Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 8LL+CSWYDDOGAETHAU'R ASIANTAETH

Arolygu cynhyrchwyr gwastraff peryglusLL+C

56.  Dyletswydd yr Asiantaeth yw cyflawni arolygiadau o dro i dro priodol ar gynhyrchwyr gwastraff peryglus.

Arolygu gweithrediadau casglu a chludoLL+C

57.—(1Mewn perthynas ag arolygiadau priodol o dro i dro ar weithrediadau casglu a chludo y mae angen eu cynnal yn unol ag Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb Wastraff gan yr Asiantaeth(1), heb leihau yn gyffredinol effaith y gofyniad i gynnal arolygiadau o'r fath, dyletswydd yr Asiantaeth i'r graddau y mae'r arolygiadau'n ymwneud â gwastraff peryglus yw cynnal yr arolygiadau fel eu bod yn ymwneud yn benodol â tharddiad a chyrchfan y gwastraff peryglus.

(2Ym mharagraff (1), mae “gweithrediadau casglu a chludo” yn cynnwys gweithrediadau lle cludir y gwastraff peryglus ar ôl ei drosglwyddo rhwng gwahanol gludwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 57 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Asiantaeth i gadw cofrestrau etcLL+C

58.  Rhaid i'r Asiantaeth gadw cofrestrau a anfonwyd ati ac unrhyw gofnodion sy'n dod gyda'r cofrestrau hynny yn unol â rheoliad 51(3), am gyfnod nad yw'n llai na thair blynedd ac sy'n dechrau pan dderbynnir hwy gan yr Asiantaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 58 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

FfioeddLL+C

59.—(1Diwygir adran 41 o Ddeddf 1995 (pŵer i wneud cynlluniau sy'n gosod taliadau) fel a ganlyn.

(2Yn lle is-adran (1)(c) rhodder—

(c)as a means of recovering costs incurred by it in performing functions conferred by regulations made for the purpose of implementing Council Directive 91/689/EEC the Agency may require the payment to it of such charges as may from time to time be prescribed;.

(3Mae Atodlen 9 yn effeithiol i wneud darpariaeth mewn perthynas â ffioedd sydd i'w codi gan yr Asiantaeth mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn nes y daw cynllun codi tâl o dan adran 41 o Ddeddf 1995 i adennill y costau a dynnir gan yr Asianaeth wrth iddi gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 59(1)(2) mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

I5Rhl. 59(3) mewn grym ar 16.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I6Rhl. 59(3) mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Darparu gwybodaeth i'r Cynulliad CenedlaetholLL+C

60.—(1Rhaid i'r Asiantaeth hysbysu'r Cynulliad bob blwyddyn o unrhyw newidiadau yn yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob sefydliad neu ymgymeriad sy'n gwaredu neu adfer gwastraff peryglus yn bennaf ar ran trydydd partïon ac sydd yn debygol o ffurfio rhan o'r rhwydwaith integredig y cyfeirir ati yn Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb Wastraff—

(a)enw a chyfeiriad;

(b)y dull a ddefnyddir i drin gwastraff; ac

(c)y mathau a'r meintiau o wastraff y gellir eu trin.

(2Rhaid i'r Asiantaeth ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraff (1) yn y fformat a ddarperir yn unol â phedwerydd paragraff Erthygl 8(3) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 60 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

(1)

Gweler paragraff 13 o Atodlen 4 i'r Rheoliadau.