Search Legislation

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

Newidiadau dros amser i: Adran 5

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 16/07/2005.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Dehongli'n GyffredinolLL+C

5.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “amlgasgliad” (“multiple collection”) yr ystyr a roddir gan reoliad 38;

mae i “ardal harbwr” yr un ystyr â “harbour area” yn Rheoliadau Sylweddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 1987(1);

mae i “argyfwng neu berygl difrifol” (“emergency or grave danger”) yr ystyr a roddir gan reoliad 61;

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw Asiantaeth yr Amgylchedd;

ystyr “atodlen y cludwyr” (“schedule of carriers”) yw'r ffurf ar atodlen a nodir yn Atodlen 5 ac y mae'n ofynnol ei chwblhau pan fo mwy nag un cludwr yn cludo, neu i gludo, y llwyth;

ystyr “cludwr” (“carrier”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw person sy'n cymryd un neu fwy o'r camau canlynol, sef, casglu'r llwyth o'r fangre lle cafodd ei gynhyrchu neu o'r fangre lle mae'n cael ei gadw, ei draddodi i'r traddodai, neu ei gludo wrth ei drosglwyddo o'r fangre honno i'r traddodai;

ystyr “cod chwe digid” (“six digit code”) yw'r cod chwe digid sy'n cyfeirio at fath o wastraff yn unol â'r Rhestr Wastraffoedd, ac mewn perthynas â gwastraff peryglus, mae'n cynnwys y seren;

mae “cod traddodi” (“consignment code”) i'w ddehongli'n unol â rheoliad 34(1);

mae “cymysgu” (“mixing”) i'w ddehongli'n unol â rheoliad 18;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “chwarter” (“quarter”) yw unrhyw gyfnod o dri mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(2);

ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995(3);

ystyr “diwrnod busnes” (“business day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw—

(a)

unrhyw ddydd Sadwrn neu unrhyw ddydd Sul;

(b)

unrhyw ddydd Gwener y Groglith neu unrhyw ddydd Nadolig;

(c)

unrhyw ddiwrnod sy'n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4); neu

(ch)

unrhyw ŵyl gyhoeddus arall;

ystyr “SIC” (“SIC”) yw'r cyhoeddiad sy'n dwyn y teitl “the UK Standard Industrial Classification of Economic Activities 2003” a baratowyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'i gyhoeddi gan Wasg ei Mawrhydi ar 31 Rhagfyr 2002 ac a weithredwyd ar 1 Ionawr 2003(5);

ystyr “esemptiad cofrestredig” (“registered exemption”) yw gweithgaredd a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau 1994 ac sydd wedi'i gofrestru gyda'r awdurdod cofrestru priodol yn unol â'r Rheoliadau hynny;

ystyr “gwasanaethau brys” (“emergency services”) yw gwasanaeth yr heddlu, y gwasanaeth tân a'r gwasanaeth ambiwlans y mae'n debygol y byddai'n rhaid iddynt ymateb i argyfwng;

ystyr “gwasanaeth symudol” (“mobile service”) yw gwasanaeth sy'n cael ei weithredu o fangre ac sy'n cynnwys un neu ragor o'r gweithgareddau canlynol, sef, adeiladu, cynnal a chadw neu drwsio unrhyw fangre arall, neu sy'n cynnwys unrhyw osodion, ffitiadau neu gyfarpar a leolir yn y fangre arall honno, a hwnnw'n wasanaeth y mae gweithredydd y gwasanaeth yn cynhyrchu gwastraff peryglus wrth gynnal y gwasanaeth hwnnw yn y fangre arall honno;

ystyr “gwastraff asbestos” (“asbestos waste”) yw gwastraff sy'n cynnwys asbestos neu a halogwyd ganddo;

mae i “gwastraff nad yw'n beryglus” (“non-hazardous waste”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 7;

mae “gwastraff peryglus” (“hazardous waste”) i'w ddehongli yn unol â rheoliad 6;

ystyr “llong” (“ship”) yw cwch o unrhyw fath gan gynnwys cwch ymsuddol, cwch arnofiol ac unrhyw strwythur sy'n llwyfan gosodedig neu arnofiol;

mae i “llong y Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom ship” yn adran 1 o Ddeddf Llongau Masnachol 1995(6);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw long ac unrhyw gyfrwng cludo arall y mae gwasanaeth symudol yn cael ei weithredu ohono;

ystyr “nodyn traddodi” (“consignment note”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw ffurflen adnabod y mae'n ofynnol iddi fynd gyda'r gwastraff peryglus pan drosglwyddir ef yn unol ag Erthygl 5(3)(7) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus;

ystyr “nodyn traddodi amlgasgliad” (“multiple collection consignment note”) yw'r nodyn traddodi a nodir yn Atodlen 6 ac y mae'n ofynnol ei ddefnyddio mewn perthynas ag amlgasgliadau;

mae i “person awdurdodedig” yr ystyr a roddir i “authorised person” gan adran 108(15) o Ddeddf 1995;

ystyr “Rheoliadau 1994” (“the 1994 Regulations”) yw Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994(8);

ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Gwastraff Arbennig 1996(9);

ystyr “SEPA” yw Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban;

ystyr “traddodai” (“consignee”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw'r person y mae'r gwastraff yn cael neu i'w drosglwyddo iddo i'w adfer neu ei waredu;

ystyr “traddodwr” (“consignor”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw'r person sy'n peri bod y gwastraff hwnnw'n cael ei symud o'r fangre lle cafodd y gwastraff ei gynhyrchu neu lle cedwir ef;

mae i “trwydded gwastraff” yr un ystyr â “waste permit” yn Atodlen 4 i Reoliadau 1994; ac

mae i “trwydded rheoli gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste management licence” gan adran 35(1) o Ddeddf 1990.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae gan yr ymadroddion canlynol (sef yr ymadroddion a ddiffinnir yn Erthygl 1(b) i (g) o'r Gyfarwyddeb Wastraff) yr ystyron sydd ganddynt yn y gyfarwyddeb honno, sef —

ystyr “cynhyrchydd” (“producer”) yw unrhyw un y mae ei weithgareddau yn cynhyrchu gwastraff (“y cynhyrchydd gwreiddiol” (“the original producer”)) neu unrhyw un sy'n gwneud gwaith rhagbrosesu, cymysgu neu weithrediadau eraill sy'n golygu bod newid yn natur neu yng nghyfansoddiad y gwastraff hwn;

ystyr “deiliad” (“holder”) yw cynhyrchydd y gwastraff neu'r person y mae'r gwastraff yn ei feddiant;

ystyr “rheoli” (“management”) yw casglu, cludo, adfer a gwaredu gwastraff, gan gynnwys goruchwylio gweithrediadau o'r fath ac ôl-gofal ar safleoedd gwaredu;

ystyr “gwaredu” (“disposal”) yw unrhyw un o'r gweithrediadau y darperir ar eu cyfer yn Atodiad IIA o'r Gyfarwyddeb Wastraff;

ystyr “adfer” (“recovery”) yw unrhyw rai o'r gweithrediadau y darperir ar eu cyfer yn Atodiad IIB o'r Gyfarwyddeb Wastraff(10); ac

ystyr “casglu” (“collection”) yw crynhoi, sortio neu gymysgu gwastraff neu unrhyw un neu fwy o'r gweithrediadau hynny, at ddibenion cludo,

ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)caniateir i unrhyw ddogfen sydd i'w darparu neu i'w rhoi i unrhyw berson (heblaw hysbysiad cosb benodedig o dan Ran 10) gael ei darparu neu ei rhoi i'r person hwnnw ar ffurf electronig os oes modd i'r testun hwnnw gael ei gynhyrchu gan y person hwnnw ar ffurf dogfen sy'n weladwy ac yn ddarllenadwy;

(b)caiff unrhyw ofyniad i wneud neu gadw cofnod neu i ddal gafael ar gofnod neu i gadw cofrestr ei fodloni ar ffurf electronig os oes modd i'r testun hwnnw gael ei gynhyrchu gan y person hwnnw ar ffurf dogfen sy'n weladwy ac yn ddarllenadwy;

(c)caiff unrhyw ofyniad i lofnodi hysbysiad, nodyn traddodi, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad ei fodloni gan lofnod electronig wedi ei ymgorffori yn y ddogfen; ac

(ch)ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw data ar ffurf electronig sydd wedi'i atodi i ddata electronig arall neu wedi'i gysylltu'n rhesymegol ag ef ac sy'n gweithredu fel dull dilysu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 5 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

(1)

O.S. 1987/37, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(5)

ISBN 0116216417.

(7)

O dan Erthygl 5(3) mae'n ofynnol i'r nodyn traddodi gynnwys y manylion a bennir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 94/774/EC (OJ Rhif L 310, 3/12/1994 t. 70; disgwylir y caiff y penderfyniad hwn ei newid ym Mehefin 2005). Ceir y gofynion perthnasol yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.

(9)

O.S. 1996/972 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/2019, 1997/251, 2001/3148.

(10)

Dehonglwyd ystyron “gwaredu” (“disposal”) ac “adfer” (“recovery”) gan Lys Cyfiawnder Ewrop yn C-6/00. Dyfarnodd y Llys (ym mharagraff 60 o'r dyfarniad) fel a ganlyn: “…the intention of Annexes II A and II B to the Directive is to list the most common disposal and recovery operations and not precisely and exhaustively to specify all the disposal and recovery operations covered by the Directive.”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources