- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “asiantaethau cymorth mabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption support agencies” yn Neddf Safonau Gofal 2000(1);
mae i “asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol” yr ystyr a roddir i “voluntary adoption agencies” yn adran 4 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
mae i “asiantaethau maethu annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent fostering agencies” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(2);
mae i “awdurdod addysg lleol” yr ystyr a roddir i “local education authority” yn Neddf Addysg 1996(3);
mae i “cwpl” yr ystyr a roddir i “couple” yn adran 144 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(4);
ystyr “darpar warcheidwad arbennig” (“prospective special guardian”) yw person—
sydd wedi hysbysu awdurdod lleol o dan adran 14A(7) o'r Ddeddf o fwriad i wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig yn unol ag adran 14A(3) o'r Ddeddf; neu
y mae llys wedi gofyn i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad a pharatoi adroddiad yn unol ag adran 14A(9) o'r Ddeddf mewn perthynas ag ef;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;
ystyr “GGA” (“SGO”) yw Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig;
ystyr “gwarcheidwad arbennig” (“special guardian”) yw person a benodwyd yn warcheidwad arbennig o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig a wnaed yn unol ag adran 14A o'r Ddeddf;
ystyr “gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig” (“special guardianship support services”) yw'r gwasanaethau hynny sy'n dod o fewn rheoliad 3(1) ac adran 14F(1)(a) o'r Ddeddf;
ystyr “person perthynol” (“related person”) o ran plentyn perthnasol—
yw perthynas i'r plentyn o fewn ystyr adran 105 i'r Ddeddf; a
yw unrhyw berson arall y mae gan y plentyn berthynas ag ef y mae'n ymddangos i'r awdurdod lleol ei bod yn llesol i'r plentyn;
ystyr “plentyn perthnasol” (“relevant child”) yw plentyn—
y mae GGA mewn grym ar ei gyfer (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel “plentyn sy'n destun GGA”);
y mae person wedi hysbysu awdurdod lleol o dan adran 14A(7) o'r Ddeddf o fwriad i wneud cais am GGA yn unol ag adran 14A(3) o'r Ddeddf ar ei gyfer (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel “plentyn y bwriedir gwneud cais am GGA ar ei gyfer”); neu
y mae llys wedi gofyn i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad a pharatoi adroddiad ar ei gyfer yn unol ag adran 14A(9) o'r Ddeddf (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel “plentyn y gofynnodd y llys am adroddiad ar ei gyfer”),
a dehonglir cyfeiriadau at “blant perthnasol” yn unol â hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad —
(a)at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
(b)at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
(c)mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: