Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 22/04/2009.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005, Paragraff 1.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
1.—(1) Pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(a), cyfansoddir panel apêl gan dri neu bum aelod a benodwyd gan awdurdod addysg lleol o blith—
(a)personau sy'n gymwys i fod yn aelodau lleyg; a
(b)personau sydd â phrofiad mewn addysg neu sy'n gyfarwydd â chyflwr addysg yn ardal yr awdurdod; neu
(c)personau sy'n rhieni i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol.
(2) O blith aelodau panel apêl —
(a)rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n gymwys i fod yn aelod lleyg ac a benodir felly; a
(b)rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n dod o fewn is-baragraff (1)(b) neu (1)(c).
(3) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol benodi un aelod o'r panel i ymddwyn fel cadeirydd.
(4) At ddibenion y paragraff hwn mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw ef yn berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu o ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu mewn unrhyw swydd wirfoddol arall).
(5) Caniateir i'r awdurdod benodi digon o bersonau o dan y paragraff hwn i alluogi dau neu ragor o banelau apêl eistedd yr yn pryd.
(6) Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os yw'n anghymwys yn rhinwedd is-baragraff (7).
(7) Mae'r personau a ganlyn yn anghymwys i fod yn aelodau o banel apêl —
(a)unrhyw aelod o'r awdurdod neu o gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw;
(b)unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod neu gan y corff llywodraethu neu gan y cyrff llywodraethu, heblaw person a gyflogir yn athro neu'n athrawes;
(c)unrhyw berson sydd â, neu a fu ar unrhyw adeg ag, unrhyw gysylltiad â —
(i)yr awdurdod neu'r ysgol, neu
(ii)unrhyw berson o fewn paragraff (b)
o fath y gellid tybio'n rhesymol ei fod yn codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas â'r awdurdod neu'r ysgol.
(8) Rhaid peidio â thybio bod person a gyflogir yn athro neu'n athrawes gan yr awdurdod, oherwydd y gyflogaeth honno'n unig â chysylltiad â'r awdurdod fel a grybwyllir yn is-baragraph (7)(c).
(9) Ni chaiff person fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl yn erbyn penderfyniad os oedd y person hwnnw ymhlith y rheini a wnaeth y penderfyniad neu ymhlith y rheini a gymerodd ran yn y trafodaethau ynghylch gwneud y penderfyniad ai peidio.
(10) Ni chaiff person sy'n athro neu'n athrawes mewn ysgol fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl sy'n cwestiynu a ddylid derbyn y plentyn i'r ysgol honno ai peidio.
(11) Os bydd unrhyw un o'r aelodau, unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sydd wedi'i gyfansoddi ddechrau ystyried apêl —
(a)yn marw; neu
(b)oherwydd salwch, yn methu â pharhau yn aelod; neu
(c)oherwydd bod amheuon rhesymol yn codi am ei allu i weithredu'n ddiduedd, yn methu â pharhau yn aelod,
caiff y panel barhau i ystyried yr apêl a dod i benderfyniad yn ei chylch cyn belled nad yw nifer yr aelodau sy'n weddill yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (2) uchod wedi'u bodloni.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: