RHAN 6SYMUD GWASTRAFF PERYGLUS
Codau traddodi
Codau traddodiI134
1
Dyletswydd—
a
y cynhyrchydd, o ran—
i
llwyth o wastraff peryglus sydd i'w symud o fangre (heblaw llong) lle mae'r gwastraff yn cael ei gynhyrchu;
ii
gwastraff peryglus sydd i'w symud drwy biblinell o fangre (heblaw llong) mewn achos y mae rheoliad 41 yn gymwys iddo; neu
iii
gwastraff peryglus sydd i'w ddyddodi o fewn cwrtil y fangre lle'i cynhyrchwyd;
b
meistr y llong, o ran unrhyw wastraff peryglus sy'n cael ei symud o long yn ardal harbwr (gan gynnwys gwastraff a ollyngwyd drwy ddamwain ar dir sy'n gyfagos â'r llong); ac
c
y traddodwr, o ran unrhyw lwyth arall o wastraff peryglus,
yw rhoi i'r gwastraff peryglus god unigryw yn unol â'r safon codio sydd mewn grym ar y pryd.
2
Y cod a roddir yn unol â pharagraff (1) fydd y cod traddodi gwastraff peryglus o dan sylw at ddibenion y Rheoliadau hyn.