(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r gyfundrefn ar gyfer rheoli ac olrhain gwaith symud gwastraff peryglus at ddibenion gweithredu'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus (Cyfarwyddeb 91/689/EC). Mae'r Rheoliadau yn gymwys o ran Cymru.

Gwastraff Peryglus

Mae'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff (Cyfarwyddeb 75/442/EEC) yn rheoleiddio, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, y broses o reoli pob math o wastraff (“gwastraff y Gyfarwyddeb”). Mae'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus yn ategu'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff drwy osod gofynion ychwanegol o ran gwastraff y Gyfarwyddeb sy'n amlygu nodweddion peryglus penodol. Mae'r gofynion hyn wedi'u trosi o'r blaen gan Reoliadau Gwastraff Arbennig 1996, drwy reolaethau ar “wastraff arbennig”. Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Gwastraff Arbennig 1996 ac yn rhoi'r term “gwastraff peryglus” (“hazardous waste”) yn lle'r term “gwastraff arbennig” (“special waste”).

Mae Rhannau 1 i 3 o'r Rheoliadau yn diffinio gwastraff peryglus ac yn nodi sut mae'r Rheoliadau yn gymwys i'r gwastraff hwnnw. Mae'r diffiniad o wastraff peryglus yn rheoliad 6 yn cyfeirio at y rhestr o wastraffoedd peryglus a nodir yn Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1820 (Cy.148)) sy'n cael eu gwneud ar yr un dyddiad â'r Rheoliadau hyn.

Mae eithriad rhag y rheolaethau hyn ar gyfer gwastraff domestig sy'n amlygu nodweddion peryglus ond nid os yw wedi'i ffurfio o wastraff asbestos neu'n cael ei gasglu ar wahân. Yn y naill achos a'r llall, nid yw'r rheoliadau yn gosod rhwymedigaethau yn uniongyrchol ar ddeiliaid tai.

Gwahardd Cymysgu

Mae Rhan 4 yn gwahardd cymysgu gwastraff peryglus onid yw wedi'i ganiatáu fel rhan o weithrediad gwaredu neu adfer yn unol â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff. Mae'n gosod dyletswydd hefyd i wahanu gwahanol gategorïau o Wastraff Peryglus pan fo hynny'n dechnegol ddichonadwy.

Hysbysu

Mae Rhan 5 yn ei gwneud yn dramgwydd i symud gwastraff peryglus o fangre na hysbyswyd Asiantaeth yr Amgylchedd ohoni, onid yw'n fangre esempt neu onid yw'r gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon. Rhaid i gynhyrchydd y gwastraff neu'r traddodwr (y person sy'n trefnu ar gyfer symud y gwastraff) hysbysu pob mangre lle mae gwastraff peryglus yn cael ei gynhyrchu neu ei symud. Mae hysbysiad yn para 12 mis ac ar ôl hynny rhaid hysbysu'r fangre eto. Mae ffi yn daladwy i Asiantaeth yr Amgylchedd pan hysbysir mangre.

Symud Gwastraff Peryglus

Mae Rhan 6 yn ei gwneud yn ofynnol i ddogfennau gael eu cwblhau pryd bynnag y mae gwastraff peryglus yn cael ei symud o fangre (sy'n cynnwys ei symud o longau a'i symud drwy biblinell). Mae'r amrywiol fathau o ffurflen i'w gweld yn Atodlenni 4 i 6. Diben hyn yw sicrhau bod disgrifiad cywir o lwythi gwastraff yn mynd gyda hwy pryd bynnag y byddant yn symud. Mae hyn yn ychwanegol at unrhyw ofynion i sicrhau bod gwastraff peryglus yn cael ei becynnu a'i labelu'n briodol (gweler yn benodol Reoliadau Pecynnu (Gofynion Hanfodol) 2003 (O.S. 2003/1941).

