xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
12.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff peryglus.
(2) Ac eithrio'r darpariaethau yn rheoliad 13 (cymhwyso i wastraff asbestos) ac 14 (cymhwyso i ffracsiynau a gesglir ar wahân), nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff domestig(1) .
(3) Nid oes dim sydd yn Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn (symud gwastraff peryglus) yn gymwys mewn perthynas â thrawslwytho gwastraff y mae darpariaethau Rheoliad y Cyngor 259/93/EEC(2), heblaw Teitl III o'r rheoliad hwnnw, yn gymwys iddo.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff peryglus yng Nghymru er gwaethaf y ffaith bod gwastraff—
(a)wedi cael ei gynhyrchu ar fangre neu ei symud oddi yno yn yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu Gibraltar; neu
(b)yn cael ei gludo, neu i'w gludo, o fangre yng Nghymru i fangre yn un o'r lleoedd hynny.
(5) Er mwyn osgoi amheuaeth, wrth eu cymhwyso—
(a)i wastraff llongau, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw long;
(b)i ddyfroedd mewnol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy'n cydffinio â Chymru, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys, heb leihau effaith paragraff (3), i lwyth o wastraff a gludir mewn unrhyw long,
ym mhob achos (p'un a yw'r llong yn llong y Deyrnas Unedig neu fel arall ac, os llong y Deyrnas Unedig ydyw, p'un a gofrestrwyd hi yng Nghymru neu fel arall).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 12 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
13.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff asbestos sy'n wastraff domestig ac eithrio i'r graddau y byddent, heblaw am y paragraff hwn, yn gosod rhwymedigaethau ar berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd yn gynhyrchydd gwreiddiol y gwastraff domestig a hefyd naill ai—
(a)i berson sy'n preswylio yn y fangre ddomestig lle ceir y gwastraff asbestos; neu
(b)i berson sy'n gweithredu ar ran person o'r fath yn ddi-dâl.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu mewn perthynas â gwastraff asbestos nad yw'n wastraff domestig a gynhyrchir yn ystod unrhyw rai o weithgareddau adeiladu, addasu, trwsio a chynnal a chadw (gan gynnwys gwaith strwythurol) neu ddymchwel mangre ddomestig neu unrhyw ran ohoni, fel y byddant yn trin unrhyw gontractiwr sy'n cael ei gymryd ymlaen gan feddiannydd domestig—
(i)fel y cynhyrchydd; a,
(ii)os nad yw'r contractiwr yn cymryd person arall ymlaen fel traddodwr, fel y traddodwr,
o'r gwastraff asbestos heb gynnwys y meddiannydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 13 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
14.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i ffracsiynau domestig a gasglwyd ar wahân, sef, gwastraff peryglus—
(a)sy'n wastraff domestig; a
(b)a gasglwyd o'r fangre lle cynhyrchwyd ef ar wahân i'r casgliad o wastraff arall o'r fangre honno.
(2) At ddibenion paragraff (1), ceir ystyried bod gwastraff peryglus wedi'i gasglu ar wahân i'r casgliad o wastraff arall er gwaethaf y ffaith iddo gael ei gasglu ar yr un pryd neu ar yr un cerbyd neu'r ddau, ar yr amod nad yw'r gwastraff peryglus yn cael ei gymysgu gyda'r gwastraff arall.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ffracsiynau a gesglir ar wahân.
(4) Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i ffracsiynau a gesglir ar wahân tan y caiff y gwastraff hwnnw ei symud o'r fangre lle cafodd ei gynhyrchu i fangre ar gyfer casglu, gwaredu neu adfer.
(5) Mae'r sefydliad neu'r ymgymeriad sy'n derbyn y gwastraff hwnnw yn y fangre honno i'w drin fel cynhyrchydd y gwastraff at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 14 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
15.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran gwastraff ymbelydrol o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Sylweddau Ymbelydrol 1993(3)—
(a)pan fydd yn esempt am y tro rhag gofynion—
(i)adran 13 (gwaredu gwastraff ymbelydrol); neu
(ii)adran 14 (cronni gwastraff ymbelydrol),
o'r Ddeddf honno gan adran 15 o'r Ddeddf honno neu yn unol â hi; a
(b)pan fydd un neu fwy o nodweddion peryglus yn codi heb fod o'i natur ymbelydrol.
(2) Er gwaethaf rheoliad 2(1)(b)(ii), trinnir gwastraff ymbelydrol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo fel gwastraff at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac yn unol â hynny trinnir ef fel gwastraff peryglus ac mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r gwastraff hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 15 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
16.—(1) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff amaethyddol cyn [F115 Mai 2007], ond maent yn gymwys ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw i wastraff amaethyddol pryd bynnag y daeth yn wastraff.
(2) At ddibenion y Rheoliad hwn, ystyr “gwastraff amaethyddol” yw gwastraff o fangre a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth o fewn ystyr Deddf Amaethyddiaeth 1947(4).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 16 wedi eu hamnewid (15.5.2006) gan The Waste Management (England and Wales) Regulations 2006 (O.S. 2006/937), rhlau. 1(2), 11(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 16 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
17. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff o fwynglawdd neu chwarel cyn [F215 Mai 2007], ond maent yn gymwys ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw i'r gwastraff hwnnw pa bryd bynnag y daeth yn wastraff.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn rhl. 17 wedi eu hamnewid (15.5.2006) gan The Waste Management (England and Wales) Regulations 2006 (O.S. 2006/937), rhlau. 1(2), 11(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 17 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
Mae Erthygl 1(5) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus wedi darparu ar gyfer rheolau penodol sydd i'w gwneud gan y Gymuned Ewropeaidd gan ystyried natur benodol gwastraff domestig; ni chafodd y cyfryw reolau, ar ddyddiad gwneud y Rheoliadau hyn, eu mabwysiadu.
OJ Rhif L 30, 6.2.1993, t.1.
1947 p.48 (gweler adran 109(3)).