RHAN 7COFNODION AC ATEBION

Cofnodion safle

Cofnodion gwastraff peryglus sydd wedi'i dipio (ei ollwng)

47.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n tipio (neu'n gollwng) gwastraff peryglus (p'un ai wrth ei waredu neu ei storio) yn neu ar unrhyw dir gofnodi ac enwi'r gwastraff yn unol â gofynion canlynol y rheoliad hwn a rheoliad 51.

(2Rhaid i gofnod gynnwys naill ai—

(a)cynllun safle wedi'i farcio â grid, neu

(b)cynllun safle â throsgaenau lle dangosir dyddodion y gwastraff sy'n cael ei dipio (ei ollwng) mewn perthynas â chyfuchliniau'r safle.

(3Mae cofnodion a wneir o dan y rheoliad hwn i'w cadw mewn cofrestr.

(4Rhaid enwi'r dyddodion drwy gyfeirio at—

(a)y disgrifiad perthnasol a'r cod chwe digid yn y Rhestr Wastraffoedd, ynghyd â disgrifiad o gyfansoddiad y gwastraff; a

(b)y nodyn traddodi sy'n ymwneud â'r gwastraff hwnnw, ac eithrio lle gwaredir gwastraff o fewn cwrtil y fangre lle cynhyrchir ef, pan mae'n rhaid disgrifio'r dyroddion drwy gyfeirio at yr ateb chwarterol a roddir i'r Asiantaeth gan gynhyrchydd y gwastraff peryglus o dan reoliad 53.

(5Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofrestr yn unol â'r rheoliad hwn—

(a)diweddaru'r gofrestr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag o fewn 24 awr ar ôl derbyn y gwastraff, neu'r dyddodion, yn ôl y digwydd;

(b)cadw'r gofrestr ar y safle lle mae'r tipio'n digwydd; ac

(c)cadw'r cofnodion—

(i)am dair blynedd ar ôl dyddodi'r gwastraff; neu

(ii)os oes ganddo drwydded gwastraff y gweithredir y safle yn unol â hi, hyd nes y bydd y drwydded honno wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.

(6Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o oriau at ddibenion y rheoliad hwn neu reoliad 48, dim ond y diwrnodau neu oriau unrhyw ddiwrnod busnes sydd i'w cyfrif.