RHAN 5HYSBYSU'R FANGRE
Y terfynau cymwysI1I2I130
1
Y terfynau cymwys ar gyfer—
a
gwasanaeth symudol yw bod cyfanswm maint y gwastraff peryglus a gynhyrchir wrth gynnal y gwasanaeth hwnnw mewn unrhyw set unigol o fangreoedd cysylltiedig yn llai na 200kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis; a
b
unrhyw fangre esempt yw bod cyfanswm y gwastraff peryglus a gynhyrchwyd yn y fangre yn llai na 200kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis.
2
Mae gwastraff peryglus a gynhyrchir ar fangre siop gan gwsmeriaid y meddiannydd i'w drin fel pes cynhyrchwyd gan y meddiannydd at ddibenion y Rheoliad hwn.