwnnw yn ôl, drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig at yr awdurdod bilio; a bydd y weithred o dynnu'n ôl yn cael effaith ar y trydydd diwrnod busnes ar ôl y dyddiad pan dderbynnir yr hysbysiad gan yr awdurdod bilio.
(8) Caiff person sydd wedi ffurfio cytundeb gyda'r awdurdod bilio o dan is-baragraff (4)(b)(i) roi gwybod i'r awdurdod, drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig ato, nad yw mwyach yn dymuno bod yn barti yn y cytundeb; a lle cyflwynir hysbysiad o'r fath, bydd y cytundeb yn cael ei ystyried i fod wedi'i ddiddymu ar y trydydd diwrnod busnes ar ôl y dyddiad pan dderbynnir yr hysbysiad gan yr awdurdod bilio.
2.—(1) Am bob cyfnod trethadwy, rhaid i awdurdod bilio perthnasol, yn unol â pharagraffau 4 i 6, gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i bob person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o ran trefniadau'r AGB am y cyfnod hwnnw.
(2) Rhaid cyflwyno gwahanol hysbysiadau galw am dalu am wahanol gyfnodau trethadwy.
(3) Rhaid cyflwyno hysbysiad galw am dalu o ran y swm sy'n daladwy am bob hereditament y mae person yn atebol i dalu lefi'r AGB mewn perthynas ag ef, er y gall un hysbysiad gyfeirio at y swm sy'n daladwy o ran mwy nag un hereditament o'r fath.
(4) Os bydd un hysbysiad galw am dalu yn cyfeirio at y swm sy'n daladwy o ran mwy nag un hereditament, rhaid i'r symiau sy'n daladwy mewn perthynas ag ef, a'r dyddiadau y bydd y rhain yn ddyledus, gael eu penderfynu fel pe bai hysbysiadau ar wahân yn cael eu cyflwyno o ran pob hereditament.
3.—(1) Rhaid i hysbysiad galw am dalu gynnwys y materion canlynol —
(a)datganiad yn rhoi cyfeiriad a disgrifiad pob hereditament y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo;
(b)datganiad yn egluro sut y cyfrifir lefi'r AGB am bob hereditament y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo; a
(c)datganiad ynghylch ar ba ddiwrnodau (os o gwbl), at ddiben cyfrifo'r taliadau sy'n rhaid eu gwneud o dan yr hysbysiad, y deallwyd bod y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB mewn perthynas â'r hereditament yn dod o dan y disgrifiad yn nhrefniadau'r AGB o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB am y cyfnod trethadwy dan sylw.
(2) Rhaid i awdurdod bilio, pan fydd yn cyflwyno hysbysiad galw am dalu, ddarparu'r wybodaeth ganlynol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo —
(a)y refeniw o lefi'r AGB y dylai'r awdurdod bilio fod wedi'i dderbyn yn y flwyddyn flaenorol;
(b)faint a arian a wariwyd ar drefniadau'r AGB yn y flwyddyn flaenorol;
(c)disgrifiad o'r materion y gwariwyd yr arian hwn arnynt; a
(ch)disgrifiad o'r materion y bwriedir gwario'r refeniw o lefi'r AGB arnynt yn y flwyddyn ariannol.
4.—(1) Os —
(a)yw hysbysiad galw am dalu yn annilys am nad yw'n cydymffurfio â pharagraff 3;
(b)yr oedd methiant i gydymffurfio felly wedi digwydd oherwydd camgymeriad; ac
(c)yr oedd y symiau oedd yn daladwy o dan yr hysbysiad yn galw am gael eu talu o dan baragraff 3(1),
bydd y gofyniad i dalu'r symiau hyn yn gymwys fel pe bai'r hysbysiad yn un dilys.
(2) Pan fo'r gofyniad i dalu swm o dan hysbysiad annilys yn bodoli yn rhinwedd is-baragraff (1), rhaid i'r awdurdod bilio, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl darganfod y camgymeriad, gyflwyno i'r person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB dan sylw ddatganiad ynghylch pa faterion oedd heb eu cynnwys yn yr hysbysiad ac a ddylai fod wedi eu cynnwys.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid cyflwyno hysbysiad galw am dalu ar neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl, —
(a)ac eithrio mewn achos sy'n dod o dan baragraff (b), diwrnod cyntaf y cyfnod perthnasol; neu
(b)os yw'r person yn dod o dan y disgrifiad o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB, fel a nodir yn nhrefniadau'r AGB o ran yr hereditament dan sylw, yn ddiweddarach yn ystod y cyfnod perthnasol, y diwrnod cyntaf ar ôl y diwrnod y mae'r person yn dod o dan y disgrifiad hwnnw.
(2) Ceir cyflwyno hysbysiad galw am dalu cyn dechrau'r cyfnod perthnasol i berson sy'n ymddangos i'r awdurdod bilio perthnasol, ar y diwrnod y cyflwynir ef, ei fod yn dod o dan y disgrifiad o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB fel a nodir yn nhrefniadau'r AGB o ran yr hereditament y mae'n berthnasol iddo; ac, os cyflwynir yr hysbysiad felly, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB, o ran yr hysbysiad hwnnw a chyn belled ag y mae'r cyd-destun yn caniatáu, i fod yn gyfeiriad at y person hwnnw.
6.—(1) Os cyflwynir hysbysiad galw am dalu cyn neu yn ystod y cyfnod perthnasol ac ymddengys i'r awdurdod bilio perthnasol bod y person yn dod o dan y disgrifiad o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn ôl yr hyn a bennir yn nhrefniadau'r AGB o ran y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o ran yr hereditament y mae'n berthnasol iddo, bydd yr hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i dalu swm sy'n cyfateb i amcangyfrif yr awdurdod bilio perthnasol o'r swm sy'n daladwy am y cyfnod.
(2) Wrth wneud amcangyfrif o dan is-baragraff (1), rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol dybio, o ran y cyfnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad, y bydd y person yn parhau i ddod o dan y disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1).
(3) Os cyflwynir hysbysiad galw am dalu yn ystod y cyfnod perthnasol ond nad yw is-baragraff (1) yn berthnasol, bydd yr hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i dalu swm sy'n cyfateb i'r swm sy'n daladwy am y cyfnod yn y cyfnod hyd at y diwrnod pan ddaeth y person ddiwethaf o dan y disgrifiad o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB fel a bennir yn nhrefniadau'r AGB o ran yr hereditament dan sylw.
(4) Os, ar ôl cyflwyno hysbysiad y mae is-baragraff (3) yn berthnasol iddo, bydd y person yn dod eto o dan y disgrifiad o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn ôl yr hyn a bennir yn nhrefniadau'r AGB am y cyfnod perthnasol o ran yr hereditament dan sylw, rhaid cyflwyno hysbysiad pellach sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo dalu'r swm sy'n daladwy o ran yr hereditament am y cyfnod o fewn y cyfnod perthnasol gan ddechrau gyda'r diwrnod y daeth y person o dan y disgrifiad hwnnw eto.
(5) Pan fydd hysbysiad pellach yn cael ei gyflwyno o dan is-baragraff (4), bydd paragraffau 5 i 8 yn gymwys i'r hysbysiad pellach am y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (4) fel pe bai'n hysbysiad galw am dalu ac na ddaeth y person yn flaenorol o dan y disgrifiad dywededig o fod yn atebol i dalu lefi'r AGB fel a nodir yn nhrefniadau'r AGB.
(6) Os cyflwynir hysbysiad galw am dalu ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol, rhaid iddo alw am dalu'r swm sy'n daladwy am y cyfnod.
7.—(1) Os na chyrhaeddir cytundeb o dan is-baragraff (3) am y cyfnod perthnasol cyn cyflwyno'r hysbysiad galw am dalu, rhaid i hysbysiad y mae paragraff 6(1) yn gymwys iddo ei gwneud yn ofynnol i dalu amcangyfrif o'r swm sy'n daladwy pan ddaw cyfnod o'r fath i ben (nid llai na 14 diwrnod) ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad fel a bennir ynddo.
(2) Os cyrhaeddir cytundeb o dan is-baragraff (3) o ran y cyfnod perthnasol cyn cyflwyno'r hysbysiad galw am dalu, rhaid i hysbysiad y mae paragraff 6(1) yn gymwys iddo ei gwneud yn ofynnol i dalu amcangyfrif o'r swm sy'n daladwy yn unol â'r cytundeb hwnnw.
(3) Caiff awdurdod bilio perthnasol a pherson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB gytuno bod amcangyfrif o'r swm sy'n daladwy ac sy'n rhaid ei dalu o dan hysbysiad y mae paragraff 6(1) yn gymwys iddo yn cael ei dalu drwy ddull a ddarperir ar ei gyfer o dan y cytundeb.
(4) Er gwaethaf unrhyw beth yn narpariaethau blaenorol y paragraff hwn, caniateir ffurfio cytundeb o'r fath naill ai cyn neu ar ôl cyflwyno'r hysbysiad galw am dalu dan sylw, a chaniateir darparu ar gyfer rhoi'r gorau i'r taliadau neu eu haddasu, ac ar gyfer gwneud amcangyfrifon o'r newydd, os bydd yr amcangyfrif y cyfeirir ato ym mharagraff 6(1) yn digwydd â bod yn anghywir; ac os ffurfiwyd y cytundeb ar ôl cyflwyno'r hysbysiad galw am dalu, caiff ddarparu at ddiben y cytundeb ar gyfer delio gydag unrhyw symiau a dalwyd cyn ei ffurfio.
(5) Rhaid i hysbysiad y mae paragraff 6(3) neu (5) yn gymwys iddo ei gwneud yn ofynnol i dalu swm sy'n daladwy pan ddaw cyfnod o'r fath i ben (nid llai na 14 diwrnod) ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad fel a bennir ynddo.
(6) Nid oes yn rhaid i berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB wneud unrhyw daliad o'r swm sy'n daladwy o ran hereditament am unrhyw gyfnod trethadwy os na chyflwynir hysbysiad o dan yr Atodlen hon yn ei gwneud yn ofynnol.
8.—(1) Y mae'r paragraff hwn yn berthnasol —
(a)os yw hysbysiad wedi'i gyflwyno gan awdurdod bilio perthnasol o dan yr Atodlen hon yn galw am dâl neu daliadau gan berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o ran y swm sy'n daladwy mewn perthynas â'r hereditament am gyfnod trethadwy neu ran o gyfnod trethadwy;
(b)os cafwyd bod y tâl neu'r taliadau sy'n rhaid eu talu yn fwy neu'n llai na'r swm sy'n daladwy o ran yr hereditament am y cyfnod neu ran o'r cyfnod dan sylw; ac
(c)os na wneir darpariaeth ar gyfer addasu'r symiau sy'n daladwy o dan yr hysbysiad ac ar gyfer (lle bo'n briodol) gwneud taliadau ychwanegol, neu ar gyfer ad-dalu neu gredydu unrhyw or-daliad gan unrhyw ddarpariaeth arall o dan yr Atodlen hon neu o dan unrhyw gytundeb a ffurfiwyd o dan baragraff 7(3).
(2) Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r cyfnod neu ran o'r cyfnod ddod i ben, gyflwyno hysbysiad pellach i'r person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn nodi'r swm sy'n daladwy am y cyfnod neu ran ohono yng nghyswllt yr hereditament, gan addasu (drwy gyfeirio at y swm hwnnw) y symiau sy'n daladwy o dan yr hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a).
(3) Os yw'r swm a nodir yn yr hysbysiad pellach yn fwy na'r swm sy'n ofynnol i'w dalu o dan yr hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a), bydd y gwahaniaeth, na wneir darpariaeth arall fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c) ar ei gyfer, yn daladwy gan y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB i'r awdurdod bilio perthnasol pan ddaw cyfnod o'r fath i ben (nid llai na 14 diwrnod) ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad fel a bennir ynddo.
(4) Os gwnaed gor-daliad o ran unrhyw atebolrwydd gan y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o dan yr Atodlen hon, rhaid i swm y gor-daliad, na wneir darpariaeth arall fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c) ar ei gyfer, —
(a)cael ei ad-dalu os bydd y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn gofyn amdano; neu
(b)mewn unrhyw achos arall (fel a benderfynir gan yr awdurdod bilio perthnasol), naill ai gael ei ad-dalu neu ei gredydu yn erbyn unrhyw atebolrwydd dilynol gan y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB ar ffurf taliad lefi'r AGB neu dreth annomestig.
9. Bydd Rhan III o ac Atodlenni 2 i 4 o Reoliadau 1989 yn gymwys o ran gorfodi lefi'r AGB gyda'r diwygiadau canlynol —
(a)rhaid darllen y cyfeiriad yn rheoliadau 10 a 20 at swm sy'n daladwy i awdurdod bilio o dan Ran II o'r Rheoliadau hynny i fod yn cynnwys cyfeiriad at swm sy'n daladwy i awdurdod bilio o dan yr Atodlen hon;
(b)ni fydd rheoliad 11(3) yn gymwys;
(c)rhaid darllen rheoliad 12(1) fel pe bai'r geiriau o “an amount which has fallen due under under regulation 8(2)” hyd at “required under regulation 11)” wedi eu heithrio;
(ch)rhaid darllen y diffiniad o “authorised person” yn rheoliad 21(7) i fod yn cynnwys person a awdurdodir gan awdurdod bilio i arfer unrhyw swyddogaeth yng nghyswllt casglu a gorfodi lefi'r AGB;
(d)rhaid darllen y cyfeiriad yn rheoliad 22 at swm sy'n daladwy o dan Ran II o'r Rheoliadau hynny i berson ar wahân i awdurdod bilio i fod yn cynnwys cyfeiriad at swm sy'n daladwy o dan yr Atodlen hon i berson ar wahân i awdurdod bilio;
(dd)rhaid darllen rheoliad 23(2) fel pe bai'r geiriau “or the contents of any BID arrangements made under Part 4 of the Local Government Act 2003” wedi eu dodi ar ôl y geiriau “such a list” a'r geiriau “or the arrangements” wedi eu dodi ar ôl y geiriau “list or extract”;
(e)rhaid darllen rheoliad 23(3) fel pe bai—
(i)is-baragraffau (a) a (b) wedi eu disodli gan gyfeiriad at hysbysiad a wneir o dan baragraff 8(2) yn yr Atodlen hon; ac fel pe bai
(ii)y geiriau “or the multiplier in substitution is set under paragraph 10 of Schedule 7 to the Act (yn ôl y digwydd)” wedi eu heithrio; a
(f)rhaid darllen rheoliad 23(4) fel pe bai'r geiriau “paragraph (3)(a) in the case in question, or sets a multiplier in substitution so that paragraph 10(4) of Schedule 7 to the Act applies in the case in question” wedi eu disodli gan gyfeiriad at baragraff 8(2) o'r Atodlen hon.
10.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw person yn marw ac os oedd (neu yr honnwyd ei fod) ar unrhyw adeg cyn ei farwolaeth yn atebol i dalu lefi'r AGB.
(2) Os —
(a)cyn marwolaeth yr ymadawedig, yr oedd yn atebol i dalu swm o dan yr Atodlen hon neu ar ffurf costau perthnasol o ran lefi'r AGB, ond sydd heb ei dalu neu eu talu; neu
(b)ar ôl marwolaeth yr ymadawedig, y byddai, oni bai am ei farwolaeth (drwy gyflwyno hysbysiad neu beidio), yn atebol i dalu swm o dan yr Atodlen hon o ran lefi'r AGB,
bydd ei ysgutor neu weinyddwr, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) ac i'r graddau nad yw'n fwy na'r swm sy'n daladwy gan yr ymadawedig (gan gynnwys costau perthnasol sy'n daladwy ganddo) o ran lefi'r AGB, yn atebol i dalu'r swm a gall dynnu unrhyw daliadau a wnaed (neu sydd i'w gwneud) o asedau ac eiddo personol yr ymadawedig.
(3) Pan fo is-baragraff (2)(b) yn berthnasol, ni fydd atebolrwydd yr ysgutor neu'r gweinyddwr yn codi hyd nes y cyflwynir hysbysiad iddynt yn ei gwneud yn ofynnol iddynt dalu'r swm.
(4) Pan fydd swm, cyn marwolaeth yr ymadawedig, sy'n fwy na'i atebolrwydd (gan gynnwys costau perthnasol sy'n daladwy ganddo) o ran lefi'r AGB wedi'i dalu (p'un ai yw'r gor-daliad yn codi oherwydd ei farwolaeth neu beidio) a heb ei ad-dalu neu ei gredydu o dan yr Atodlen hon, bydd gan ei ysgutor neu ei weinyddwr hawl i'r swm hwnnw.
(5) Y mae costau yn gostau perthnasol i bwrpas is-baragraffau (2) a (4) os —
(a)gwnaed gorchymyn neu warant (yn ôl y digwydd) gan y llys yn eu cylch o dan reoliad 12(6)(b) neu (7) neu 16(4)(b) o Reoliadau 1989, neu mewn achos o dan reoliad 20 o Reoliadau 1989; neu os
(b)mai taliadau ydynt o ran atafaelu sydd modd eu hadennill o dan reoliad 14(2)(b) o Reoliadau 1989.
(6) Bydd swm yn daladwy o dan is-baragraff (2) yn orfodadwy o ran gweinyddu ystad yr ymadawedig fel dyled gan yr ymadawedig, ac, felly —
(a)nid oes raid gwneud cais am orchymyn atebolrwydd mewn perthynas ag ef ar ôl marwolaeth yr ymadawedig o dan reoliad 12 o Reoliadau 1989; a
(b)bydd atebolrwydd yr ysgutor neu'r gweinyddwr yn atebolrwydd yn rhinwedd eu swyddogaeth.
(7) Y mae rheoliad 23(1) a (2) o Reoliadau 1989 yn gymwys i achosion i orfodi atebolrwydd sy'n codi o dan y paragraff hwn fel ag y mae'n berthnasol i achosion eraill o dan yr Atodlen hon.
(8) Cyn belled ag y bo'n berthnasol i'w hatebolrwydd o dan y paragraff hwn o ran gweinyddu ystad yr ymadawedig, gall yr ysgutor neu'r gweinyddwr gychwyn, parhau neu dynnu achos yn ôl.
11.—(1) Os bydd y Goron yn mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth o dan yr Atodlen hon, ni fydd y Goron yn droseddol atebol, ond gall yr Uchel Lys, ar gais awdurdod bilio, ddatgan bod unrhyw weithred neu hepgoriad gan y Goron sy'n dramgwydd o'r fath yn anghyfreithlon.
(2) Er gwaethaf unrhyw beth yn is-baragraff (1), bydd darpariaethau'r Atodlen hon yn berthnasol i'r Goron fel ag i bersonau eraill.
(3) Ni cheir arfer unrhyw hawl mynediad a roddir o dan yr Atodlen hon o ran unrhyw hereditament a feddiannir neu, os na feddiannir, a berchenogir gan Ei Mawrhydi yn breifat, a dehonglir yr is-baragraff hwn fel pe bai adran 38(3) o Ddeddf Achosion yn Erbyn y Goron 1947(12) wedi'i chynnwys yn yr Atodlen hon.
12.—(1) Y mae'r paragraff hwn yn berthnasol mewn achos lle byddai (ar wahân i'r paragraff hwn) mwy nag un person, ar unrhyw adeg, yn atebol i dalu lefi'r AGB o ran hereditament neu ran o hereditament o'r fath.
