RHAN 5MATERION AMRYWIOL — ASIANTAETHAU

Y sefyllfa ariannol28

1

Rhaid i'r darparydd cofrestredig:

a

rhedeg yr asiantaeth mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn ei datganiad o ddiben; a

b

sicrhau bod cyfrifon digonol yn cael eu cynnal a chadw'n gyfoes ynglyn â'r asiantaeth.

2

Os bydd yr awdurdod cofrestru yn gofyn amdanynt, rhaid i'r darparydd cofrestredig ddarparu i'r awdurdod cofrestru unrhyw wybodaeth a dogfennau y bydd yn ofynnol i'r awdurdod eu cael er mwyn ystyried hyfywedd ariannol yr asiantaeth, gan gynnwys —

a

cyfrifon blynyddol yr asiantaeth wedi'u hardystio gan gyfrifydd;

b

geirda oddi wrth fanc yn mynegi barn ar statws ariannol y darparydd cofrestredig;

c

gwybodaeth am ddull ariannu'r asiantaeth a'i hadnoddau ariannol;

ch

gwybodaeth am unrhyw gwmnïau cysylltiedig y corff; a

d

tystysgrif yswiriant ar gyfer y darparydd cofrestredig o ran unrhyw rwymedigaeth y gallai'r darparydd fynd iddi mewn cysylltiad â'r asiantaeth o ran marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu unrhyw golled arall.