xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliadau 5(3)(c), 7(2)(c), 22(2)(ch)
1. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
2. Naill ai —
(a)os bydd tystysgrif yn ofynnol at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000)(1), neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997(2), tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno y mae llai na 3 blynedd mewn cysylltiad â hi wedi mynd heibio ers iddi gael ei dyroddi; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na 3 blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â hi ers iddi gael ei dyroddi,
gan gynnwys, i'r graddau a ganiatawyd o dan Ddeddf yr Heddlu 1997 y materion a bennwyd yn adrannau 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno(3).
3. Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth gyflogwr mwyaf diweddar y person, os oes un.
4. Pan fo person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei ddyletswyddau'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.
5. Tystiolaeth ddogfennol am unrhyw gymhwyster perthnasol.
6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.
Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau o dan 18 oed, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio, neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig.
Mewnosodwyd adrannau 113(3A) a 115(6A) yn Neddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(p.14) a'u diwygio gan adrannau 104, 106 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi.