Search Legislation

Rheoliadau Ardaloedd Gwella Busnes (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Terfynu trefniadau'r AGB

18.—(1Caiff yr awdurdod bilio perthnasol derfynu trefniadau'r AGB os —

(a)ym marn yr awdurdod, ni fydd gan y corff AGB gyllid digonol i gwrdd â'i atebolrwydd ariannol dros y cyfnod trethadwy presennol, ac y mae'r awdurdod wedi —

(i)rhoi cyfle rhesymol i'r corff AGB wneud trefniadau i gyllido'r diffyg ariannol neu i leihau'r gwaith neu'r gwasanaethau a ddarperir o dan drefniadau'r AGB fel bod y diffyg ariannol yn cael ei wrthbwyso'n ddigonol; ac wedi

(ii)rhoi cyfle, mewn cyfarfod cyhoeddus, i'r personau sy'n atebol i dalu lefi'r AGB wneud sylwadau yng nghyswllt terfynu trefniadau'r AGB;

(b)ym marn yr awdurdod, y mae'r corff AGB wedi methu â darparu, neu wedi methu â gwneud cynnydd rhesymol gyda darparu'r gwaith neu'r gwasanaethau sydd i'w darparu o dan drefniadau'r AGB; neu

(c)os nad yw'r awdurdod yn gallu, am resymau sydd y tu hwnt i'w reolaeth, darparu gwaith neu wasanaethau sy'n angenrheidiol i'r AGB allu parhau, ac y mae'r awdurdod—

(i)os ceir corff AGB, wedi ymgynghori gyda'r corff AGB a gydag unrhyw gynrychiolwyr o'r gymuned fusnes yn ardal ddaearyddol yr AGB y gwêl yr awdurdod yn briodol; ac

(ii)os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, wedi ymgynghori gydag unrhyw gynrychiolwyr o'r gymuned fusnes yn ardal ddaearyddol yr AGB y gwêl yr awdurdod yn briodol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y corff AGB neu, os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, caiff yr awdurdod bilio perthnasol derfynu trefniadau'r AGB os —

(a)nad oes galw mwyach am y gwaith neu'r gwasanaethau a ddarperir o dan drefniadau'r AGB; neu

(b)os nad yw'r corff AGB neu'r corff AGB awdurdod lleol, yn ôl y digwydd, ac am resymau sydd y tu hwnt i'w reolaeth, yn gallu darparu gwaith neu wasanaethau sy'n angenrheidiol i'r AGB allu parhau.

(3Ni chaiff y corff AGB neu, os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, ni chaiff yr awdurdod bilio perthnasol gymryd unrhyw gamau i derfynu trefniadau'r AGB hyd nes —

(a)os ceir corff AGB, y bydd wedi ymgynghori gyda'r awdurdod bilio perthnasol a gydag unrhyw gynrychiolwyr o'r gymuned fusnes yn ardal ddaearyddol yr AGB y gwêl yr awdurdod yn briodol; a

(b)os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, y bydd yr awdurdod bilio perthnasol wedi ymgynghori gydag unrhyw gynrychiolwyr o'r gymuned fusnes yn ardal ddaearyddol yr AGB y gwêl yr awdurdod yn briodol.

(4Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol hysbysu'r corff AGB yn ysgrifenedig ynghylch ei fwriad i derfynu trefniadau'r AGB o dan baragraff (1) neu (2) o leiaf 28 diwrnod cyn dyddiad eu terfynu.

(5Rhaid i'r corff AGB hysbysu'r awdurdod bilio perthnasol yn ysgrifenedig ynghylch ei fwriad i derfynu trefniadau'r AGB o dan baragraff (2) o leiaf 28 diwrnod cyn dyddiad eu terfynu.

(6Os terfynir trefniadau'r AGB o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol, cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i derfynu at bob person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB a rhaid i'r hysbysiad hwnnw egluro a fydd ad-daliad o dan reoliad 14(4) yn cael ei wneud.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources