- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
1.—(1) Dim ond crwyn anifeiliaid buchol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), a ganiateir eu defnyddio fel deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu colagen y bwriedir i bobl ei fwyta yn y Deyrnas Unedig.
(2) Gwaherddir defnyddio crwyn a gyflwynwyd i brosesau barcio.
(3) Rhaid i'r deunyddiau crai ddod o anifeiliaid buchol a gigyddwyd mewn lladd-dy y gwelwyd bod eu carcasau yn ffit i'w bwyta gan bobl yn dilyn archwiliad ante mortem a post mortem.
(4) Rhaid i'r deunyddiau crai ddod o ladd-dai, canolfannau casglu neu danerdai.
(5) Awdurdodir canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai o dan reoliad 6 o Reoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003(1).
2.—(1) Rhaid cludo deunyddiau crai a arfaethir ar gyfer cynhyrchu colagen o dan amodau glendid gan ddefnyddio dull priodol o gludo.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) rhaid cludo a storio deunyddiau crai yn oer neu wedi eu rhewi, oni phrosesir hwy o fewn 24 awr ar ôl eu hanfon.
(3) Caniateir cludo a storio crwyn a halltwyd, eu sychu a'u calchu a chrwyn a gafodd eu trin ag alcali neu asid ar dymheredd amgylchynol.
(4) Rhaid cadw'r ystafelloedd storio mewn cyflwr da a glân, fel na fyddant yn ffynhonnell halogi'r deunyddiau crai.
(5) Yn ystod y cludo ac ar adeg y traddodi i'r canolfannau casglu a'r sefydliadau sy'n cynhyrchu colagen, rhaid bod dogfen fasnachol gyda'r deunyddiau crai yn unol â'r model a nodir yn Rhan 2 o'r Atodlen hon.
3.—(1) Rhaid i'r cynhyrchu ar colagen y bwriedir i bobl ei fwyta ddigwydd mewn sefydliad a awdurdodwyd o dan reoliad 5 o Reoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003.
(2) Rhaid rhoi ar waith yn y sefydliad system sy'n ei gwneud yn bosibl cysylltu pob swp cynhyrchu a anfonir gyda'r llwythi â'r deunyddiau crai cysylltiedig sy'n dod i mewn, yr amodau cynhyrchu ac amser y cynhyrchu.
4.—(1) Rhaid cynhyrchu colagen drwy broses a fydd yn sicrhau bod y deunydd crai yn mynd drwy driniaeth sy'n ymwneud â golchi, addasu pH gan ddefnyddio asid neu alcali a ddilynir gan rinsio unwaith neu fwy, hidlo ac allwthio.
(2) Ni fydd colagen a gynhyrchir yn unol ag is-baragraff (1) yn mynd drwy brosesau pellach heblaw proses sychu.
(3) Ni fydd colagen nas bwriadir i bobl ei fwyta yn cael ei gynhyrchu a'i storio yn yr un sefydliad â cholagen y bwriedir i bobl ei fwyta onid yw'r colagen nas bwriadir i bobl ei fwyta wedi cael ei gynhyrchu a'i storio o dan yr un amodau ag a nodir yn yr Atodlen hon.
(4) Gwaherddir defnyddio cyffeithyddion heblaw'r rhai a ganiateir o dan Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 95/2/EC ar ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion(2) (fel y diwygir y Gyfarwyddeb honno ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn).
5.—(1) Cymerir mesurau priodol, gan gynnwys profion, i sicrhau bod pob swp cynhyrchu colagen, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn bodloni'r meini prawf microbiolegol a gweddilliol a nodir yn y Tabl yn Rhan 3 o'r Atodlen hon.
(2) Os yw natur cynnyrch gorffenedig o'r math fel ei fod yn golygu na fyddai'n briodol ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â'r terfynau lleithder a lludw a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen hon, ni fydd y terfynau hynny yn gymwys i'r cynnyrch hwnnw.
6.—(1) Rhaid lapio, pacio, storio a chludo colagen y bwriedir i bobl ei fwyta o dan amodau hylendid boddhaol, ac yn benodol —
(a)rhaid darparu ystafell ar gyfer storio deunydd, lapio a phacio;
(b)rhaid i'r lapio a'r pacio ddigwydd mewn ystafell neu mewn lle a fwriadwyd i'r diben hwnnw yn unig.
(2) Rhaid i ddeunyddiau lapio a phacio sy'n cynnwys colagen —
(a)dwyn marc adnabod sy'n rhoi'r manylion canlynol —
(i)yr enw “United Kingdom” neu'r llythrennau blaen “UK”,
(ii)a ddilynir gan rif cofrestru'r sefydliad a'r llythrennau blaen “EC”; a
(b)dwyn y geiriau “Collagen fit for human consumption in the United Kingdom”; a
(c)dwyn y dyddiad paratoi a rhif y swp.
(3) Rhaid bod dogfen fasnachol gyda'r colagen yn ystod y cyfnod y cludir ef a rhaid iddi ddwyn —
(a)y geiriau “Collagen fit for human consumption in the United Kingdom”; a
(b)y dyddiad paratoi a rhif y swp.
OJ Rhif L61, 18.3.95, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/114/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L24, 29.1.2004, t.58).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: