2005 Rhif 1398 (Cy.112)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5), (5A), (5C), 95(3), (3A), (3B) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19981, a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2 ac ar ôl ymgynghgori â'r Cyngor Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 19923 mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwysoI11

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

DehongliI22

1

Yn y Rheoliadau hyn —

  • mae i “aelod lleyg” (“lay member”) yr ystyr a roddir iddo gan baragraffau 1(4) a 2(4) o Atodlen 1;

  • ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw'r corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am wneud y trefniadau a ddisgrifir yn rheoliad 3;

  • F6ystyr “Cod Derbyniadau Ysgol” (“School Admissions Code”) yw unrhyw god ar gyfer derbyniadau ysgol a ddyroddir o dan adran 844;

  • F5...

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • F6ystyr “Mesur 2011” (“the 2011 Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 20115;

  • mae i “diwrnod ysgol” (“school day”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.5

2

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —

a

adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o Ddeddf 1998, oni ddywedir fel arall;

b

athro neu athrawes yn cynnwys pennaeth.

Cyfansoddiad panelau apêlI33

Pan wneir trefniadau neu drefniadau ar y cyd gan —

a

awdurdod addysg lleol o dan adran 94(1) neu (1A)6;

b

corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir o dan adran 94(2) neu (2A)7;

c

cyrff llywodraethu dwy neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr un awdurdod addysg lleol, yn unol ag adran 94(3)8;

ch

awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu neu gyrff llywodraethu un neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr awdurdod, yn unol ag adran 94(4)9;

d

awdurdod addysg lleol o dan adran 95(2),

mae apêl i'w wneud i banel apêl a gyfansoddir yn unol â'r paragraff perthnasol yn Atodlen 1.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Dyletswydd i hysbysebu am aelodau lleygI44

1

Yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2), rhaid i'r awdurdod priodol sicrhau cyhoeddi hysbyseb ar gyfer aelodau lleyg o banelau apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un o baragraffau Atodlen 1.

2

Rhaid cyhoeddi'r hysbyseb y cyfeirir ati ym mharagraff (1) cyn diwedd y cyfnod tair blynedd a ddechreuodd pan gyhoeddwyd yr hysbyseb ddiwethaf gan yr awdurdod hwnnw ar gyfer aelodau lleyg, panel apêl a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 24 i Ddeddf 1998, ac ar ôl hynny ym mhob cyfnod tair blynedd ar ôl y dyddiad pan gyhoeddir hysbyseb (neu'r hysbyseb derfynol mewn cyfres o hysbysebion) ddiwethaf gan yr awdurdod hwnnw yn unol â'r rheoliad hwn.

3

Rhaid i'r hysbyseb y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod —

a

nodi wrth eu henw, eu dosbarth, neu'u disgrifiad cyffredinol, yr ysgolion sy'n cael eu gwasanaethu gan y panelau apêl y mae'r hysbyseb yn cyfeirio atynt;

b

cael ei rhoi mewn o leiaf un papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal lle mae'r ysgolion a nodir yn yr hysbyseb;

c

caniatáu cyfnod o 21 o ddiwrnodau o leiaf o ddyddiad cyhoeddi'r hysbyseb ar gyfer atebion.

4

Cyn penodi unrhyw aelod lleyg, rhaid i'r awdurdod priodol ystyried unrhyw bersonau cymwys sydd wedi gwneud cais i'r awdurdod mewn ymateb i'r hysbyseb ddiweddaraf neu'r gyfres ddiweddaraf o hysbysebion a roddwyd yn unol â pharagraff (1) ac sy'n dangos eu bod yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer y penodiad hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Y weithdrefn apelioI55

Rhaid gwneud unrhyw apêl o dan drefniadau a bennir yn rheoliad 3 yn unol ag Atodlen 2.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

F3Ystyriaethau perthnasol mewn apelau sy'n cael eu dwyn o dan adrannau 94 a 95 o Ddeddf 1998I66

1

Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan y trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a) i (ch), rhaid i’r materion i’w hystyried gan banel apêl wrth ystyried apêl gynnwys—

a

unrhyw hoff ddewis a fynegir gan yr apelydd; a

b

y trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 92.

2

Y trefniadau derbyn y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw’r trefniadau a gyhoeddir pan fynegwyd unrhyw hoff ddewis gan yr apelydd.

