Darpariaethau trosiannol

5.  Nid yw erthygl 2(b)(ii) (diwygio adran 31 o Ddeddf 1980) yn gymwys—

(a)os mae perchennog, neu os mae ei ragflaenwyr mewn teitl, fwy na 6 mlynedd cyn 31 Mai 2005, wedi adneuo map a datganiad yn unol ag adran 31(6) o Ddeddf 1980; a

(b)os na wnaeth y perchennog hwnnw, neu os na wnaeth ei ragflaenwyr mewn teitl, o fewn y cyfnod o 6 mlynedd yn gorffen ar 31 Mai 2005, roi datganiad statudol (p'un a roddwyd datganiad blaenorol ai peidio) yn unol ag adran 31(6) o Ddeddf 1980.