16.—(1) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff amaethyddol cyn 1 Medi 2006, ond maent yn gymwys ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw i wastraff amaethyddol pryd bynnag y daeth yn wastraff.
(2) At ddibenion y Rheoliad hwn, ystyr “gwastraff amaethyddol” yw gwastraff o fangre a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth o fewn ystyr Deddf Amaethyddiaeth 1947(1).
1947 p.48 (gweler adran 109(3)).