3

Caiff ystyriaeth o’r mater a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) gynnwys ystyried a yw’r trefniadau hynny yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion gorfodol—

i

Cod Derbyniadau Ysgol, neu

ii

Rhan 3 o Ddeddf 1998.

4

Pan wnaed penderfyniad ar y sail y byddai rhagfarn o’r math y cyfeirir ati yn adran 86(3)(a) yn codi fel a grybwyllir yn is-adran (4) o’r adran honno, caiff panel apêl benderfynu bod lle i’w gynnig i blentyn dim ond os yw’r panel wedi ei fodloni bod un o’r amodau a grybwyllir ym mharagraff (5) yn gymwys.

5

Yr amodau a grybwyllir yn y paragraff hwn yw—

a

y byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai trefniadau derbyn yr ysgol wedi cydymffurfio â gofynion—

i

Cod Derbyniadau Ysgol, neu

ii

Rhan 3 o Ddeddf 1998;

b

y byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai trefniadau derbyn yr ysgol wedi eu gweithredu’n gywir; neu

c

nid oedd y penderfyniad yn un y byddai awdurdod derbyn rhesymol wedi ei wneud o dan amgylchiadau’r achos.

6

Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan drefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(d), wrth ystyried apêl rhaid i banel apêl roi sylw i’r canlynol—

a

y rhesymau dros benderfyniad yr awdurdod lleol y dylai’r plentyn dan sylw gael ei dderbyn; a

b

unrhyw resymau a gyflwynir gan y corff llywodraethu ynghylch pam y byddai derbyn y plentyn yn amhriodol.

7

Yn y rheoliad hwn, ystyr “hoff ddewis” (“preference”) yw hoff ddewis a fynegir yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 86(1) neu adran 86A(1), mewn perthynas â blwyddyn ysgol 2013-2014, a’r blynyddoedd ysgol dilynol.

F4Talu lwfansauI77

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw aelod o banel apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un neu ragor o baragraffau Atodlen 1.

2

Caiff yr awdurdod lleol perthnasol dalu i aelod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) lwfansau ar gyfer—

a

colled ariannol;

b

teithio; ac

c

cynhaliaeth.

3

Mae’r lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) i fod ar y cyfraddau mwyaf diweddar a nodir ar gyfer taliadau i aelodau cynghorau cymuned a thref mewn adroddiad (“yr adroddiad”) gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a ddyroddir o dan Ran 8 o Fesur 2011 (aelodau: taliadau a phensiynau).

4

Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at ddyletswydd a gymeradwywyd i’w ddarllen fel ei fod yn cynnwys cyfeiriad at fod yn bresennol mewn cyfarfod o banel apêl.

IndemnioI88

1

Rhaid i'r awdurdod priodol indemnio aelodau unrhyw banel apêl a gyfansoddir at ddibenion y trefniadau a wnaed ganddo, fel a bennir yn rheoliad 3, yn erbyn unrhyw gostau a threuliau cyfreithiol rhesymol a dynnir gan yr aelodau hynny mewn cysylltiad ag unrhyw benderfyniad neu gam a gymerir ganddynt yn ddidwyll yn unol â'u swyddogaethau fel aelodau o'r panel hwnnw.

2

Pan gyfansoddir un o'r panelau hynny gan —

a

cyrff llywodraethu dwy neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr un awdurdod addysg lleol; neu

b

awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu neu gyrff llywodraethu un neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr awdurdod,

mae unrhyw rwymedigaeth sy'n codi o dan baragraff (1) yn rhwymedigaeth cyd ac unigol ar y cyrff sy'n gwneud y trefniadau ar y cyd oni bai bod trefniant blaenorol wedi'i gytuno fel arall yn ysgrifenedig rhwng y cyrff hynny.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 8 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199813.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLEN 1CYFANSODDIAD PANELAU APÊL

Rheoliad 3

Trefniadau a wnaed gan awdurdod addysg lleolI91

1

Pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(a), cyfansoddir panel apêl gan dri neu bum aelod a benodwyd gan awdurdod addysg lleol o blith—

a

personau sy'n gymwys i fod yn aelodau lleyg; a

b

personau sydd â phrofiad mewn addysg neu sy'n gyfarwydd â chyflwr addysg yn ardal yr awdurdod; neu

c

personau sy'n rhieni i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol.

2

O blith aelodau panel apêl —

a

rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n gymwys i fod yn aelod lleyg ac a benodir felly; a

b

rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n dod o fewn is-baragraff (1)(b) neu (1)(c).

3

Rhaid i'r awdurdod addysg lleol benodi un aelod o'r panel i ymddwyn fel cadeirydd.

4

At ddibenion y paragraff hwn mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw ef yn berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu o ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu mewn unrhyw swydd wirfoddol arall).

5

Caniateir i'r awdurdod benodi digon o bersonau o dan y paragraff hwn i alluogi dau neu ragor o banelau apêl eistedd yr yn pryd.

6

Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os yw'n anghymwys yn rhinwedd is-baragraff (7).

7

Mae'r personau a ganlyn yn anghymwys i fod yn aelodau o banel apêl —

a

unrhyw aelod o'r awdurdod neu o gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw;

b

unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod neu gan y corff llywodraethu neu gan y cyrff llywodraethu, heblaw person a gyflogir yn athro neu'n athrawes;

c

unrhyw berson sydd â, neu a fu ar unrhyw adeg ag, unrhyw gysylltiad â —

i

yr awdurdod neu'r ysgol, neu

ii

unrhyw berson o fewn paragraff (b)

o fath y gellid tybio'n rhesymol ei fod yn codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas â'r awdurdod neu'r ysgol.

8

Rhaid peidio â thybio bod person a gyflogir yn athro neu'n athrawes gan yr awdurdod, oherwydd y gyflogaeth honno'n unig â chysylltiad â'r awdurdod fel a grybwyllir yn is-baragraph (7)(c).

9

Ni chaiff person fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl yn erbyn penderfyniad os oedd y person hwnnw ymhlith y rheini a wnaeth y penderfyniad neu ymhlith y rheini a gymerodd ran yn y trafodaethau ynghylch gwneud y penderfyniad ai peidio.

10

Ni chaiff person sy'n athro neu'n athrawes mewn ysgol fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl sy'n cwestiynu a ddylid derbyn y plentyn i'r ysgol honno ai peidio.

11

Os bydd unrhyw un o'r aelodau, unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sydd wedi'i gyfansoddi ddechrau ystyried apêl —

a

yn marw; neu

b

oherwydd salwch, yn methu â pharhau yn aelod; neu

c

oherwydd bod amheuon rhesymol yn codi am ei allu i weithredu'n ddiduedd, yn methu â pharhau yn aelod,

caiff y panel barhau i ystyried yr apêl a dod i benderfyniad yn ei chylch cyn belled nad yw nifer yr aelodau sy'n weddill yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (2) uchod wedi'u bodloni.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Trefniadau a wnaed gan gorff llywodraethuI102

1

Pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(b), cyfansoddir panel apêl gan dri neu bum aelod a benodwyd gan gorff llywodraethu o blith —

a

personau sy'n gymwys i fod yn aelodau lleyg; a

b

personau sydd â phrofiad mewn addysg neu sy'n gyfarwydd â chyflwr addysg yn ardal yr awdurdod; neu

c

personau sy'n rhieni i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol.

2

O blith aelodau panel apêl —

a

rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n gymwys i fod yn aelod lleyg ac a benodir felly; a

b

rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n dod o fewn is-baragraff (1)(b) neu (1)(c).

3

Rhaid i'r corff llywodraethu penodi un aelod o'r panel i ymddwyn fel cadeirydd.

4

At ddibenion y paragraff hwn mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw ef yn berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu o ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu unrhyw brofiad mewn unrhyw swydd wirfoddol arall).

5

Caniateir i'r corff llywodraethu benodi digon o bersonau o dan y paragraff hwn i alluogi dau neu ragor o banelau apêl eistedd yr yn pryd.

6

Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os yw'n anghymwys yn rhinwedd is-baragraff (7).

7

Mae'r personau a ganlyn yn anghymwys i fod yn aelodau o banel apêl —

a

unrhyw aelod o'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu unrhyw aelod o'r corff llywodraethu;

b

unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod neu gan y corff llywodraethu heblaw person a gyflogir yn athro neu'n athrawes;

c

unrhyw berson sydd â, neu a fu ar unrhyw adeg gysylltiad â —

i

yr awdurdod neu'r ysgol, neu

ii

unrhyw berson o fewn paragraff (b),

o fath y gellid tybio'n rhesymol ei fod yn codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas â'r awdurdod neu'r ysgol.

8

Rhaid peidio â thybio bod person a gyflogir yn athro neu'n athrawes gan yr awdurdod, oherwydd y gyflogaeth honno'n unig, â chysylltiad â'r awdurdod fel a grybwyllir yn is-baragraff (7)(c).

