Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Cyfarwyddeb 93/10/EEC” (“Directive 93/10/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 93/10/EEC sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau wedi'u gwneud o ffilm seliwlos a adfywiwyd y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(1);

ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “ffilm seliwlos a adfywiwyd” (“regenerated cellulose film”) yw deunydd haenen denau a gafwyd o seliwlos a goethwyd sy'n deillio o bren neu gotwm nas ailgylchwyd, gydag ychwanegiad o sylweddau addas neu beidio, naill ai yn y màs neu ar un arwyneb neu'r ddau arwyneb, ond nad yw'n cynnwys casinau synthetig o seliwlos a adfywiwyd;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos rhywbeth i'w werthu ac mae'n cynnwys cael rhywbeth yn eich meddiant i'w werthu, a rhaid deall “sale” a “sold” yn unol â hynny;

ystyr “mewnforio” (“import”) yw mewnforio wrth gynnal busnes o le heblaw o Aelod-wladwriaeth;

mae “paratoi” (“preparation”) o ran bwyd yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw fath o brosesu neu drin;

ystyr “plastigau” (“plastics”) yw'r deunyddiau a'r eitemau hynny y mae Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC sy'n ymwneud â deunyddiau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd yn gymwys iddynt(2);

ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC(3); ac

ystyr “Rheoliadau 1998” (“the 1998 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998(4);

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn Rheoliad 1935/2004.

(3Mae i ymadroddion Saesneg eraill a'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad hwnnw.

(1)

OJ Rhif L93, 17.4.93, t.27, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC (OJ Rhif L27, 30.1.2004, t.48).

(2)

OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8).

(3)

OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4.

(4)

O.S. 1998/1376, fel y'i diwygiwyd o ran Cymru gan O.S. 2000/3162, O.S. 2002/2364, O.S. 2004/3113 ac O.S. 2005/325.