Search Legislation

Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig

3.—(1At ddibenion adran 14F(1)(b) o'r Ddeddf(1), rhagnodir y gwasanaethau canlynol o ran gwarcheidiaeth arbennig—

(a)darparu cymorth ariannol o dan reoliad 4;

(b)gwasanaethau i alluogi grwpiau o blant perthnasol, gwarcheidwaid arbennig, darpar warcheidwaid arbennig a rhieni plant perthnasol (neu grwpiau sy'n cynnwys unrhyw gyfuniad o'r unigolion hynny) i drafod materion sy'n ymwneud â gwarcheidiaeth arbennig;

(c)cymorth i blant perthnasol, eu rhieni a phersonau perthynol o ran trefniadau a wnaed ar gyfer cyswllt rhwng y cyfryw blant ag unrhyw rai o'r canlynol —

(i)eu rhieni;

(ii)eu gwarcheidwaid neu eu gwarcheidwaid arbennig blaenorol;

(iii)personau perthynol;

(ch)gwasanaethau a ddarperir o ran anghenion therapiwtig plentyn perthnasol;

(d)cymorth at ddibenion sicrhau parhau'r berthynas rhwng plentyn perthnasol a gwarcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig, gan gynnwys—

(i)hyfforddiant i'r person hwnnw i ddiwallu unrhyw anghenion arbennig gan y plentyn hwnnw; a

(ii)gofal seibiant;

(dd)os oes yna berygl y gall y berthynas rhwng plentyn a'i warcheidwad arbennig chwalu, cymorth er mwyn atal hynny rhag digwydd, gan gynnwys—

(i)cyfryngu; a

(ii)trefnu a chynnal cyfarfodydd rhwng personau o'r fath y maent yn ymddangos i'r awdurdod eu bod yn briodol er mwyn mynd i'r afael â'r anawsterau sy'n wynebu'r berthynas rhwng y plentyn a'i warcheidwad arbennig.

(2Nid yw'r ffaith bod person y tu allan i ardal awdurdod lleol yn rhwystro gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig rhag cael eu darparu iddo yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(3Rhagnodir y canlynol at ddibenion adran 14F(9)(b) o'r Ddeddf—

(a)asiantaethau cymorth mabwysiadu;

(b)Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau GIG ac Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol;

(c)awdurdodau addysg lleol;

(ch)asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol; a

(d)asiantaethau maethu annibynnol.

(1)

Mae adran 14F(1) o'r Ddeddf yn darparu: “Each local authority must make arrangements for the provision within their area of special guardianship support services, which means: (a) counselling, advice and information; and (b) such other services as are prescribed, in relation to special guardianship”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources