Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2003” (“2003 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003(1).
Diwygio Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003
2. Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 2003 rhodder y diffiniad a ganlyn lle bynnag y bo'n briodol —
“mae i “partner sifil” yr ystyr a roddir i “civil partner” yn adran 1(1) o Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004(2)”.
3. Mewnosodir y geiriau “yn bartner sifil,” ar ôl y geiriau “yn briod,” yn rheoliad 4(3)(c), (ch) a (d) o Reoliadau 2003.
4. Rhodder y testun a ganlyn yn lle rheoliad 4(5) o Reoliadau 2003 —
“(5) Y pedwerydd amod yw bod y person heb gyrraedd safon cymhwyster addysgol sy'n uwch na Lefel 2 neu ei chyfwerth fel a nodwyd yn y fframwaith cymwysterau cenedlaethol, oni bai bod y person hwnnw yn cael budd-daliadau neu lwfansau a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu ei fod yn ddibynnydd person o'r fath.”
5. Yn Rheoliadau 2003 mewnosoder yr Atodlen fel a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mehefin 2005