xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 11LL+CDARPARIAETHAU TERFYNOL

Arbedion i freintiau penodolLL+C

71.—(1Ni ddylid ystyried bod dim yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson i ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion pe byddai hawl ganddo i wrthod dangos y dogfennau neu'r cofnodion hynny yn unrhyw achos mewn unrhyw lys ar y sail eu bod yn destun braint broffesiynol gyfreithiol, neu'n awdurdodi unrhyw berson i gymryd meddiant o unrhyw ddogfennau neu gofnodion sydd ym meddiant person a fyddai â'r hawl honno.

(2Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (3), ni ddylid dehongli dim yn y Rheoliadau hyn fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth pe byddai gwneud hynny'n argyhuddo'r person hwnnw neu briod y person hwnnw.

(3Rhaid i berson gydymffurfio â chais gan yr Asiantaeth i roi gwybodaeth yn unol â rheoliad 55(2), er y byddai gwneud hynny'n argyhuddo'r person hwnnw neu briod y person hwnnw, ond ni chaniateir i wybodaeth a roddir yn ymateb i gais o'r fath gael ei chyflwyno yn dystiolaeth mewn unrhyw achos troseddol yn erbyn y person hwnnw neu briod y person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 71 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Dirymiadau ac arbedionLL+C

72.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, dirymir Rheoliadau 1996.

(2Os symudwyd llwyth o fangre cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a bod nodyn traddodi wedi'i godi mewn perthynas â'r llwyth hwnnw o dan Reoliadau 1996, yna—

(a)am gyfnod o 72 awr ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym yn eu cyfanrwydd—

(i)mae Rheoliadau 1996 yn parhau i fod yn gymwys ym mhob ffordd arall i'r llwyth hwnnw;

(ii)nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn (heblaw am reoliad 62 (dyletswyddau cyffredinol y deiliad ar achlysur argyfwng neu berygl difrifol)) yn gymwys i'r llwyth hwnnw yn ystod y cyfnod hwnnw;

(b)ar ôl hynny—

(i)mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r llwyth hwnnw ac eithrio nad yw'r gofyniad i roi ateb chwarterol traddodai mewn perthynas â'r llwyth hwnnw yn unol â rheoliad 53 yn codi; a

(ii)mae'r gofyniad i'r traddodai anfon copi o'r nodyn traddodi a anfonwyd i'r Asiantaeth yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw lwyth a anfonwyd yn unol â Rheoliadau 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 72 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Diwygiadau CanlyniadolLL+C

73.  Mae Atodlen 11 (sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i'r ddeddfwriaeth) yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 73 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Darpariaethau TrosiannolLL+C

74.  Mae Atodlen 12 (sy'n gwneud darpariaethau trosiannol cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym) yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 74 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I5Rhl. 74 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)