RHAN 1CYFFREDINOL
Y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr GwastraffI1I12
1
At ddibenion y Rheoliadau hyn —
a
ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC3 ar wastraff fel y'i diwygiwyd gan —
i
Cyfarwyddebau'r Cyngor 91/156/EEC4 a 91/692/EEC5;
iii
Rheoliad (EC)Rhif 1882/20037; a
b
ystyr “gwastraff” (“waste”) yw unrhyw beth—
i
sy'n wastraff8 at ddibenion y Gyfarwyddeb Wastraff; a
ii
yn ddarostyngedig i reoliad 15, nas gwaharddwyd o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2 o'r Gyfarwyddeb honno.
2
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gyfeiriad at yr amodau a osodwyd yn Erthygl 4 o'r Gyfarwyddeb honno, sef, sicrhau bod gwastraff yn cael ei adfer neu ei waredu heb beryglu iechyd dynol a heb ddefnyddio prosesau neu ddulliau a allai niweidio'r amgylchedd ac yn benodol—
a
heb beri risg i ddŵr, aer, pridd a phlanhigion ac anifeiliaid;
b
heb beri niwsans drwy sŵn neu arogleuon; ac
c
heb effaith andwyol ar gefn gwlad neu fannau o ddiddordeb arbennig.