F1Ystyriaethau perthnasol mewn apelau sy'n cael eu dwyn o dan adrannau 94 a 95 o Ddeddf 19986.

(1)

Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan y trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a) i (ch), rhaid i’r materion i’w hystyried gan banel apêl wrth ystyried apêl gynnwys—

(a)

unrhyw hoff ddewis a fynegir gan yr apelydd; a

(b)

y trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 92.

(2)

Y trefniadau derbyn y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw’r trefniadau a gyhoeddir pan fynegwyd unrhyw hoff ddewis gan yr apelydd.

(3)

Caiff ystyriaeth o’r mater a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) gynnwys ystyried a yw’r trefniadau hynny yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion gorfodol—

(i)

Cod Derbyniadau Ysgol, neu

(ii)

Rhan 3 o Ddeddf 1998.

(4)

Pan wnaed penderfyniad ar y sail y byddai rhagfarn o’r math y cyfeirir ati yn adran 86(3)(a) yn codi fel a grybwyllir yn is-adran (4) o’r adran honno, caiff panel apêl benderfynu bod lle i’w gynnig i blentyn dim ond os yw’r panel wedi ei fodloni bod un o’r amodau a grybwyllir ym mharagraff (5) yn gymwys.

(5)

Yr amodau a grybwyllir yn y paragraff hwn yw—

(a)

y byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai trefniadau derbyn yr ysgol wedi cydymffurfio â gofynion—

(i)

Cod Derbyniadau Ysgol, neu

(ii)

Rhan 3 o Ddeddf 1998;

(b)

y byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai trefniadau derbyn yr ysgol wedi eu gweithredu’n gywir; neu

(c)

nid oedd y penderfyniad yn un y byddai awdurdod derbyn rhesymol wedi ei wneud o dan amgylchiadau’r achos.

(6)

Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan drefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(d), wrth ystyried apêl rhaid i banel apêl roi sylw i’r canlynol—

(a)

y rhesymau dros benderfyniad yr awdurdod lleol y dylai’r plentyn dan sylw gael ei dderbyn; a

(b)

unrhyw resymau a gyflwynir gan y corff llywodraethu ynghylch pam y byddai derbyn y plentyn yn amhriodol.

(7)

Yn y rheoliad hwn, ystyr “hoff ddewis” (“preference”) yw hoff ddewis a fynegir yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 86(1) neu adran 86A(1), mewn perthynas â blwyddyn ysgol 2013-2014, a’r blynyddoedd ysgol dilynol.