(2) Pan fydd y paragraff hwn yn berthnasol —
(a)o ran unrhyw adeg yn ystod cyfnod trethadwy pan fydd dim ond un person o'r fath yn atebol i dalu lefi'r AGB, bydd y person hwnnw yn atebol i dalu'r swm sy'n daladwy ar ffurf lefi'r AGB am y cyfnod hwnnw; ac
(b)o ran unrhyw adeg yn ystod cyfnod trethadwy pan fydd mwy nag un person o'r fath yn atebol i dalu lefi'r AGB, byddant yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu'r swm a fyddai wedi bod yn daladwy ar ffurf lefi'r AGB am y cyfnod hwnnw pe baent ond yn un person o'r fath.
(3) Bydd yr Atodlen hon yn berthnasol yn unol ag is-baragraff (2); ac yn enwedig, gellir cyflwyno hysbysiad sy'n dod o dan yr Atodlen hon ac sydd o ran cyfnod lle mae paragraff (2)(b) yn berthnasol —
(a)yn unigol i bob un neu i unrhyw un o'r personau sy'n atebol i dalu lefi'r AGB dan sylw yr hawlir taliad ganddynt; neu
(b)pan fydd y personau dan sylw yn atebol ar y cyd ac yn unigol fel partneriaid neu ymddiriedolwyr, ar y cyd i'r bartneriaeth neu'r ymddiriedolaeth (os byddai angen cyflwyno ond un hysbysiad mewn perthynas â hwy a dehonglir cyfeiriadau at “y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB” yn yr Atodlen hon o ran yr hysbysiad fel cyfeiriadau at y partneriaid neu'r ymddiriedolwyr ar y cyd).
(4) Caniateir cyflwyno hysbysiad i bartneriaeth neu ymddiriedolaeth o dan baragraff (3)(b) —
(a)yn achos partneriaeth, fel a ddisgrifir yn adran 233(3)(b) o Ddeddf 1972; neu
(b)yn achos ymddiriedolaeth, drwy ei gyflwyno i un o'r ymddiriedolwyr;
os oes angen cyflwyno hysbysiad o'r fath i bartneriaeth, person sydd â rheolaeth dros neu sy'n gyfrifol am reoli busnes y bartneriaeth neu ymddiriedolaeth o dan y paragraff hwn, bydd cyfeiriad priodol y bartneriaeth, y person neu'r ymddiriedolaeth (yn ôl y digwydd) yn cynnwys (yn ogystal â'r cyfeiriad y cyfeirir ato yn adran 233(4) o Ddeddf 1972) unrhyw leoliad busnes sy'n hereditament y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo.
(5) Pan fydd hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan baragraff (3)(a) i fwy nag un person am yr un swm, rhaid i'r awdurdod bilio hysbysu pob person y cyflwynir hysbysiad iddo ynghylch hynny.
(6) Pan fydd hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (3)(a) i berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn cyfeirio at amser yn y flwyddyn dan sylw pan fydd paragraff (2)(a) yn berthnasol ac at amser pan fydd paragraff (2)(b) yn berthnasol, bydd unrhyw daliad a wneir gan y person o dan yr hysbysiad yn cael ei drin fel taliad yn erbyn y swm y mae'r person hwnnw yn unigol gyfrifol amdano oni bai a hyd nes y rhyddheir ei atebolrwydd i dalu'r swm hwnnw.
(7) At ddiben unrhyw amser y mae paragraff (2)(b) yn gymwys iddo, os yw'r disgrifiad o'r person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn gofyn bod y trethdalwr yn elusen neu'n ymddiriedolwr ar gyfer elusen, ystyrir y gofyniad hwn i fod wedi'i gyflawni os yw un neu fwy o'r personau sy'n atebol ar y cyd ac yn unigol yn elusen, neu (yn ôl y digwydd) os yw rhai neu bob un ohonynt yn ymddiriedolwyr ar gyfer elusen.
(8) Pan fydd yn rhaid i unrhyw swm a dalwyd o ran swm a gyfrifiwyd drwy gyfeirio at baragraff (2)(b) gael ei ad-dalu, gellir ei ad-dalu i unrhyw berson y gwêl yr awdurdod bilio yn briodol.
(9) Nid yw paragraffau (2)(b) ac (8) yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw hawl neu ddyletswydd o dan y gyfraith neu o dan gyfraith ecwiti (boed o dan delerau unrhyw ymddiriedolaethau y delir yr hereditament oddi tanynt neu fel arall) os yw'r hawl honno neu'r ddyletswydd honno'n perthyn i berchennog neu i feddiannydd sydd wedi gwneud taliad neu sy'n cael ad-daliad mewn cysylltiad â rhwymedigaeth o dan baragraff 2(b) i adennill y cyfan neu ran o'r taliad oddi wrth y perchenogion neu'r meddianwyr eraill, neu oddi wrth unrhyw fuddiolwyr sydd â buddiant yn yr hereditament, neu mewn cysylltiad â rhwymedigaeth i roi cyfrif i'r rhain am y cyfan neu am ran o'r ad-daliad; ond i'r graddau nad oes hawl neu ddyletswydd o'r fath yn bodoli mewn unrhyw achos penodol (ac nad yw'r perchennog ei hun neu'r meddiannydd ei hun, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o'r fath o dan y gyfraith neu o dan gyfraith ecwiti, yn rhwym o ysgwyddo'r baich o wneud y taliad neu nad oes gan y perchennog neu'r meddiannydd hawl i gael mantais o'r taliad neu'r cyfraniad), bydd taliadau o'r fath, a fydd yn sicrhau y bydd baich y taliad neu fantais yr ad-daliad mewn cysylltiad â rhwymedigaeth o dan baragraff (2)(b) yn dod iddynt mewn cyfrannau cyfartal, yn ddyledus rhwng y perchenogion neu'r meddianwyr (yn ôl y digwydd).
13.—(1) Bydd Rhan 3 o ac Atodlenni 2 i 4 i Reoliadau 1989 yn cael effaith, gyda'r diwygiadau canlynol, yn achos adennill swm y mae personau yn atebol i'w dalu o dan adran 46 y Ddeddf fel a bennir ym mharagraff 12.
(2) Rhaid cyflwyno hysbysiad atgoffa yn unol â rheoliad 11(1) a (2) o Reoliadau 1989 i bob person y gwneir cais am orchymyn atebolrwydd yn ei gylch.
(3) Y mae paragraff 12(3) i (6) yn gymwys i hysbysiad atgoffa fel ag y mae'n gymwys i hysbysiad o dan yr Atodlen hon.
(4) Caniateir gwneud cais am orchymyn atebolrwydd a'i weithredu yn erbyn un neu fwy o'r personau sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o ran swm y mae paragraff 12(2)(b) yn gymwys iddo, p'un ai y cyflwynwyd hysbysiad iddynt o ran y swm yn unigol neu ar y cyd.
(5) Pan fydd gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn mwy nag un person o ran swm, yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), caniateir cymryd camau atafaelu yn erbyn un neu fwy ohonynt.
(6) Pan fydd camau atafaelu wedi cael eu cymryd yn erbyn mwy nag un person o ran swm, caniateir gwneud cais am warant draddodi ar unrhyw adeg yn erbyn un ohonynt, neu caniateir gwneud cais am wahanol warantau yn erbyn mwy nag un ohonynt.
(7) Pan fydd camau atafaelu wedi cael eu cymryd yn erbyn un person yn unig, caniateir gwneud cais am warant draddodi yn ei erbyn.
(8) Pan fydd gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn mwy nag un person mewn perthynas â swm, a chyflwynir gwarant draddodi yn erbyn (neu os yw cyfnod o garchar wedi'i bennu yn achos) un ohonynt o dan reoliad 16(3) o Reoliadau 1989, ni chaniateir cymryd unrhyw gamau, na chamau pellach ychwaith, yn erbyn unrhyw un ohonynt drwy atafaelu, methdaliad neu ddirwyn i ben o ran y swm y cyfeirir ato yn rheoliad 16(4) o Reoliadau 1989.
(9) Pan fydd gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn mwy nag un person o ran swm —
(a)ni chaniateir cymryd camau drwy atafaelu, traddodi, methdaliad neu ddirwyn i ben yn erbyn person mewn perthynas â'r swm tra bod camau drwy ddull arall yn cael eu cymryd yn ei erbyn mewn perthynas â'r swm; a
(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (10), ni chaniateir cymryd camau atafaelu yn erbyn person o ran swm tra bod camau atafaelu yn cael eu cymryd yn erbyn un o'r rhai eraill o ran y swm.
(10) Pan fydd gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn mwy nag un person o ran swm ac, wrth gymryd camau atafaelu yn erbyn un ohonynt, darganfyddir nwyddau a berchenogir ar y cyd rhwng y person hwnnw a pherson arall, nid yw is-baragraff (9)(b) yn atal atafaelu'r nwyddau hynny am y swm dan sylw; ond mewn unrhyw achos a gynhelir wedyn o dan reoliad 16 o Reoliadau 1989, rhaid trin taliadau yn codi o dan Atodiad 3 o Reoliadau 1989 o atafaelu'r nwyddau fel taliadau mewn perthynas â'r person y bwriadwyd codi'r lefi yn erbyn ei nwyddau pan ddarganfuwyd y nwyddau ar y cyd, ac nid fel taliadau mewn perthynas â'r person arall.
