- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'i wneud
17 Mai 2005
Yn dod i rym
31 Mai 2005
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
2. Pennir y cyrff canlynol yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156(3) o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon) —
(a)Cheshire Mortgage Corporation Limited (Cwmni Rhif 02613335);
(b)London Scottish Finance Limited (Cwmni Rhif 00233259);
(c)Money Partners Limited (Cwmni Rhif 04992438);
(ch)Money Partners Finance Limited (Cwmni Rhif 05299032).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu pedwar corff yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau o dan yr hawl i brynu), yn ogystal â'r cyrff hynny sydd eisoes wedi'u pennu gan yr adran honno neu mewn Gorchmynion blaenorol. Mae adran 156 o Deddf Tai 1985 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.
Mae adran 156 yn darparu bod yr atebolrwydd i ad-dalu gostyngiad a all godi o dan gyfamod gan y tenant sy'n ofynnol o dan adran 155 o Ddeddf 1985 yn gyfystyr ag arwystl cyfreithiol ar y tŷ annedd ond bod gan arwystl cyfreithiol sy'n sicrhau swm sy'n cael ei fenthyca i'r tenant gan sefydliad benthyca cymeradwy er mwyn galluogi'r tenant i arfer yr hawl i brynu, flaenoriaeth drosto.
At ddibenion yr adran mae cymdeithasau adeiladu, banciau, cwmnïau yswiriant, cymdeithasau cyfeillgar ac unrhyw gorff arall a bennir, neu y pennir ei ddosbarth neu ei ddisgrifiad, mewn gorchymyn a wneir, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn sefydliadau benthyca cymeradwy.
Mae cyrff o'r fath hefyd yn dod yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 36 o Ddeddf 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan awdurdodau lleol) ac adran 12 o Ddeddf Tai 1996 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig).
Yn ychwanegol, gan fod adran 156 o Ddeddf Tai 1985 yn cael ei chymhwyso gan adran 171A (achosion lle y diogelir yr hawl i brynu) o'r Ddeddf honno at achosion lle y diogelir hawl tenant i brynu, a chan adran 17 (hawl tenant i gaffael annedd: darpariaethau atodol) o Ddeddf Tai 1996 at achosion lle y mae gan denant yr hawl i gaffael o dan adran 16 (hawl tenant i gaffael annedd) o'r Ddeddf honno, daw'r cyrff a bennwyd yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion yr hawliau hynny.
1985 p.68; diwygiwyd adran 156(4) gan Ddeddf Tai 1988 (p.50), Atodlen 17, paragraff 106 a chan Ran XIII o Atodlen 19 i Ddeddf Tai 1996 (p.52).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Diwygiwyd adran 156 hefyd gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63), Atodlen 5, paragraff 1(2) a (5) a chan adran 120(3) a (4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p.28).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: