RHAN 6SYMUD GWASTRAFF PERYGLUS
Y dogfennau sydd i'w cwblhau ar gyfer llwythi
Symud gwastraff drwy biblinell41.
(1)
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os symudir gwastraff peryglus o unrhyw fangre (heblaw llong), lle caiff ei gynhyrchu neu ei storio, drwy biblinell.
(2)
Cyn rhoi'r gwastraff mewn piblinell, ac, os yw'r piblinellu'n barhaus, ar ddechrau pob chwarter rhaid i'r cynhyrchydd, neu'r deiliad, yn ôl y digwydd—
(a)
paratoi un copi o'r nodyn traddodi ar gyfer pob un o'r canlynol: y cynhyrchydd neu'r deiliad, yn ôl y digwydd (os yw'n wahanol i'r traddodwr), y traddodwr a'r traddodai;
(b)
cwblhau Rhannau A, B a D ar bob copi, gyda'r ddarpariaeth bod yn rhaid cofnodi cyfradd y llif cyfartalog yn Rhan B3, ynghyd ag amcangyfrif o gyfanswm cyfaint y gwastraff sydd i'w biblinellu fesul wythnos neu fis calendr.
(3)
Rhaid i'r traddodai gwblhau Rhan E ar bob copi gyda'r addasiadau canlynol—
(a)
yn Rhan E1, bernir bod y cyfeiriad at y dyddiad pan dderbyniwyd y gwastraff yn gyfeiriad at y dyddiad diwethaf pan dderbyniwyd y gwastraff gan y traddodai yn unol â'r nodyn traddodi hwnnw; a
(b)
yn Rhan E2, nid oes angen manylion cofrestru'r cerbyd.
(4)
Rhaid i'r traddodai gadw un copi a sicrhau bod copi yn cael ei roi i'r traddodwr, ac i gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, os yw'n wahanol i'r traddodwr.