RHAN 5HYSBYSU'R FANGRE
Gofyniad i hysbysu'r fangre21.
(1)
Pan fo gwastraff peryglus yn cael ei gynhyrchu mewn unrhyw fangre heblaw mangre esempt neu'n cael ei symud oddi yno, rhaid hysbysu'r fangre i'r Asiantaeth yn unol â gofynion y Rhan hon.
(2)
Mae mangre a hysbyswyd yn briodol i'r Asiantaeth yn unol â'r Rhan hon yn fangre a hysbyswyd at ddibenion y Rheoliadau hyn am y cyfnod o ddeuddeg mis (“cyfnod yr hysbysiad”) sy'n dechrau ar yr amser effeithiol ac yn dod i ben ar ddiwedd diwrnod olaf y cyfnod hwnnw o ddeuddeg mis.
(3)
Mae'n ddyletswydd ar gynhyrchydd gwastraff peryglus i hysbysu'r fangre berthnasol yn unol â rheoliadau 24 a 26 os nad yw wedi'i hysbysu fel arall eisoes.
(4)
Heb leihau effaith paragraff (3), caiff traddodwr, yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 25, hysbysu mangre'r safle yn unol â'r rheoliad hwnnw a rheoliad 26.