RHAN 3Y gofynion ar gyfer Finyl Clorid

Terfynau a therfynau ymfudiad6

1

O ran deunyddiau ac eitemau a weithgynhyrchir gan bolymerau finyl clorid neu gopolymerau —

a

rhaid iddynt beidio â chynnwys monomer finyl clorid mewn mesur sy'n fwy nag 1 miligram y cilogram o'r deunydd neu eitem fel y'i mesurir drwy'r dull dadansoddi a bennir yn rheoliad 7(1); a

b

rhaid iddynt gael eu gweithgynhyrchu yn y fath fodd nad ydynt yn trosglwyddo i fwydydd y maent mewn cysylltiad â hwy unrhyw fesur o finyl clorid sy'n fwy na 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd fel y'i mesurir drwy'r dull dadansoddi a bennir yn rheoliad 7(2).

2

Ni chaiff neb —

a

gwerthu;

b

mewnforio; neu

c

defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,

unrhyw ddeunydd neu eitem o'r fath nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliad hwn.