RHAN 6SYMUD GWASTRAFF PERYGLUS

Y dogfennau sydd i'w cwblhau ar gyfer llwythi

Y weithdrefn safonolI136

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys ym mhob achos lle mae llwyth o wastraff peryglus i'w symud o fangre ac eithrio mewn achosion y mae unrhyw rai o reoliadau 38 i 41 yn gymwys iddynt.

2

Cyn symud y llwyth—

a

rhaid i gynhyrchydd, neu ddeiliad, y gwastraff peryglus yn ôl y digwydd—

i

paratoi copi o'r nodyn traddodi ar gyfer pob un o'r canlynol: cynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus (os yw'n wahanol i'r traddodwr); y traddodwr; y cludwr; a'r traddodai;

ii

cwblhau Rhannau A a B ar bob copi; a

iii

rhoi pob copi i'r cludwr;

b

rhaid i'r cludwr gwblhau Rhan C ar bob copi a rhoi pob copi i'r traddodwr;

c

rhaid i'r traddodwr—

i

cwblhau Rhan D ar bob copi;

ii

os nad y cynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, yn ôl y digwydd, yw'r traddodwr, rhoi un copi iddo;

iii

cadw un copi; a

iv

rhoi pob copi sy'n weddill i'r cludwr.

3

Rhaid i'r cludwr sicrhau bod pob copi a dderbyniodd—

a

yn teithio gyda'r llwyth; a

b

yn cael ei roi i'r traddodai pan draddodir y llwyth.

4

Yn ddarostyngedig i reoliad 42, wrth dderbyn y llwyth, rhaid i'r traddodai—

a

cwblhau Rhan E ar y ddau gopi; a

b

rhoi un copi i'r cludwr.