Rheoliadau Ardaloedd Gwella Busnes (Cymru) 2005

Atebolrwydd heb ei dalu ar adeg marwolaeth

10.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw person yn marw ac os oedd (neu yr honnwyd ei fod) ar unrhyw adeg cyn ei farwolaeth yn atebol i dalu lefi'r AGB.

(2Os —

(a)cyn marwolaeth yr ymadawedig, yr oedd yn atebol i dalu swm o dan yr Atodlen hon neu ar ffurf costau perthnasol o ran lefi'r AGB, ond sydd heb ei dalu neu eu talu; neu

(b)ar ôl marwolaeth yr ymadawedig, y byddai, oni bai am ei farwolaeth (drwy gyflwyno hysbysiad neu beidio), yn atebol i dalu swm o dan yr Atodlen hon o ran lefi'r AGB,

bydd ei ysgutor neu weinyddwr, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) ac i'r graddau nad yw'n fwy na'r swm sy'n daladwy gan yr ymadawedig (gan gynnwys costau perthnasol sy'n daladwy ganddo) o ran lefi'r AGB, yn atebol i dalu'r swm a gall dynnu unrhyw daliadau a wnaed (neu sydd i'w gwneud) o asedau ac eiddo personol yr ymadawedig.

(3Pan fo is-baragraff (2)(b) yn berthnasol, ni fydd atebolrwydd yr ysgutor neu'r gweinyddwr yn codi hyd nes y cyflwynir hysbysiad iddynt yn ei gwneud yn ofynnol iddynt dalu'r swm.

(4Pan fydd swm, cyn marwolaeth yr ymadawedig, sy'n fwy na'i atebolrwydd (gan gynnwys costau perthnasol sy'n daladwy ganddo) o ran lefi'r AGB wedi'i dalu (p'un ai yw'r gor-daliad yn codi oherwydd ei farwolaeth neu beidio) a heb ei ad-dalu neu ei gredydu o dan yr Atodlen hon, bydd gan ei ysgutor neu ei weinyddwr hawl i'r swm hwnnw.

(5Y mae costau yn gostau perthnasol i bwrpas is-baragraffau (2) a (4) os —

(a)gwnaed gorchymyn neu warant (yn ôl y digwydd) gan y llys yn eu cylch o dan reoliad 12(6)(b) neu (7) neu 16(4)(b) o Reoliadau 1989, neu mewn achos o dan reoliad 20 o Reoliadau 1989; neu os

(b)mai taliadau ydynt o ran atafaelu sydd modd eu hadennill o dan reoliad 14(2)(b) o Reoliadau 1989.

(6Bydd swm yn daladwy o dan is-baragraff (2) yn orfodadwy o ran gweinyddu ystad yr ymadawedig fel dyled gan yr ymadawedig, ac, felly —

(a)nid oes raid gwneud cais am orchymyn atebolrwydd mewn perthynas ag ef ar ôl marwolaeth yr ymadawedig o dan reoliad 12 o Reoliadau 1989; a

(b)bydd atebolrwydd yr ysgutor neu'r gweinyddwr yn atebolrwydd yn rhinwedd eu swyddogaeth.

(7Y mae rheoliad 23(1) a (2) o Reoliadau 1989 yn gymwys i achosion i orfodi atebolrwydd sy'n codi o dan y paragraff hwn fel ag y mae'n berthnasol i achosion eraill o dan yr Atodlen hon.

(8Cyn belled ag y bo'n berthnasol i'w hatebolrwydd o dan y paragraff hwn o ran gweinyddu ystad yr ymadawedig, gall yr ysgutor neu'r gweinyddwr gychwyn, parhau neu dynnu achos yn ôl.