Cyfarwyddiadau i gynnal pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais5

1

Pan fydd awdurdod bilio perthnasol —

a

yn ddarostyngedig i baragraff (2), yn derbyn hysbysiad o dan reoliad 4(2)(a)(ii);

b

mewn achos lle mae corff AGB awdurdod lleol yn gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion diwygio neu gynigion adnewyddu, yn ôl y digwydd; neu

c

yn derbyn hysbysiad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 9(10) yn gofyn iddo drefnu ail bleidlais;

rhaid iddo gyfarwyddo trefnydd y bleidlais i gynnal pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd.

2

Pan fydd awdurdod bilio perthnasol yn derbyn hysbysiad o dan reoliad 4(2)(a)(ii), nid yw'n ofynnol iddo gyfarwyddo trefnydd y bleidlais o dan baragraff (1) hyd nes bydd cynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, yn cydymffurfio gyda gofynion rheoliad 4(1) a (2).