39.—(1) Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys os symudir gwastraff peryglus o long (gan gynnwys gormodedd neu ollyngiadau drwy lwytho neu ddadlwytho, a gafodd eu gollwng yn ddamweiniol ar dir yn gyfagos â'r llong) mewn ardal harbwr—
(a)i gyfleusterau derbyn a ddarperir yn yr ardal harbwr honno; neu
(b)drwy biblinell i unrhyw gyfleusterau o'r fath a ddarperir y tu allan i ardal harbwr.
(2) Cyn bod y gwastraff yn cael ei symud o'r llong rhaid i feistr y llong—
(a)paratoi dau gopi o'r nodyn traddodi;
(b)cwblhau Rhannau A, B a D ar bob copi;
(c)cadw un copi; ac
(ch)rhoi un copi i weithredydd y cyfleusterau.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 42, wrth dderbyn llwyth o wastraff peryglus rhaid i weithredydd y cyfleusterau gwblhau Rhan E ar y copi a dderbyniodd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 39 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)