xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
2.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn —
(a)ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC(1) ar wastraff fel y'i diwygiwyd gan —
(i)Cyfarwyddebau'r Cyngor 91/156/EEC(2) a 91/692/EEC(3);
(ii)Penderfyniad y Comisiwn 96/350/EC(4); a
(iii)Rheoliad (EC)Rhif 1882/2003(5); a
(b)ystyr “gwastraff” (“waste”) yw unrhyw beth—
(i)sy'n wastraff(6) at ddibenion y Gyfarwyddeb Wastraff; a
(ii)yn ddarostyngedig i reoliad 15, nas gwaharddwyd o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2 o'r Gyfarwyddeb honno.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gyfeiriad at yr amodau a osodwyd yn Erthygl 4 o'r Gyfarwyddeb honno, sef, sicrhau bod gwastraff yn cael ei adfer neu ei waredu heb beryglu iechyd dynol a heb ddefnyddio prosesau neu ddulliau a allai niweidio'r amgylchedd ac yn benodol—
(a)heb beri risg i ddŵr, aer, pridd a phlanhigion ac anifeiliaid;
(b)heb beri niwsans drwy sŵn neu arogleuon; ac
(c)heb effaith andwyol ar gefn gwlad neu fannau o ddiddordeb arbennig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)
OJ Rhif L 194, 25.7.1975, t.39.
OJ Rhif L 78, 26.3.1991, t.32.
OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t.48 (fel y'i diwygiwyd drwy Gorigendwm, OJ Rhif L 146, 13.6.2003, t.52).
OJ. Rhif L 135, 6.6.1996, t.32.
OJ Rhif L 284, 31.10.2003, t.1.
Mae Erthygl 1(a) o'r Gyfarwyddeb Wastraff yn diffinio “waste” fel unrhyw sylwedd neu eitem yn y categorïau a nodir yn Atodlen I (Categorïau o Wastraff) i'r Gyfarwyddeb honno y mae'r deiliad yn cael gwared arno neu arni neu'n bwriadu gwneud hynny neu y mae'n ofynnol iddo gael gwared arno neu arni.