6.—(1) O ran deunyddiau ac eitemau a weithgynhyrchir gan bolymerau finyl clorid neu gopolymerau —
(a)rhaid iddynt beidio â chynnwys monomer finyl clorid mewn mesur sy'n fwy nag 1 miligram y cilogram o'r deunydd neu eitem fel y'i mesurir drwy'r dull dadansoddi a bennir yn rheoliad 7(1); a
(b)rhaid iddynt gael eu gweithgynhyrchu yn y fath fodd nad ydynt yn trosglwyddo i fwydydd y maent mewn cysylltiad â hwy unrhyw fesur o finyl clorid sy'n fwy na 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd fel y'i mesurir drwy'r dull dadansoddi a bennir yn rheoliad 7(2).
(2) Ni chaiff neb —
(a)gwerthu;
(b)mewnforio; neu
(c)defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,
unrhyw ddeunydd neu eitem o'r fath nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliad hwn.