xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
70.—(1) Pan fydd gan berson awdurdodedig sy'n gweithredu ar ran yr Asiantaeth reswm i gredu bod person wedi cyflawni tramgwydd o dan reoliad 65 y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, caiff y person awdurdodedig roi hysbysiad i'r person hwnnw yn cynnig cyfle iddo ryddhau ei hun oddi wrth unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y tramgwydd hwnnw drwy dalu cosb benodedig.
(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i dramgwydd sy'n golygu—
(a)methiant i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad mewn unrhyw un o'r rheoliadau a restrir yn rheoliad 69(1)(a) i (ff); neu
(b)gwneud datganiad anwir neu gamarweiniol gan honni cydymffurfio ag unrhyw un o'r rheoliadau a restrir yn rheoliad 69(1)(a) i (ff).
(3) Os rhoddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â thramgwydd—
(a)ni ellir dwyn achos am y tramgwydd hwnnw cyn pen wyth diwrnod ar hugain ar ôl dyddiad yr hysbysiad; a
(b)ni cheir ei gollfarnu o'r tramgwydd hwnnw os yw'n talu'r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(4) Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn roi'r manylion hynny am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn golygu tramgwydd fel sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi gwybodaeth resymol am y tramgwydd a rhaid iddo ddatgan—
(a)o fewn pa gyfnod, yn rhinwedd paragraff (3), ni ddygir achos am y tramgwydd;
(b)swm y gosb benodedig; ac
(c)enw'r person y telir y gosb benodedig iddo a'r cyfeiriad lle gellir talu.
(5) Heb leihau effaith talu drwy unrhyw ddull arall, ceir talu cosb benodedig drwy anfon llythyr y talwyd amdano ymlaen llaw a'i bostio at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw sy'n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall).
(6) Os anfonir llythyr yn unol â pharagraff (5) bernir bod taliad wedi'i wneud ar yr amser y byddid yn traddodi'r llythyr hwnnw yn nhrefn arferol y post.
(7) Rhaid anfon hysbysiad o gosb benodedig a ddyroddwyd yn unol â'r adran hon yn y ffurf a osodir yn Atodlen 10.
(8) Y gosb benodedig sy'n daladwy yn unol â hysbysiad o dan y rheoliad hwn yw £300; ac o ran y symiau a dderbynnir gan neu ar ran yr Asiantaeth, rhaid talu'r symiau hynny i'r Cynulliad.
(9) Mewn unrhyw achos mae tystysgrif—
(a)sy'n cymryd arni ei bod wedi'i llofnodi gan neu ar ran prif swyddog cyllid yr Asiantaeth;
(b)sy'n datgan y daeth neu na ddaeth taliad o gosb benodedig i law ai peidio erbyn y dyddiad a bennwyd yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o'r ffeithiau a ddatganwyd.
(10) Ym mharagraff (9), ystyr “prif swyddog cyllid” yw'r person sydd â'r cyfrifoldeb dros faterion ariannol yr Asiantaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 70 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)