RHAN 2DARPARWYR COFRESTREDIG, UNIGOLION CYFRIFOL A RHEOLWYR

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig5.

(1)

Rhaid i gorff beidio â rhedeg asiantaeth oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

(2)

Nid yw corff yn ffit i redeg asiantaeth —

(a)

oni bai ei fod wedi hysbysu'r awdurdod cofrestru o enw, cyfeiriad a safle unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) yn y corff a hwnnw'n unigolyn sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff hwnnw ac sy'n gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli'r asiantaeth; a

(b)

oni bai bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).

(3)

Y gofynion yw —

(a)

bod yr unigolyn yn addas o ran gonestrwydd a chymeriad da i redeg yr asiantaeth;

(b)

ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg yr asiantaeth; ac

(c)

bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 2.