No versions valid at: 06/07/2005
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/07/2005. Nid yw'r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn ddilys ar gyfer y pwynt hwn mewn amser.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Valid from 16/07/2005
42.—(1) Mae'r rheoliad hwn a rheoliadau 43 a 44 yn gymwys pan nad yw'r traddodai yn derbyn traddodi llwyth o wastraff peryglus, p'un ai yn gyfan neu'n rhannol.
(2) Nid yw gofynion rheoliad 36(4), 38(6)(b) ac (c), 39(3), neu 40(3) (sy'n ymwneud â dyletswyddau'r traddodai wrth dderbyn y llwyth) yn ôl y digwydd, yn gymwys i draddodai mewn perthynas â llwyth, neu ran ohono, a wrthodwyd.
(3) Os rhoddwyd copïau o'r nodyn traddodi ynglyn â llwyth a wrthodwyd i'r traddodai, rhaid iddo—
(a)dangos ar Ran E o bob copi y mae'n ei gael nad yw'n derbyn y llwyth, neu ran o'r llwyth yn ôl y digwydd, a'r rhesymau pam nad yw'n derbyn y llwyth neu ran o'r llwyth;
(b)cadw un copi;
(c)rhoi un copi i'r cludwr; a
(ch)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon copi at y traddodwr, ac (os yw'n wahanol i'r traddodwr) y cynhyrchydd neu'r deiliad, os yw'n hysbys.
(4) Os na roddwyd copïau o'r nodyn traddodi i'r traddodai rhaid iddo—
(a)paratoi esboniad ysgrifenedig o'i resymau dros beidio â derbyn y traddodi, gan gynnwys y manylion sy'n hysbys iddo am y llwyth, cynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, y traddodwr a'r cludwr;
(b)rhoi'r cyfryw esboniad ysgrifenedig i'r cludwr;
(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon un copi at y traddodwr, ac (os yw'n wahanol i'r traddodwr) y cynhyrchydd neu'r deiliad, os yw'n hysbys; ac
(ch)cadw copi o'i esboniad ysgrifenedig.
(5) Wrth gael ei hysbysu nad yw'r traddodai yn derbyn traddodi'r llwyth neu ran o'r llwyth, rhaid i'r cludwr—
(a)hysbysu'r Asiantaeth;
(b)gofyn am gyfarwyddiadau gan gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus; ac
(c)cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y cyfarwyddiadau hynny yn cael eu cyflawni (gan gynnwys cwblhau unrhyw nodyn traddodi ar eu rhan).
(6) Mae'n ddyletswydd ar gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, yn ôl y digwydd, a enwir yn y rhan berthnasol o'r nodyn traddodi—
(a)i wneud trefniadau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i drosglwyddo'r llwyth neu'r rhan o'r llwyth a wrthodwyd i draddodai penodedig arall sy'n dal trwydded gwastraff neu sydd wedi'i gofrestru i gyflawni gweithgaredd esempt ar gyfer adfer neu waredu'r gwastraff; a
(b)i roi, ar unwaith—
(i)cyfarwyddiadau i'r cludwr yn unol â hynny; a
(ii)hysbysiad i'r Asiantaeth o'r trefniadau a'r cyfarwyddiadau.
(7) Mewn unrhyw achos o fewn paragraff (6)(a), os na ellir dod o hyd i unrhyw draddodai amgen o fewn 5 niwrnod busnes, rhaid i gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus a enwir yn y rhan berthnasol o'r nodyn traddodi wneud trefniadau i ddychwelyd y gwastraff i'r fangre y cafodd ei symud ohoni i'w storio yn unol ag amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff hyd nes y deuir o hyd i draddodai addas.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 42 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: