RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “asiantaethau cymorth mabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption support agencies” yn Neddf Safonau Gofal 2000(1);

  • mae i “asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol” yr ystyr a roddir i “voluntary adoption agencies” yn adran 4 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

  • mae i “asiantaethau maethu annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent fostering agencies” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(2);

  • mae i “awdurdod addysg lleol” yr ystyr a roddir i “local education authority” yn Neddf Addysg 1996(3);

  • mae i “cwpl” yr ystyr a roddir i “couple” yn adran 144 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(4);

  • ystyr “darpar warcheidwad arbennig” (“prospective special guardian”) yw person—

    (a)

    sydd wedi hysbysu awdurdod lleol o dan adran 14A(7) o'r Ddeddf o fwriad i wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig yn unol ag adran 14A(3) o'r Ddeddf; neu

    (b)

    y mae llys wedi gofyn i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad a pharatoi adroddiad yn unol ag adran 14A(9) o'r Ddeddf mewn perthynas ag ef;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;

  • ystyr “GGA” (“SGO”) yw Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig;

  • ystyr “gwarcheidwad arbennig” (“special guardian”) yw person a benodwyd yn warcheidwad arbennig o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig a wnaed yn unol ag adran 14A o'r Ddeddf;

  • ystyr “gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig” (“special guardianship support services”) yw'r gwasanaethau hynny sy'n dod o fewn rheoliad 3(1) ac adran 14F(1)(a) o'r Ddeddf;

  • ystyr “person perthynol” (“related person”) o ran plentyn perthnasol—

    (a)

    yw perthynas i'r plentyn o fewn ystyr adran 105 i'r Ddeddf; a

    (b)

    yw unrhyw berson arall y mae gan y plentyn berthynas ag ef y mae'n ymddangos i'r awdurdod lleol ei bod yn llesol i'r plentyn;

  • ystyr “plentyn perthnasol” (“relevant child”) yw plentyn—

    (a)

    y mae GGA mewn grym ar ei gyfer (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel “plentyn sy'n destun GGA”);

    (b)

    y mae person wedi hysbysu awdurdod lleol o dan adran 14A(7) o'r Ddeddf o fwriad i wneud cais am GGA yn unol ag adran 14A(3) o'r Ddeddf ar ei gyfer (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel “plentyn y bwriedir gwneud cais am GGA ar ei gyfer”); neu

    (c)

    y mae llys wedi gofyn i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad a pharatoi adroddiad ar ei gyfer yn unol ag adran 14A(9) o'r Ddeddf (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel “plentyn y gofynnodd y llys am adroddiad ar ei gyfer”),

    a dehonglir cyfeiriadau at “blant perthnasol” yn unol â hynny.

(4Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad —

(a)at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

(b)at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

(c)mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw.