Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
4.—(1) Yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2), rhaid i'r awdurdod priodol sicrhau cyhoeddi hysbyseb ar gyfer aelodau lleyg o banelau apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un o baragraffau Atodlen 1.
(2) Rhaid cyhoeddi'r hysbyseb y cyfeirir ati ym mharagraff (1) cyn diwedd y cyfnod tair blynedd a ddechreuodd pan gyhoeddwyd yr hysbyseb ddiwethaf gan yr awdurdod hwnnw ar gyfer aelodau lleyg, panel apêl a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 24 i Ddeddf 1998, ac ar ôl hynny ym mhob cyfnod tair blynedd ar ôl y dyddiad pan gyhoeddir hysbyseb (neu'r hysbyseb derfynol mewn cyfres o hysbysebion) ddiwethaf gan yr awdurdod hwnnw yn unol â'r rheoliad hwn.
(3) Rhaid i'r hysbyseb y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod —
(a)nodi wrth eu henw, eu dosbarth, neu'u disgrifiad cyffredinol, yr ysgolion sy'n cael eu gwasanaethu gan y panelau apêl y mae'r hysbyseb yn cyfeirio atynt;
(b)cael ei rhoi mewn o leiaf un papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal lle mae'r ysgolion a nodir yn yr hysbyseb;
(c)caniatáu cyfnod o 21 o ddiwrnodau o leiaf o ddyddiad cyhoeddi'r hysbyseb ar gyfer atebion.
(4) Cyn penodi unrhyw aelod lleyg, rhaid i'r awdurdod priodol ystyried unrhyw bersonau cymwys sydd wedi gwneud cais i'r awdurdod mewn ymateb i'r hysbyseb ddiweddaraf neu'r gyfres ddiweddaraf o hysbysebion a roddwyd yn unol â pharagraff (1) ac sy'n dangos eu bod yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer y penodiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 4 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)