9

Ni chaiff person sy'n athro neu'n athrawes mewn ysgol fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl sy'n cwestiynu a ddylid derbyn y plentyn i'r ysgol honno ai peidio.

10

Os bydd unrhyw un o'r aelodau, unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sydd wedi'i gyfansoddi ddechrau ystyried apêl —

a

yn marw; neu

b

oherwydd salwch, yn methu â pharhau yn aelod; neu

c

oherwydd bod amheuon rhesymol yn codi am ei allu i weithredu'n ddiduedd, yn methu â pharhau yn aelod,

caiff y panel barhau i ystyried yr apêl a dod i benderfyniad yn ei chylch cyn belled nad yw nifer yr aelodau sy'n weddill yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (2) uchod wedi'u bodloni.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Trefniadau ar y cyd gan ddau neu ragor o gyrff llywodraethuI113

1

Pan fydd trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(c), mae paragraff 2 o'r Atodlen hon yn gymwys fel petai —

a

(ac eithrio yn is-baragraff (7)) unrhyw gyfeiriad at y corff llywodraethu yn gyfeiriad at gyrff llywodraethu y ddwy ysgol neu'r ysgolion i gyd; a

b

yn is-baragraff (7), unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw neu at yr ysgol honno yn gyfeiriad at unrhyw un o'r cyrff llywodraethu hynny neu at unrhyw un o'r ysgolion hynny.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Trefniadau ar y cyd gan awdurdod addysg lleol ac un neu ragor o gyrff llywodraethuI124

Pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(ch), bydd paragraff 1 o'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â'r trefniadau hynny fel y mae'n gymwys mewn perthynas â threfniadau a wneir gan awdurdod addysg lleol ac y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a) ond fel petai yn is-baragraff (7) unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw neu at yr ysgol honno yn gyfeiriad at gorff llywodraethu unrhyw ysgol y mae'r trefniadau yn ymwneud â hi neu unrhyw ysgol o'r fath.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Apelau gan gyrff llywodraethu o dan adran 95I135

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(d), bydd paragraff 1 o'r Atodlen hon yn effeithiol fel y bydd yn effeithiol pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(a).

2

Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl o dan adran 95(2) os bu i unrhyw raddau â rhan mewn ystyried o'r blaen a ddylai'r plentyn dan sylw gael ei dderbyn yn ôl ai peidio i unrhyw ysgol y gwaharddwyd ef yn barhaol ohoni ar unrhyw adeg, neu mewn unrhyw apêl blaenorol sy'n ymwneud â'r plentyn o dan adran 95(2).

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 2F1Y Weithdrefn Apelio

Rheoliad 5

Annotations:

Apelau a wneir yn unol ag adran 94I141

1

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “apêl” yw apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(a) i (ch); ac ystyr “penderfyniad ynghylch addysg chweched dosbarth” yw penderfyniad—

    1. a

      a wneir mewn perthynas â hoff ddewis sydd wedi'i fynegi yn unol â'r trefniadau a wneir o dan adran 86A(1) ynghylch lle dylid darparu addysg i blentyn; neu

    2. b

      sy'n gwrthod caniatâd i blentyn i fynd i chweched dosbarth yr ysgol y mae'r plentyn wedi'i dderbyn iddi.

2

Rhaid i fanylion y trefniadau ar gyfer gwneud apêl, gan gynnwys yr wybodaeth sy'n cynnwys y manylion cyswllt ar gyfer pa gorff neu gyrff bynnag sy'n gyfrifol am y trefniadau hynny, gael eu rhoi mewn unrhyw ddogfen sy'n cynnwys hysbysiad i rieni am—

a

penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(za), (b) a (2) ac sy'n gwrthod derbyn eu plentyn i ysgol y mae'r rhieni wedi mynegi mai hi yw eu hoff ddewis yn unol â'r trefniadau a wneir o dan adran 86(1); neu

b

penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(a) o ran yr ysgol y mae addysg i'w darparu ynddi i'w plentyn.

3

Yn achos penderfyniad ynghylch addysg chweched dosbarth, rhaid anfon at y plentyn a rhieni'r plentyn hysbysiadau sy'n cynnwys y canlynol—

a

hysbysiad o—

i

penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(za), (b) a (2) ac sy'n gwrthod derbyn y plentyn i ysgol y mae'r plentyn neu unrhyw un o rieni'r plentyn wedi mynegi mai hi yw eu hoff ddewis yn unol â'r trefniadau a wneir o dan adran 86A(1);

ii

penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(a) o ran yr ysgol y mae addysg i'w darparu ynddi i'r plentyn; neu

iii

penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1A) neu (2A) ac sy'n gwrthod caniatâd i blentyn sydd eisoes wedi'i dderbyn i ysgol i fynd i chweched dosbarth yr ysgol honno;

b

manylion y trefniadau ar gyfer gwneud apêl, gan gynnwys gwybodaeth sy'n cynnwys y manylion cyswllt ar gyfer yr awdurdod priodol; ac

c

pan fo plentyn ac unrhyw un o rieni'r plentyn yn gwneud apelau ar wahân mewn cysylltiad â'r un ysgol, datganiad sy'n esbonio bod rhaid i'r apelau gael eu gwrando gyda'i gilydd.

4

Pan fo plentyn ac unrhyw un o rieni'r plentyn yn gwneud apelau ar wahân mewn cysylltiad â'r un ysgol, rhaid i'r apelau gael eu gwrando gyda'i gilydd.

5

Rhaid i apêl fod drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r sail dros ei gwneud.

6

Rhaid i banel apêl roi cyfle i'r apelydd ymddangos a gwneud sylwadau llafar, a chaniatáu iddo gael ei hebrwng gan gyfaill neu gael ei gynrychioli.

7

Rhaid i apêl gael ei gwrando'n breifat ac eithrio pan fydd y corff neu'r cyrff sydd wedi gwneud y trefniadau o dan adran 94 yn cyfarwyddo fel arall; ond—

a

os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o'r F2awdurdod addysg lleol fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad apêl gan banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1;

b

os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o gorff llywodraethu'r ysgol o dan sylw fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad apêl gan banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 neu 2 o Atodlen 1 (neu yn unol â pharagraff 2 fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 3 o'r Atodlen honno); ac

c

os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff unrhyw berson fod yn bresennol mewn gwrandawiad o apêl at y dibenion canlynol—

i

hyfforddiant; neu

ii

arfarnu perfformiad y clercod neu aelodau o'r panel apêl.

8

At ddibenion is-baragraff (7), mae apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1, fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 4 o'r Atodlen honno, i'w thrin—

a

yn apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o'r Atodlen honno os yw'n ymwneud ag ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir; a

b

yn apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen honno, os yw'n ymwneud ag ysgol sylfaen neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

9

Os bydd aelodau panel apêl yn anghytuno â'i gilydd, bydd yr apêl sy'n cael ei hystyried i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd ac, os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan gadeirydd y panel ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

10

Rhaid rhoi gwybod am benderfyniad panel apêl a'r sail dros ei gwneud yn ysgrifenedig i'r canlynol—

a

yr apelydd a'r F2awdurdod addysg lleol ;

b

yn achos apêl sy'n cael ei gwrando ar y cyd ag apêl arall yn unol â pharagraff 1(4), yr apelydd yn yr apêl arall; ac

c

yn achos apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1, (neu yn unol â'r paragraff hwnnw fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 3 o'r Atodlen honno), i'r corff llywodraethu a wnaeth y penderfyniad yr apeliwyd yn ei erbyn neu'r corff llywodraethu yr apeliwyd yn erbyn y penderfyniad a wnaed ar ei ran.

11

At ddibenion is-baragraff (10), bydd apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1, fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 4 o'r Atodlen honno, i'w thrin fel apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen honno, os bydd yn ymwneud ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

12

Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (11), bydd pob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio, gan gynnwys y cyfnod y maent i'w dwyn o'i fewn, i'w penderfynu gan yr awdurdod priodol.

Apelau a wneir yn unol ag adran 95 o Ddeddf 1998I152

1

Yn y paragraff hwn ystyr “apêl” yw apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(d).

2

Pan fydd unrhyw benderfyniad a grybwyllir yn adran 95(2) wedi'i wneud gan yr F2awdurdod addysg lleol neu ar ei ran, rhaid i'r awdurdod hysbysu corff llyworaethu'r ysgol yn ysgrifenedig am —

a

y penderfyniad hwnnw; a

b

hawl y corff llywodraethu i apelio yn erbyn y penderfyniad yn unol ag is-baragraff (3).

