Offerynnau Statudol Cymru
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Wedi'u gwneud
17 Mai 2005
Yn dod i rym
31 Mai 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 164(5)(d) a (6)(a) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai Lesddaliad (Hysbysiad o Warchodaeth Yswiriant) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran tai(2) yng Nghymru'n unig.
2. Rhaid i hysbysiad o warchodaeth(3) bennu (Yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) i (c) o is-adran (5) o adran 164 (Yswiriant nad yw gydag yswirwyr y landlord) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002) —
(a)cyfeiriad y tŷ sy'n cael ei yswirio o dan y polisi;
(b)swyddfa gofrestredig yr yswiriwr awdurdodedig(4) neu, os nad oes gan yr yswiriwr awdurdodedig swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa;
(c)Rhif y polisi;
(ch)pa mor aml y mae premiymau'n daladwy o dan y polisi;
(d)swm unrhyw dâl ychwanegol sy'n daladwy gan y tenant o dan y polisi;
(dd)os bydd tâl ychwanegol yn daladwy, p'un a yw'n daladwy o ran pob cais a wneir o dan y polisi neu mewn amgylchiadau penodol yn unig ac, yn yr achos olaf hwn, ddisgrifiad byr o'r amgylchiadau hynny;
(e)p'un a yw'r polisi wedi'i adnewyddu ai peidio ac, os cafodd ei adnewyddu, y dyddiad y gwnaed hynny ddiwethaf;
(f)os na chafodd y polisi ei adnewyddu, y dyddiad y daeth yn effeithiol;
(ff)bod y tenant wedi'i fodloni bod y polisi'n gwarchod ei fuddiannau; a
(g)nad oes gan y tenant unrhyw reswm dros gredu nad yw'r polisi'n gwarchod buddiannau'r landlord.
3. Rhaid i hysbysiad o warchodaeth fod ar y ffurf a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu ar ffurf sylweddol debyg ei heffaith.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005
Rheoliad 3
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Os bydd les hir ar dŷ yn ei gwneud yn ofynnol i'r tenant yswirio'r tŷ gydag yswiriwr a enwebwyd neu a gymeradwywyd gan y landlord, caiff tenant osgoi'r gofyniad hwnnw os bydd darpariaethau adran 164(2)(a) i (d) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 sy'n ymwneud â'r yswiriwr, y buddiannau a'r risgiau a warchodir, a swm y warchodaeth, wedi'u bodloni a bod y tenant yn rhoi hysbysiad o warchodaeth i'r landlord o fewn y cyfnod a bennir yn yr adran honno. Rhaid i hysbysiad o warchodaeth bennu enw'r yswiriwr, y risgiau a warchodir gan y polisi, swm a chyfnod y warchodaeth ac unrhyw wybodaeth bellach y gellir bod wedi'i rhagnodi.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gwybodaeth bellach sydd i'w chynnwys mewn hysbysiad o warchodaeth. Mae'r wybodaeth honno fel a ganlyn:
(a)cyfeiriad y tŷ sy'n cael ei yswirio o dan y polisi;
(b)swyddfa gofrestredig yr yswiriwr neu, os nad oes swyddfa gofrestredig gan yr yswiriwr, ei brif swyddfa;
(c)Rhif y polisi;
(ch)pa mor aml y mae premiymau'n daladwy o dan y polisi;
(d)swm unrhyw dâl ychwanegol sy'n daladwy gan y tenant o dan y polisi;
(dd)os bydd tâl ychwanegol yn daladwy, p'un a yw'n daladwy o ran pob cais a wneir o dan y polisi neu mewn amgylchiadau penodol yn unig ac, yn yr achos olaf hwn, ddisgrifiad byr o'r amgylchiadau hynny;
(e)p'un a yw'r polisi wedi'i adnewyddu ai peidio ac, os cafodd ei adnewyddu, y dyddiad y gwnaed hynny ddiwethaf;
(f)os na chafodd y polisi ei adnewyddu, y dyddiad y daeth yn effeithiol;
(ff)datganiad bod y tenant wedi'i fodloni bod y polisi'n gwarchod buddiannau tenantiaid; a
(g)datganiad nad oes gan y tenant reswm dros gredu nad yw'r polisi'n gwarchod buddiannau'r landlord.
Rhaid i'r hysbysiad fod ar y ffurf a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau neu ar ffurf sylweddol debyg ei heffaith.
2002 p.15. Gweler y diffiniadau o “prescribed” yn adran 164(10) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. Yn rhinwedd adran 179(1) o'r Ddeddf honno, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r “the appropriate national authority” o ran Cymru. (Mae'r pwerau a roddir gan adran 164(5)(d) a (6)(a) o'r Ddeddf honno'n arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd y diffiniad o “prescribed” ac adran 179(1).)
Yn rhinwedd adrannau 164(10) a 179(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, yr un ystyr sydd i “house” yn adran 164 ag sydd iddo at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p.88). Yn y Ddeddf honno yn adran 2 y ceir y diffiniad o “house” .
Gweler adran 164(3) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.
Gweler y diffiniad o “authorised insurer” yn adran 164(10) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.