5.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r paragraff hwn, caiff unrhyw berson gael ei benodi yn berson procsi i bleidleisio dros rywun arall mewn pleidlais, a chaiff bleidleisio yn rhinwedd y penodiad hwnnw.
(2) Ni chaiff person sydd â hawl i bleidleisio benodi mwy nag un person procsi ar y tro i bleidleisio drosto mewn pleidlais.
(3) Pan fydd person sydd â hawl i bleidleisio yn gwneud cais i drefnydd y bleidlais i benodi person procsi i bleidleisio drosto mewn pleidlais arbennig, rhaid i drefnydd y bleidlais wneud y penodiad os bydd y cais yn cwrdd â gofynion y paragraff hwn ac os yw'r person procsi yn gallu ac yn fodlon cael ei benodi.
(4) Rhaid i gais i benodi person procsi gynnwys —
(a)enw a chyfeiriad llawn y person y mae'r person sydd â hawl i bleidleisio (yr ymgeisydd) eisiau ei benodi yn brocsi drosto;
(b)cyfeiriad hereditament yr ymgeisydd;
(c)llofnod yr ymgeisydd; a
(ch)datganiad ei fod wedi cysylltu gyda'r person procsi a enwir a bod y person procsi hwnnw yn gallu ac yn fodlon cael ei benodi.
(5) Rhaid i gais i benodi procsi gael ei wrthod i bwrpas pleidlais arbennig os yw'n cael ei dderbyn gan drefnydd y bleidlais ar ôl 5p.m. ar y degfed diwrnod cyn diwrnod y bleidlais.
(6) Os yw trefnydd y bleidlais yn caniatáu cais i benodi procsi, rhaid i drefnydd y bleidlais —
(a)gadarnhau, drwy anfon rhybudd ysgrifenedig at y person sydd â hawl i bleidleisio, bod y procsi wedi ei benodi, a'i enw a'i gyfeiriad; a
(b)cynnwys manylion y person procsi ar y rhestr y cyfeirir ato ym mharagraff 3(b).
(7) Os yw trefnydd y bleidlais yn gwrthod cais i benodi procsi, rhaid i drefnydd y bleidlais hysbysu'r ymgeisydd yn ysgrifenedig ynghylch ei benderfyniad a'r rheswm drosto.
(8) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), bydd y penodiad yn aros mewn grym ar gyfer y bleidlais honno yn unig.
(9) Caiff y person sydd â hawl i bleidleisio ganslo'r penodiad drwy hysbysu trefnydd y bleidlais neu drwy fod y person procsi yn hysbysu trefnydd y bleidlais nad yw mwyach yn dymuno gweithredu fel procsi.
(10) Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (9) a gyflwynir gan berson sydd â hawl i bleidleisio yn canslo penodiad procsi gael ei ddiystyru i bwrpas pleidlais os yw'n cael ei dderbyn gan drefnydd y bleidlais ar ôl 5p.m. ar y pumed diwrnod cyn dyddiad y bleidlais.
(11) Os yw penodiad procsi yn cael ei ganslo o dan is-baragraff (9), rhaid i drefnydd y bleidlais —
(a)hysbysu'r person sydd â hawl i bleidleisio yn ysgrifenedig bod y penodiad wedi'i ganslo;
(b)hysbysu'r person y canslwyd ei benodiad fel procsi yn ysgrifenedig, oni bai fod trefnydd y bleidlais eisoes wedi'i hysbysu gan y person hwnnw nad yw mwyach yn dymuno gweithredu fel person procsi; a
(c)tynnu enw'r person procsi oddi ar y rhestr a gedwir o dan baragraff 3(b).