Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Cross Heading
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Rhaid i bob person sy'n cymryd rhan yn y trefniadau i anfon neu dderbyn papurau pleidleisio gadw at a chynorthwyo i gadw at ofynion cyfrinachedd y bleidlais ac ni chaiff geisio canfod wrth dderbyn y papurau pleidleisio sut y pleidleisiwyd ar unrhyw bapur pleidleisio nac ychwaith gyfleu unrhyw wybodaeth amdanynt a gafwyd drwy'r trefniadau hynny.
(2) Rhaid i bob person sy'n cymryd rhan yn y gwaith o gyfri'r pleidleisiau gadw at a chynorthwyo i gadw at gyfrinachedd y pleidleisio ac ni chaiff gyfleu unrhyw wybodaeth a gafwyd wrth gyfri'r pleidleisiau ynghylch sut y pleidleisiwyd ar unrhyw bapur pleidleisio penodol.
(3) Nid oes unrhyw beth yn y paragraff hwn yn atal trefnydd y bleidlais a'i glercod rhag canfod cyfeiriad a gwerth ardrethol pob hereditament y pleidleisiwyd mewn perthynas ag ef.
Back to top