RHAN 6SYMUD GWASTRAFF PERYGLUS

Llwythi a wrthodwyd

Y weithdrefn ar gyfer llwythi amlgasgliad a wrthodwyd44.

(1)

Pan fo dau lwyth neu fwy sy'n ffurfio rhan o amlgasgliad yn cael eu gwrthod a'u bod i gael eu traddodi i'r un traddodai, os yw'r cludwr yn dewis cymhwyso'r weithdrefn amlgasglu a nodir yn rheoliad 38 i draddodi o'r fath, mae'r gofynion canlynol yn gymwys—

(a)

rhaid i'r cludwr—

(i)

paratoi dau gopi o'r nodyn traddodi amlgasgliad, ynghyd ag un copi ar gyfer pob cynhyrchydd neu ddeiliad gwastraff peryglus, yn ôl y digwydd, y mae ei lwyth wedi'i wrthod, ac un copi ar gyfer pob traddodwr, mewn achosion lle nad y traddodwr yw'r cynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, yn ôl y digwydd; a

(ii)

cwblhau Rhannau A a B ar bob copi;

(b)

cyn symud y gwastraff o'r fangre lle cafodd ei draddodi'n wreiddiol—

(i)

rhaid i'r cynhyrchydd, neu'r deiliad, gwblhau'r atodiad i'r nodyn traddodi amlgasgliad ar bob copi a baratowyd gan y cludwr;

(ii)

rhaid i'r traddodwr a'r cludwr lofnodi eu priod ddatganiadau i'r atodiad i'r nodyn traddodi amlgasgliad ar bob copi a baratowyd gan y cludwr;

(iii)

rhaid i'r cludwr drosglwyddo copi sydd wedi'i gwblhau i'r cynhyrchydd neu'r deiliad ym mhob achos (ac os nad y cynhyrchydd yw'r traddodwr, i'r traddodwr).

(c)

wrth draddodi'r gwastraff i'r traddodai newydd—

(i)

rhaid i'r cludwr gwblhau'r manylion sydd i'w cwblhau gan y cludwr yn adran C ar bob copi o'r nodyn traddodi;

(ii)

rhaid i'r cludwr drosglwyddo i'r traddodai bob copi o'r nodyn;

(iii)

rhaid i'r traddodai gwblhau'r manylion sydd i'w cablhau gan y traddodai yn Adran C a chwblhau'r dystysgrif yn Rhan D o'r nodyn ar bob copi o'r nodyn; a

(iv)

rhaid i'r traddodai ddychwelyd un copi o'r nodyn a gwblhawyd i'r cludwr.