RHAN 7COFNODION AC ATEBION

Cofnodion safle

Cofnodion gwaredu neu adfer gwastraff peryglus drwy ddulliau eraill48.

(1)

Rhaid i unrhyw berson sydd—

(a)

yn gwaredu gwastraff peryglus yn neu ar dir (ac eithrio unrhyw waredu y mae rheoliad 47 yn ymdrin ag ef);

(b)

yn adfer gwastraff peryglus yn neu ar dir; neu

(c)

yn derbyn gwastraff peryglus mewn gorsaf drosglwyddo,

gofnodi ac enwi unrhyw wastraff peryglus a dderbyniwyd yn unol â gofynion canlynol y rheoliad hwn a rheoliad 51.

(2)

Rhaid enwi'r gwastraff yn y cofnod drwy gyfeirio at y disgrifiad perthnasol yn y Rhestr Wastraffoedd a'r cod chwe digid, a rhaid i'r hyn a gofnodir gynnwys disgrifiad o gyfansoddiad y gwastraff.

(3)

Rhaid i'r cofnod gynnwys—

(a)

maint, natur a tharddiad unrhyw wastraff o'r fath;

(b)

y nodweddion peryglus perthnasol;

(c)

pan fo'n gymwys, y dull adfer mewn perthynas â'r gwastraff drwy gyfeirio at y Rhif a'r disgrifiad cymwys yn unol ag Atodiad IIB o'r Gyfarwyddeb Wastraff; a

(ch)

stocrestr yn dangos y lleoliad penodol lle delir y gwastraff.

(4)

Rhaid i gofnodion a wneir o dan y rheoliad hwn gael eu cadw mewn cofrestr.

(5)

Rhaid diweddaru'r gofrestr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag dim hwyrach na 24 awr ar ôl—

(a)

derbyn llwyth o wastraff peryglus;

(b)

unrhyw waith adfer neu waredu a wnaed neu ar ôl rhoi unrhyw wastraff peryglus i'w storio yn yr orsaf drosglwyddo, yn ôl y digwydd; neu

(c)

symud unrhyw wastraff peryglus o'r fangre.

(6)

Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofnodion yn unol â'r rheoliad hwn—

(a)

cadw'r gofrestr o'r cofnodion ar y safle lle gwneir unrhyw waith adfer neu lle gweithredir yr orsaf drosglwyddo, yn ôl y digwydd; a

(b)

cadw'r cofnodion—

(i)

lle'r adferir y gwastraff peryglus yn llawn, neu lle mae'n aros yn yr orsaf drosglwyddo, yn ôl y digwydd, nes y bydd yn gadael y safle ac am dair blynedd wedyn; neu

(ii)

os oes ganddo drwydded gwastraff y gweithredir y safle yn unol â hi, hyd nes y bydd y drwydded honno wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.