6.—(1) Mae erthygl 5(3) i fod yn effeithiol mewn perthynas â disgyblion nad yw darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn gymwys mewn perthynas â hwy (gan gynnwys disgyblion â datganiad anghenion addysgol arbennig) gyda'r addasiadau a bennir yn yr erthygl hon.
(2) Os nad yw un TC mewn pwnc yn gymwys i un o'r disgyblion hynny, mae erthygl 5(3) i fod yn effeithiol fel petai nifer y TCau sy'n gymwys i'r disgybl yn gyfanswm y TCau yn y pwnc ac fel petai'r TC nad yw'n gymwys, ac unrhyw bwysoli mewn perthynas ag ef, yn cael ei ddiystyru.
(3) Os nad yw rhagor nag un TC mewn pwnc yn gymwys i'r disgybl, nid yw erthygl 5(3) i fod yn gymwys i'r disgybl mewn perthynas â'r pwnc hwnnw.
(4) Yn achos Cymraeg os yw'r disgybl yn dilyn rhaglen astudio o'r enw “Cymraeg Ail Iaith”, nid yw erthygl 5(3) i fod yn gymwys i'r disgybl hwnnw os nad yw TC1 (llafar) yn gymwys iddo.