Hysbysiadau galw am dalu: addasiad terfynol
8.—(1) Y mae'r paragraff hwn yn berthnasol —
(a)os yw hysbysiad wedi'i gyflwyno gan awdurdod bilio perthnasol o dan yr Atodlen hon yn galw am dâl neu daliadau gan berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o ran y swm sy'n daladwy mewn perthynas â'r hereditament am gyfnod trethadwy neu ran o gyfnod trethadwy;
(b)os cafwyd bod y tâl neu'r taliadau sy'n rhaid eu talu yn fwy neu'n llai na'r swm sy'n daladwy o ran yr hereditament am y cyfnod neu ran o'r cyfnod dan sylw; ac
(c)os na wneir darpariaeth ar gyfer addasu'r symiau sy'n daladwy o dan yr hysbysiad ac ar gyfer (lle bo'n briodol) gwneud taliadau ychwanegol, neu ar gyfer ad-dalu neu gredydu unrhyw or-daliad gan unrhyw ddarpariaeth arall o dan yr Atodlen hon neu o dan unrhyw gytundeb a ffurfiwyd o dan baragraff 7(3).
(2) Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r cyfnod neu ran o'r cyfnod ddod i ben, gyflwyno hysbysiad pellach i'r person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn nodi'r swm sy'n daladwy am y cyfnod neu ran ohono yng nghyswllt yr hereditament, gan addasu (drwy gyfeirio at y swm hwnnw) y symiau sy'n daladwy o dan yr hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a).
(3) Os yw'r swm a nodir yn yr hysbysiad pellach yn fwy na'r swm sy'n ofynnol i'w dalu o dan yr hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a), bydd y gwahaniaeth, na wneir darpariaeth arall fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c) ar ei gyfer, yn daladwy gan y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB i'r awdurdod bilio perthnasol pan ddaw cyfnod o'r fath i ben (nid llai na 14 diwrnod) ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad fel a bennir ynddo.
(4) Os gwnaed gor-daliad o ran unrhyw atebolrwydd gan y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o dan yr Atodlen hon, rhaid i swm y gor-daliad, na wneir darpariaeth arall fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c) ar ei gyfer, —
(a)cael ei ad-dalu os bydd y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn gofyn amdano; neu
(b)mewn unrhyw achos arall (fel a benderfynir gan yr awdurdod bilio perthnasol), naill ai gael ei ad-dalu neu ei gredydu yn erbyn unrhyw atebolrwydd dilynol gan y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB ar ffurf taliad lefi'r AGB neu dreth annomestig.