RHAN 4CYMYSGU GWASTRAFF PERYGLUS
Dyletswydd i wahanu gwastraffoedd a gymysgwyd20
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r deiliad—
a
pan fo'r gwastraff peryglus wedi'i gymysgu heblaw o dan ac yn unol â thrwydded gwastraff neu esemptiad cofrestredig, p'un ai gan y deiliad neu gan ddeiliad blaenorol; a
b
pan fo'r gwahanu—
i
yn dechnegol ac yn economaidd ddichonadwy; a
ii
yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio ag amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff.
2
Rhaid i'r deiliad drefnu bod gwaith gwahanu'r gwastraff yn cael ei wneud yn unol â thrwydded gwastraff neu esemptiad cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
3
Yn y Rheoliad hwn ystyr “gwahanu” yw gwahanu gwastraff oddi wrth unrhyw wastraff, sylwedd neu ddeunydd arall a gymysgwyd ag ef.