Mae'n ofynnol i gynhyrchwyr, deiliaid, cludwyr, traddodwyr a thraddodeion gwblhau gwahanol rannau o'r ffurflenni. Os bydd y traddodai yn gwrthod y gwastraff, rhaid gwneud trefniadau amgen addas. Mae Atodlen 7 yn ymdrin â throsglwyddiadau trawsffiniol o fewn y Deyrnas Unedig a Gibraltar.

Cofnodion ac Atebion

Mae Rhan 7 yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr, deiliaid, cludwyr, traddodwyr a thraddodeion gadw cofnodion. Rhaid iddynt gael eu cadw am 3 blynedd o leiaf ac eithrio yn achos cludwyr pan fo'r cyfnod yn gyfnod o 12 mis. Mae'n ofynnol i draddodeion roi i Asiantaeth yr Amgylchedd atebion chwarterol sy'n nodi'r llwythi y maent wedi'u cael yn ystod y cyfnod hwnnw. Gall fod yn ofynnol i draddodeion dalu ffi i Asiantaeth yr Amgylchedd ond rhoddir hawl iddynt ei hadennill oddi wrth y traddodwyr a anfonodd y gwastraff atynt. Mae'n ofynnol hefyd iddynt anfon ateb at y cynhyrchwyr neu'r deiliaid a anfonodd wastraff atynt. Mae Atodlen 9 yn nodi cynllun trosiannol ar gyfer ffioedd.

Swyddogaethau'r Asiantaeth

Mae Rhan 8 yn nodi swyddogaethau'r Asiantaeth. Yn benodol, mae'n ofynnol i'r Asiantaeth arolygu cynhyrchwyr gwastraff peryglus o bryd i'w gilydd a chadw unrhyw gofnodion a anfonwyd ati yn unol â Rhan 7 am 3 blynedd o leiaf.

Argyfyngau a Pherygl Difrifol

Mae Rhan 9 yn gosod dyletswyddau ar ddeiliaid gwastraff peryglus ac Asiantaeth yr Amgylchedd os bydd argyfwng neu berygl difrifol sy'n deillio o wastraff peryglus.

Gorfodi

Mae Rhan 10 yn ei gwneud yn dramgwydd i fethu â chydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn. Lefel 5 ar y raddfa safonol (£5000 ar hyn o bryd) yw'r gosb uchaf am fethu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd gan neu o dan y rheoliadau a nodir yn rheoliad 69(1). Caiff yr Asiantaeth ddyroddi hysbysiadau cosbau penodedig o £300 yn lle ceisio sicrhau collfarniad am dramgwyddau o'r fath. Mae tramgwyddau eraill o dan y Rheoliadau (gan gynnwys darparu gwybodaeth anwir) yn ddarostyngedig i'r ddirwy uchaf, sef lefel 5, os ydynt yn destun prawf diannod, ac yn ddarostyngedig i ddirwyon uwch a charchariad hefyd os ydynt yn destun prawf ar dditiad.

Diwygiadau i reoliadau eraill

Mae Atodlen 11 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau fel bod cyfeiriadau at wastraff arbennig yn cael eu hepgor a bod cyfeiriadau at wastraff peryglus yn cael eu diweddaru i fod yn gyson â'r Rheoliadau hyn.

Darpariaeth drosiannol

Mae Atodlen 12 yn gwneud darpariaeth drosiannol. Mae'n darparu ar gyfer hysbysu cyn bod y rheoliadau yn llwyr ddod i rym. Mae'n gwneud darpariaeth drosiannol hefyd ar gyfer yr achosion hynny lle byddai'r newid i wastraff peryglus o wastraff arbennig yn golygu na fyddai person wedi'i awdurdodi mwyach i waredu neu adfer gwastraff.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau o Is-adran yr Amgylchedd — Diogelu ac Ansawdd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Mae'r gyfrol sy'n dwyn y teitl “Indexes to the United Kingdom Standard Industrial Classification of Economic Activities 2003”, ac y cyfeirir ati yn y diffiniad o “SIC”, ar gael oddi wrth y Stationery Office Limited drwy ffonio 0870 600 552.