3

Rhaid i unrhyw apêl gan y corff llywodraethu yn erbyn unrhyw benderfyniad cael ei gwneud dim hwyrach na'r pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan hysbysir ef o dan is-baragraff (2).

4

Rhaid i apêl fod drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r sail dros ei gwneud.

5

Rhaid i'r panel apêl gyfarfod i ystyried apêl ar unrhyw ddyddiad y bydd yr awdurdod addysg lleol yn ei benderfynu ond rhaid i'r dyddiad a benderfynir beidio â bod ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan fydd yr awdurdod hwnnw yn derbyn yr hysbysiad y cyfeirir ato o dan hysbysiad is-baragraff (4).

6

Ar apêl rhaid i'r panel ganiatáu —

a

i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu wneud sylwadau ysgrifenedig;

b

i un o swyddogion yr awdurdod a enwebir gan yr awdurdod, a llywodraethwr a enwebir gan y corff llywodraethu, ymddangos a gwneud sylwadau llafar; ac

c

i'r corff llywodraethu gael ei gynrychioli.

7

Rhaid i apelau gael eu gwrando'n breifat ac eithrio pan fydd yr awdurdod addysg lleol yn cyfarwyddo fel arall; ond —

a

os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o'r awdurdod addysg lleol fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad o apêl gan banel apêl; a

b

caiff un aelod o'r Cyngor Tribiwnlysoedd fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw gyfarfod o banel apêl sy'n ystyried apêl.

8

Caniateir cyfuno dwy neu ragor o apelau ac ymdrin â hwy yn yr un achos os yw'r panel apêl yn ystyried bod hynny'n hwylus oherwydd mai'r un rhai yw'r materion a godir gan yr apelau neu oherwydd eu bod yn gysylltiedig.

9

Os bydd aelodau panel apêl yn anghytuno â'i gilydd, bydd yr apêl sy'n cael ei hystyried i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd ac, os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan gadeirydd y panel ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

10

Rhaid i'r panel apêl roi gwybod am ei benderfyniad a'r sail dros ei wneud—

a

yn ysgrifenedig i'r F2awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu; a

b

erbyn diwedd yr ail ddiwrnod ysgol ar ôl i wrandawiad yr apêl ddod i ben.

11

Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (10), mae pob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio i'w benderfynu gan yr F2awdurdod addysg lleol .

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi materion sy'n ymwneud ag apelau sy'n cael eu dwyn o dan adrannau 94 a 95 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, fel y'u diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 2002.

O dan adran 94 rhaid i awdurdod addysg leol, neu yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir, rhaid i gorff llywodraethu wneud trefniadau sy'n galluogi rhieni i apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch derbyn plant i ysgolion, gan gynnwys penderfyniadau sy'n gwrthod caniatâd i blant sydd eisoes wedi'u derbyn i ysgol fynd i chweched dosbarth yr ysgol honno.

O dan adran 95 rhaid i awdurdod addysg lleol wneud trefniadau sy'n galluogi corff llywodraethu ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod i dderbyn plentyn a oedd, adeg gwneud y penderfyniad, wedi'i wahardd yn barhaol o ddwy neu ragor o ysgolion.

Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn, ac Atodlen 1 iddynt, yn darparu ar gyfer dull cyfansoddi panel apêl pan fydd trefniadau'r apêl yn cael eu gwneud gan awdurdod addysg lleol, corff llywodraethu neu pan fydd trefniadau ar y cyd yn cael eu gwneud gan ddau neu ragor o gyrff llywodraethu, neu'r awdurdod addysg lleol ac un neu ragor o gyrff llywodraethu.

Mae rheoliad 4 yn nodi dyletswydd awdurdod derbyn i hysbysebu am aelodau lleyg.

Mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn ac Atodlen 2 iddynt yn rhagnodi'r weithdrefn y mae panel apêl i'w mabwysiadu pan fydd yn gwrando apêl.

Mae rheoliad 6 yn nodi'r materion y mae'n rhaid i'r panel apêl derbyn eu hystyried wrth wrando apêl.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu lwfansau i aelodau o banelau apêl gan yr awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu sy'n gyfrifol am wneud y trefniadau mewn perthynas â cholled ariannol, a threuliau teithio a chynhaliaeth.

Mae rheoliad 8 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu sy'n gyfrifol am wneud trefniadau'r apêl i indemnio aelodau'r panel apêl yn erbyn treuliau neu gostau cyfreithiol a dynnwyd mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad y maent yn ei wneud.