(11) Pan fydd —
(a)gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn mwy nag un person o ran swm; a
(b)y mae tâl wedi codi yng nghyswllt un ohonynt o dan bennawd B yn y Tabl ym mharagraff 1 Atodlen 3 i Reoliadau 1989 o ran y swm hwnnw,
ni chaniateir ychwanegu tâl pellach i bwrpas rheoliad 14(2) o Reoliadau 1989 o dan y pennawd hwnnw neu bennawd A yn y Tabl hwnnw o ganlyniad i unrhyw lefi a godir wedyn neu yr ymdrechir ei chodi yn erbyn unrhyw un ohonynt o ran y swm hwnnw; a rhaid ystyried tâl o dan bennawd A(i) neu daliadau o dan y pennawd hwnnw a phennawd A(ii) yn erbyn un ohonynt at y diben hwnnw fel tâl neu, yn ôl y digwydd, fel taliadau o dan y pennawd hwnnw yng nghyswllt y rhai eraill yn ogystal â hwnnw.
(12) Pan fydd gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn un person o ran swm, a hefyd yn erbyn person arall neu bersonau eraill (p'un ai ar yr un pryd â'r gorchymyn yn erbyn y person cyntaf neu wedyn, a ph'un ai am y swm cyfan neu ran ohono) —
(a)ni chaiff y gorchymyn a wnaed o ran pawb ond y person perthnasol gynnwys, o dan reoliad 12(6)(b) neu (7) o Reoliadau 1989, unrhyw swm ychwanegol o ran costau cyflwyno'r gorchymyn yn erbyn y llall neu'r rhai eraill;
(b)rhaid ystyried y personau hynny (gyda'r person perthnasol) fel pe baent yn atebol yn unigol ac ar y cyd i dalu'r swm o ran costau a gynhwysir yn y gorchymyn yn erbyn y person perthnasol;
(c)rhaid gwneud y gorchymyn yn eu herbyn (o dan reoliadau 12(6)(b) neu (7) o Reoliadau 1989) yng nghyswllt y swm sydd heb ei dalu mewn perthynas ag ef.
(13) At ddiben is-baragraff (12), y person perthnasol yw'r person y gwnaed y gorchymyn atebolrwydd mewn perthynas â'r swm yn ei erbyn gyntaf neu, os oes mwy nag un person o'r fath, y rhai y mae'r llys yn ystyried i fod yn briodol.
(14) Nid yw is-baragraff (12) i gael ei ddehongli i ganiatáu awdurdod bilio i wneud cais o dan reoliad 12(2) o Reoliadau 1989 am orchymyn atebolrwydd yn erbyn person o ran costau'n unig ar ôl i orchymyn gael ei wneud am y costau hynny yn erbyn person arall.
14.—(1) Pan fydd personau yn atebol i dalu swm fel partneriaid o dan baragraff 12(2)(b) o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff 12(3)(b), ceir gwneud cais am orchymyn atebolrwydd o ran y swm a'i gyflwyno iddynt yn enw eu busnes, a bydd grym gorchymyn o'r fath yr un fel pe bai gorchmynion wedi eu gwneud yn erbyn pob partner yng nghyswllt eu hatebolrwydd am y swm hwnnw.
(2) Os gwneir gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes o ran y swm ac ni wnaed gorchymyn blaenorol yn erbyn person arall o ran y swm, dehonglir cyfeiriadau ym mharagraff 13(12) at y person perthnasol fel cyfeiriadau at y bartneriaeth.
(3) Heb ragfarn i reoliad 13(2) o Reoliadau 1989 gellir cyflwyno gwŷs o dan gais am orchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes drwy ei adael yn, neu ei anfon yn y post at y bartneriaeth ym mhrif swyddfa'r bartneriaeth.
(4) Os gwnaed gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes o ran swm, nid yw paragraff 13(9)(b) yn atal atafaelu eiddo'r bartneriaeth am y swm hwnnw; ac mewn unrhyw achos cyfreithiol wedyn o dan reoliad 16 o Reoliadau 1989, rhaid ystyried y partneriaid i fod yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu unrhyw gostau o dan Atodlen 3 o'r rheoliadau hynny sy'n codi o'r atafaelu.
(5) Os gwnaed gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes, bydd rheoliad 18(2) o Reoliadau 1989 yn cael effaith fel pe bai cyfeiriad at gwmni yn cynnwys cyfeiriad at y bartneriaeth ac fel pe bai cyfeiriad at adran 221(5)(b) o Ddeddf Ansolfedd 1986(13) —
(a)mewn achos lle'r oedd erthygl 7 o Orchymyn Partneriaethau Ansolfent 1994(14) yn gymwys, yn gyfeiriad at adran 221(5)(c) o ran yr erthygl honno; neu
(b)mewn achos lle'r oedd erthygl 8 o'r Gorchymyn hwnnw yn berthnasol, yn gyfeiriad at adran 221(5) fel a ddisodlir gan baragraff (1)(c) o'r erthygl honno.
(6) Os gwnaed gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes, nid yw paragraff 13(9)(a) yn atal dwyn achos ansolfedd yn erbyn y bartneriaeth yn ogystal ag yn erbyn aelodau o'r bartneriaeth, a'r achos hwnnw yn cael ei drin yn unol â Gorchymyn Partneriaethau Ansolfent 1994.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau o ran ardaloedd gwella busnes (AGB). Darperir ar gyfer AGB yn Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 fel ardaloedd lle bydd prosiectau a bennir o dan drefniadau AGB i'w cyflawni er budd yr ardal honno neu'r personau sy'n byw, gweithio neu'n cynnal unrhyw weithgaredd yn yr ardal. Bydd y prosiectau hyn yn cael eu hariannu (yn llwyr neu'n rhannol) gan lefi'r AGB a godir ar drethdalwyr annomestig, neu ar gategori o'r trethdalwyr hyn yn yr ardal. Ni chaniateir sefydlu AGB ond lle mae'r personau sydd â hawl i bleidleisio yn cymeradwyo'r cynigion AGB.
Mae rheoliad 2 yn darparu i'r awdurdod bilio ddarparu gwybodaeth o'i gofnodion ardrethi annomestig i rai sy'n datblygu'r cynigion AGB. Gall awdurdodau godi tâl am ddarparu'r wybodaeth hon.
Mae rheoliad 3 yn pennu pwy sydd â hawl i lunio'r cynigion AGB ac, yn rheoliadau 4 a 5, pennir y gweithdrefnau sydd i'w dilyn o ran llunio'r cynigion AGB, gyda'r materion sydd i'w cynnwys ynddynt wedi eu pennu yn Atodlen 1.
Mae rheoliad 6 yn darparu mai'r swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau lleol yn ardal yr awdurdod bilio yw trefnydd y bleidlais ar gyfer unrhyw bleidlais a gynhelir ar gyfer Ardaloedd Gwella Busnes fel sy'n ofynnol o dan y Ddeddf neu'r Rheoliadau hyn, ac, o dan reoliad 7 ac Atodlen 2, darperir ar gyfer trefniadau i gynnal pleidlais a gweithredu pleidlais. Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth o ran pwy sy'n cael pleidleisio mewn pleidlais.
Mae rheoliad 9, yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatgan bod pleidlais yn annilys mewn achosion o anghysondeb sylweddol a gweithdrefnau cysylltiedig.
Mae rheoliad 10 yn galluogi awdurdod bilio i adennill costau pleidlais AGB neu bleidlais adnewyddu gan gynigydd yr AGB neu gorff AGB o dan yr amgylchiadau rhagnodedig.
Mae rheoliad 11 yn darparu y gall yr awdurdod bilio ddarparu gwybodaeth o'i gofnodion ardrethi annomestig at ddiben canfasio ar gyfer pleidlais. Caiff awdurdodau godi tâl am ddarparu'r wybodaeth hon. Darperir hefyd ar gyfer archwilio'r wybodaeth gan unrhyw berson a chyfyngu'r defnydd a wneir o'r wybodaeth.
Mae rheoliad 12 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y caiff awdurdod bilio atal cynigion yr AGB drwy feto, o fewn pa gyfnod y caiff wneud hyn a materion y mae'n rhaid i'r awdurdod eu hystyried wrth benderfynu a fydd yn ymarfer ei hawl feto. Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth o ran apeliadau yn erbyn arfer feto.
Mae rheoliad 14 ac Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth bellach o ran Cyfrif Refeniw'r AGB.
Mae rheoliad 15 ac Atodlen 4, yn darparu ynghylch codi, gweinyddu, casglu, adennill a gweithredu lefi'r AGB. Mae'r darpariaethau yn Atodlen 4 yn seiliedig ar y rheolau ar gyfer ardrethi annomestig yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 (O.S. 1989/1058) ac yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (O.S. 1990/145).
Darperir hefyd ar gyfer diwygio trefniadau'r AGB heb neu gyda phleidlais (rheoliadau 16 a 17 am y naill a'r llall) ynghyd ag o dan ba amgylchiadau y ceir terfynu trefniadau'r AGB (rheoliad 18).
Yn rheoliad 19, darperir bod yr awdurdod bilio yn cyflenwi gwybodaeth i weithredwr y bleidlais i bwrpas cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau. Yn rheoliad 20, darperir bod yr awdurdod bilio yn talu treuliau trefnydd y bleidlais o ran cynnal pleidleisiau o dan y rheoliadau.
O dan rheoliad 21, darperir ar gyfer cyflwyno hysbysiadau etc yn electronig. Nid yw'r ddarpariaeth hon yn berthnasol i hysbysiadau o dan Atodlen 4 am fod yr Atodlen honno yn darparu'n benodol ar gyfer cyflwyno hysbysiadau galw am dalu etc yn electronig.
2003 p.26. Gweler adran 59(1) am y diffiniad o “prescribed”.
O.S. 1989/1060; gwneir y diwygiadau perthnasol o dan O.S. 1993/616.
O.S. 1989/1058; gwneir y diwygiadau o dan O.S. 1990/145, 1991/141, 1991/1127, 1992/1512, 1993/774, 1993/894, 1993/1493, 1995/212, 1998/3089 a 2003/1714.
O.S. 1994/2421; gwnaed y diwygiadau perthnasol gan O.S. 2002/1308.