xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
18.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir bod gwastraff peryglus o unrhyw ddisgrifiad wedi'i gymysgu os cymysgwyd ef â'r canlynol—
(a)categori gwahanol o wastraff peryglus;
(b)gwastraff nad yw'n beryglus; neu
(c)unrhyw sylwedd neu ddeunydd arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 18 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
19.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff unrhyw sefydliad neu ymgymeriad sy'n gwaredu neu'n adfer gwastraff peryglus, neu sy'n cynhyrchu, casglu neu gludo gwastraff peryglus gymysgu unrhyw wastraff peryglus.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys fel y byddai'n gwahardd proses a ddefnyddir i gynhyrchu gwastraff ac sy'n golygu cynhyrchu gwastraffoedd cymysg, sef proses heblaw un sy'n cymysgu gwastraff gydag unrhyw wastraff, sylwedd neu ddeunydd arall, sy'n golygu—
(a)newid yn natur neu gyfansoddiad y gwastraff hwnnw; neu
(b)cynhyrchu gwastraff arall.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i'r graddau y mae'r cymysgu'n rhan o weithrediad gwaredu neu adfer a'i fod wedi'i awdurdodi gan drwydded gwastraff neu esemptiad cofrestredig, ac yn cael ei gyflawni yn unol â gofynion y drwydded honno neu'r esemptiad hwnnw (sut bynnag y mynegir y gofynion hynny).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 19 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
20.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r deiliad—
(a)pan fo'r gwastraff peryglus wedi'i gymysgu heblaw o dan ac yn unol â thrwydded gwastraff neu esemptiad cofrestredig, p'un ai gan y deiliad neu gan ddeiliad blaenorol; a
(b)pan fo'r gwahanu—
(i)yn dechnegol ac yn economaidd ddichonadwy; a
(ii)yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio ag amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff.
(2) Rhaid i'r deiliad drefnu bod gwaith gwahanu'r gwastraff yn cael ei wneud yn unol â thrwydded gwastraff neu esemptiad cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(3) Yn y Rheoliad hwn ystyr “gwahanu” yw gwahanu gwastraff oddi wrth unrhyw wastraff, sylwedd neu ddeunydd arall a gymysgwyd ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 20 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)