xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Y weithdrefn asesu

8.—(1Pan wneir cais am asesiad o anghenion am wasanaethau cymorth mabwysiadu gan berson sydd â'r hawl i gael ei asesu a phan fydd awdurdod lleol yn cynnal asesiad o anghenion y person hwnnw am y gwasanaethau hynny, wrth gynnal yr asesiad rhaid i'r awdurdod roi sylw i'r ystyriaethau canlynol—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (3), anghenion y person sy'n cael ei asesu a sut y gellir eu diwallu;

(b)anghenion y plentyn mabwysiadol a'i deulu mabwysiadol a sut y gellir eu diwallu;

(c)o ran plentyn a leolwyd i'w fabwysiadu, yr amgylchiadau a arweiniodd at leoli'r plentyn i'w fabwysiadu;

(ch)unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn mabwysiadol sy'n codi oherwydd —

(i)bod y plentyn wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol;

(ii)bod y plentyn wedi arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain;

(iii)bod y rhiant mabwysiadol yn berthynas i'r plentyn.

(2Rhaid i berson sydd â'r cymwysterau, y profiad a'r sgiliau addas sy'n angenrheidiol at ddibenion asesu gynnal yr asesiad o anghenion person am wasanaethau cymorth mabwysiadau, neu oruchwylio'r asesiad hwnnw.

(3Pan fydd yr asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cael ei gynnal ar gais person perthynol, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried anghenion y person hwnnw dim ond i'r graddau y maent yn ymwneud â'i angen am gymorth er mwyn ei alluogi i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer cyswllt â'r plentyn mabwysiadol a wnaed cyn y cais am asesiad.

(4Pan fydd paragraff (1) yn gymwys a'i bod yn ymddangos i'r awdurdod lleol y gall fod angen darparu ar gyfer person yr asesir ei anghenion, wasanaethau—

(a)gan fwrdd iechyd lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; neu

(b)sy'n dod o fewn swyddogaethau awdurdod addysg lleol,

rhaid i'r awdurdod lleol, fel rhan o'r asesiad, ymgynghori â'r bwrdd iechyd lleol hwnnw, yr Ymddiriedolaeth GIG honno, yr Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol honno neu'r awdurdod addysg lleol hwnnw.

(5Pan fydd yr awdurdod lleol yn cynnal asesiad o dan y rheoliad hwn a phan fydd yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid iddo —

(a)cyfweld â'r person ac, os plentyn mabwysiadol yw'r person, y rhieni mabwysiadol; a

(b)llunio adroddiad ysgrifenedig ar yr asesiad.